Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Y Tŵr Gwylio—Rhifyn Astudio  |  Ionawr 2017

Ymddiried yn Jehofa a Gwna Ddaioni

Ymddiried yn Jehofa a Gwna Ddaioni

Trystia’r ARGLWYDD a gwna beth sy’n dda.”—Salm 37:3.

CANEUON: 133, 63

1. Pa alluoedd rhyfeddol mae Jehofa wedi eu rhoi i fodau dynol?

RHODDODD Jehofa alluoedd rhyfeddol i fodau dynol. Cawson ni’n creu â’r gallu i ddatrys problemau a chynllunio ar gyfer y dyfodol. (Diar. 2:11) Rhoddodd inni’r gallu i weithredu ein cynlluniau ac i gyflawni ein hamcanion. (Phil. 2:13) Rhoddodd inni hefyd gydwybod—ein cwmpawd moesol cynhenid—sydd yn ein helpu i osgoi gwneud drwg ac i gywiro ein camgymeriadau.—Rhuf. 2:15.

2. Sut mae Jehofa’n disgwyl inni ddefnyddio ein galluoedd?

2 Mae Jehofa’n disgwyl inni ddefnyddio ein doniau i wneud pethau da. Pam? Oherwydd ei fod yn ein caru ni ac yn gwybod mai dyna fydd yn ein gwneud ni’n hapus. Er enghraifft, yn yr Ysgrythurau Hebraeg, ceir yr anogaeth: “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled”; a “Gwna dy orau glas beth bynnag wyt ti’n ei wneud.” (Diar. 21:5; Preg. 9:10) Yn yr Ysgrythurau Groeg, dywed: “Felly bob cyfle gawn ni, gadewch i ni wneud daioni i bawb”; ac “mae Duw yn ei haelioni wedi  rhannu rhyw ddawn neu’i gilydd i bob un ohonoch, a dylech wneud defnydd da ohoni trwy wasanaethu pobl eraill.” (Gal. 6:10; 1 Pedr 4:10) Mae’n amlwg fod Jehofa eisiau inni wneud beth bynnag y gallwn er mwyn inni ein helpu ein hunain ac eraill.

3. Pa gyfyngiadau sydd ar alluoedd bodau dynol?

3 Ar yr un pryd, mae Jehofa yn gwybod bod cyfyngiadau ar alluoedd bodau dynol. Ni allwn gael gwared ar amherffeithrwydd, pechod, a marwolaeth, ac ni allwn reoli pobl eraill, oherwydd y mae gan bawb ewyllys rhydd. (1 Bren. 8:46) Ac ni waeth faint o wybodaeth neu brofiad sydd gennyn ni, rydyn ni bob amser fel plant o’n cymharu â Jehofa.—Esei. 55:9.

Wrth ddelio â phroblemau, “trystia’r ARGLWYDD a gwna beth sy’n dda”

4. Beth byddwn yn ei ystyried yn yr erthygl hon?

4 Ym mhob sefyllfa, mae’n rhaid inni ddibynnu ar Jehofa am arweiniad, gan ymddiried ynddo ef i’n cynnal ni ac i wneud y pethau na allwn ni eu gwneud droson ni’n hunain. Ar yr un pryd, dylen ni wneud yr hyn a allwn i ddatrys problemau ac i helpu eraill. (Darllen Salm 37:3.) Yn syml, mae angen inni ymddiried yn Jehofa a gwneud beth sy’n dda. I’r perwyl hwn, gad inni weld beth y gallwn ei ddysgu o esiamplau Noa, Dafydd, a gweision ffyddlon eraill a ddibynnodd ar Jehofa ac a wnaeth yr hyn a allen nhw. Fel y gwelwn, roedd hyn yn golygu gwahaniaethu rhwng yr hyn na allen nhw ei wneud a’r hyn y gallen nhw ei wneud, ac yna gweithredu.

YNG NGHANOL DRYGIONI

5. Disgrifia’r sefyllfa a oedd yn wynebu Noa.

5 Roedd Noa yn byw mewn byd lle “roedd trais a chreulondeb ym mhobman.” (Gen. 6:4, 9-13) Gwyddai fod Jehofa am roi terfyn ar y byd drwg hwnnw. Er hynny, mae’n rhaid bod y drygioni wedi peri gofid iddo. Yn y sefyllfa honno, roedd Noa yn derbyn na allai wneud rhai pethau ond y gallai wneud rhai pethau eraill.

