Sut y cludwyd tân yn y dyddiau a fu?

Yn ôl yr hanes yn Genesis 22:6, dyma Abraham, er mwyn paratoi ar gyfer poethoffrwm mewn lle pell, “yn rhoi’r coed ar gefn ei fab, Isaac. Wedyn cymerodd y tân a’r gyllell, ac aeth y ddau yn eu blaenau gyda’i gilydd.”

Does dim sôn yn yr Ysgrythurau am y dull a ddefnyddid i gynnau tân yn yr hen amser. Ynglŷn â’r hanes dan sylw, mae o leiaf un ysgolhaig yn credu “na fyddai hi wedi bod yn bosibl cadw fflam yn llosgi drwy gydol taith hir” Abraham ac Isaac. Efallai, yr hyn y cyfeirir ato yw’r offer angenrheidiol ar gyfer cynnau tân.

Fodd bynnag, mae eraill yn dweud nad oedd cynnau tân yn y gorffennol yn orchwyl hawdd ei wneud. Byddai pobl wedi ei chanfod hi’n haws, hyd y gellid, iddyn nhw gael marwor poeth gan eu cymdogion yn hytrach na chynnau tân ar eu pennau eu hunain. Felly, mae nifer o ysgolheigion yn credu bod Abraham wedi cario llestr yn hongian wrth gadwyn a oedd yn cynnwys glo neu olosg byw, wedi ei gribinio o dân y noson cynt. (Esei. 30:14) Gallai’r marwor a gludwyd fel hyn gael eu defnyddio, ynghyd â phriciau coed, i ailgynnau tân ar unrhyw adeg ar hyd y siwrnai.