Gwrthwynebiad i’n gwaith pregethu (Gweler paragraffau 6-9)

6, 7. (a) Beth na allai Noa ei wneud? (b) Sut mae ein sefyllfa ni yn debyg i sefyllfa Noa?

6 Yr hyn na allai Noa ei wneud: Er i Noa gyhoeddi rhybudd Jehofa yn ffyddlon,  ni allai orfodi’r drygionus o’i gwmpas i wrando ar ei neges, ac ni allai wneud i’r Dilyw ddod yn gynt. Roedd yn rhaid i Noa ymddiried yn Jehofa i gadw at ei addewid a chael gwared ar ddrygioni ar yr union adeg gywir.—Gen. 6:17.

7 Rydyn ninnau hefyd yn byw mewn byd llawn drygioni y mae Jehofa wedi addo ei ddinistrio. (1 Ioan 2:17) Yn y cyfamser, ni allwn orfodi pobl i dderbyn “y newyddion da am deyrnasiad Duw.” Ac nid oes dim y gallwn ni ei wneud i brysuro’r gorthrymder mawr. (Math. 24:14, 21) Fel Noa, gyda ffydd gadarn rydyn ni’n ymddiried yn Nuw i ymyrryd yn fuan. (Salm 37:10, 11) Rydyn ni’n sicr na fydd Jehofa yn caniatáu i ddrygioni bara am un diwrnod yn hirach na’r hyn y mae ei fwriad yn gofyn amdano.—Hab. 2:3.

8. Sut roedd Noa yn canolbwyntio ar yr hyn y gallai ei wneud? (Gweler y llun agoriadol.)

8 Yr hyn y gallai Noa ei wneud: Yn lle rhoi’r gorau iddi oherwydd yr hyn na allai ei wneud, canolbwyntiodd Noa ar yr hyn y gallai ei wneud, sef “galw ar bobl i fyw yn ufudd i Dduw.” (2 Pedr 2:5) Yn sicr, byddai hynny wedi cryfhau ffydd Noa. Yn ogystal â phregethu, defnyddiodd Noa ei allu meddyliol a chorfforol i wneud y gwaith a roddwyd iddo gan Dduw, sef adeiladu’r arch.—Darllen Hebreaid 11:7.

9. Sut gallwn ni ddilyn esiampl Noa?

9 Fel Noa, rydyn ninnau hefyd yn ymroi “yn llwyr i waith yr Arglwydd.” (1 Cor. 15:58) Gall y gwaith hwn gynnwys codi a chynnal adeiladau ar gyfer addoli, gwirfoddoli mewn cynulliadau a chynadleddau, neu ofalu am aseiniadau mewn swyddfa gangen neu swyddfa gyfieithu. Yn anad dim, rydyn ni’n cadw’n brysur yn y gwaith pregethu, ac mae hynny’n cadw ein gobaith yn ddisglair. Dywedodd un chwaer: “Wrth siarad ag eraill am fendithion Teyrnas Dduw, [rwyt] yn sylweddoli does gan bobl ddim gobaith, a dydyn nhw ddim yn gweld unrhyw ateb i’w problemau.” Mae cael rhan yn y gwaith pregethu yn cryfhau ein gobaith a’n penderfyniad i ddal ati yn y ras am fywyd—1 Cor. 9:24.

 PAN FYDDWN NI’N SYRTHIO’N FYR

10. Disgrifiwch y sefyllfa a wynebodd Dafydd.

10 Roedd Jehofa yn caru’r Brenin Dafydd yn fawr iawn. (Act. 13:22) Ar y cyfan, roedd Dafydd wedi byw bywyd ffyddlon. Eto, fe bechodd yn ddifrifol. Godinebodd gyda Bathseba. I wneud pethau’n waeth, ceisiodd guddio ei bechod drwy gynllwynio i Wreia, gŵr Bathseba, gael ei ladd ar faes y gad. Aeth Dafydd mor bell ag anfon y llythyr a oedd, i bob diben, yn ddedfryd marwolaeth, trwy law Wreia ei hun! (2 Sam. 11:1-21) Wrth gwrs, daeth y gwirionedd am bechodau Dafydd i’r golwg. (Marc 4:22) Pan ddigwyddodd hynny, beth oedd ymateb Dafydd?

11, 12. (a) Ar ôl iddo bechu, beth na allai Dafydd ei wneud? (b) Os ydyn ni’n edifarhau ar ôl pechu’n ddifrifol, beth mae Jehofa yn sicr o’i wneud?

11 Yr hyn na allai Dafydd ei wneud: Ni allai Dafydd ddad-wneud ei gamgymeriadau na dianc rhag y canlyniadau. Byddai rhai o’r canlyniadau yn effeithio ar Dafydd am weddill ei oes. (2 Sam. 12:10-12, 14) Felly, roedd angen ffydd. Roedd yn rhaid i Dafydd gredu y byddai Jehofa yn maddau iddo, pe bai’n wir edifar, ac yn ei helpu i ymdopi â chanlyniadau ei bechodau.

Pechodau’r gorffennol (Gweler paragraffau 11-14)

12 Rydyn ni i gyd yn amherffaith ac yn pechu. Mae rhai camgymeriadau yn fwy difrifol nag eraill. Mewn rhai achosion, ni fyddwn ni’n gallu dad-wneud ein camgymeriadau a bydd rhaid inni fyw gyda’r canlyniadau. (Gal. 6:7) Ond rydyn ni’n credu y bydd Jehofa, os ydyn ni’n edifar, yn ein cynnal drwy gyfnodau anodd, er mai ni efallai a achosodd yr anawsterau yn y lle cyntaf.—Darllen Eseia 1:18, 19; Actau 3:19.

13. Sut gwnaeth Dafydd wella’n ysbrydol?

13 Yr hyn y gallai Dafydd ei wneud: Caniataodd Dafydd i Jehofa ei helpu i wella’n ysbrydol. Er enghraifft, derbyniodd ei gywiro gan y proffwyd Nathan. (2 Sam. 12:13) Gweddïodd Dafydd yn daer, gan gyffesu ei bechodau a cheisio adfer ei berthynas dda â Jehofa. (Salm 51:1-17) Yn hytrach na gadael i euogrwydd ei barlysu, dysgodd Dafydd oddi wrth ei gamgymeriadau. Yn wir, ni wnaeth ailadrodd y camgymeriadau difrifol hynny. Flynyddoedd yn ddiweddarach, bu farw Dafydd ac mae ei ffyddlondeb wedi ei gadw’n ddiogel yng nghof Jehofa.—Heb. 11:32-34.

14. Beth gallwn ei ddysgu oddi wrth esiampl Dafydd?

14 Beth gallwn ei ddysgu oddi wrth esiampl Dafydd? Os ydyn ni’n pechu’n ddifrifol, mae’n rhaid inni fynd at Jehofa, edifarhau o’r galon, a gofyn am faddeuant. Dylen ni gyffesu ein pechodau wrtho. (1 Ioan 1:9) Hefyd, mae angen inni fynd at yr henuriaid, sy’n gallu rhoi cymorth ysbrydol inni. (Darllen Iago 5:14-16.) Drwy wneud hyn, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n credu y bydd Duw yn maddau inni ac yn ein hiacháu. Y peth pwysicaf wedyn yw dysgu o’n camgymeriadau, symud ymlaen yn ein gwasanaeth i Jehofa, ac edrych i’r dyfodol yn hyderus.—Heb. 12:12, 13.

MEWN SEFYLLFAOEDD ERAILL

Problemau iechyd (Gweler paragraff 15)

15. Beth rydyn ni’n ei ddysgu oddi wrth esiampl Hanna?

15 Mae’n debyg y gelli di feddwl am weision ffyddlon eraill a ymddiriedodd yn Jehofa a chymryd camau priodol. Er enghraifft, nid oedd Hanna yn gallu, ar ei phen ei hun, newid y ffaith ei bod hi’n ddi-blant. Ond, ymddiriedodd yn Jehofa a daliodd ati i addoli yn y tabernacl a  gweddïo’n daer ar Jehofa. (1 Sam. 1:9-11) Dyna esiampl dda i ni! Pan fyddwn ni’n delio â phroblemau iechyd neu amgylchiadau eraill sydd y tu hwnt i’n rheolaeth, byddwn yn bwrw ein holl bryder ar Jehofa, yn hyderus y bydd yn gofalu amdanon ni. (1 Pedr 5:6, 7) A byddwn yn gwneud popeth y gallwn i gael lles o’r cyfarfodydd a darpariaethau ysbrydol eraill.—Heb. 10:24, 25.

Plant sydd wedi crwydro o’r ffydd (Gweler paragraff 16)

16. Beth gall rhieni ei ddysgu oddi wrth y Samuel oedrannus?

16 Beth am rieni ffyddlon i blant sydd wedi crwydro o’r ffydd? Nid oedd Samuel yn gallu gorfodi ei feibion i aros yn ffyddlon i’r safonau cyfiawn a ddysgodd iddyn nhw. (1 Sam. 8:1-3) Roedd yn rhaid iddo adael y mater yn nwylo Jehofa. Er hynny, roedd Samuel ei hun yn gallu aros yn ffyddlon i’w Dad nefol. (Diar. 27:11) Heddiw, mae rhai Cristnogion yn wynebu sefyllfa debyg. Maen nhw’n sicr fod Jehofa, yn debyg i dad y mab afradlon, yn chwilio am unrhyw gyfle i groesawu’n eu holau y rhai edifar. (Luc 15:20) Ar yr un pryd, mae’r rhieni hyn yn gweithio’n galed i aros yn ffyddlon i Jehofa, gan obeithio y bydd eu hesiampl yn ysgogi eu plant i ddychwelyd i’r gorlan.

Diffyg arian (Gweler paragraff 17)

17. Pam mae esiampl y wraig weddw dlawd mor galonogol?

17 Meddylia hefyd am y wraig weddw dlawd. (Darllen Luc 21:1-4.) Fedrai hi wneud dim ynghylch y pethau drwg a ddigwyddai yn y deml. (Math. 21:12, 13) Ac mae’n debyg nad oedd hi’n gallu gwella ei sefyllfa ariannol. Ond, rhoddodd o’i gwirfodd ddwy geiniog, “y cwbl oedd ganddi i fyw arno.” Roedd y wraig honno’n gwybod y byddai rhoi pethau ysbrydol yn gyntaf yn golygu y byddai Jehofa yn gofalu amdani hi’n faterol. Roedd ei ffydd yn ei chymell i gefnogi addoliad Jehofa. Yn yr un modd, o roi’r Deyrnas yn gyntaf, gallwn fod yn hollol sicr y bydd Jehofa yn gofalu am ein hanghenion. “Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau a gwneud beth sy’n iawn yn ei olwg; wedyn byddwch yn cael y pethau eraill yma i gyd.”—Math. 6:33.

18. Rho enghraifft o frawd yn yr oes fodern a oedd gan yr agwedd iawn.

18 Mae llawer o’n cyd-addolwyr heddiw wedi dangos eu ffydd trwy ymddiried yn Jehofa ac wedi cymryd camau priodol. Ystyriwch brofiad Malcolm, a fu’n ffyddlon tan ei farwolaeth yn 2015. Roedd ef a’i wraig wedi gwasanaethu Jehofa am ddegawdau drwy gyfnodau da ac anodd. “Mae bywyd yn gallu newid yn sydyn, gall fod yn ansicr ac yn anodd ar adegau,” meddai. “Ond mae Jehofa yn bendithio’r rhai sy’n dibynnu arno.” Cyngor Malcolm ydy: “Gweddïa ar Jehofa am iti fod mor brysur ac effeithiol ag y gelli. Canolbwyntia ar yr hyn y gelli di ei wneud, nid ar yr hyn na elli.” *

19. (a) Pam mae testun y flwyddyn ar gyfer 2017 mor addas? (b) Sut byddi di’n rhoi testun y flwyddyn 2017 ar waith yn dy fywyd?

19 Wrth i’r drefn hon fynd “o ddrwg i waeth,” byddwn yn wynebu mwy o anawsterau. “Bydd adegau ofnadwy o anodd yn y cyfnod olaf hwn.” (2 Tim. 3:1, 13) Felly, mae’n bwysicach nag erioed inni beidio â gadael i broblemau ein parlysu. Yn hytrach, mae angen inni ddysgu i ymddiried yn llwyr yn Jehofa a chymryd unrhyw gamau priodol a allwn. Mor addas, felly, yw testun y flwyddyn ar gyfer 2017: “Trystia’r ARGLWYDD a gwna beth sy’n dda.”—Salm 37:3.

Testun y flwyddyn ar gyfer 2017: Ymddiried yn Jehofa a Gwna Ddaioni—Salm 37:3

^ Par. 18 Gweler y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Hydref 2013, tt. 17-20.