Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Y Tŵr Gwylio—Rhifyn Astudio  |  Hydref 2017

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oeddet Ti’n Gwybod?

Pam gwnaeth Iesu gondemnio tyngu llwon?

ROEDD Cyfraith Moses yn caniatáu i bobl dyngu llw drwy ddweud rhywbeth tebyg i “dwi’n tyngu llw yn enw Jehofa.” Ond, yn nyddiau Iesu, roedd yr arfer o dyngu llw mor gyffredin fel y byddai’r Iddewon yn mynd ar eu llw ynglŷn â bron popeth roedden nhw yn ei ddweud. Pwrpas hyn oedd gwneud yr hyn roedden nhw’n ei ddweud yn fwy credadwy, ond condemniodd Iesu’r arfer da i ddim hwn ddwywaith. Dywedodd: “Dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na’.”—Mathew 5:33-37; 23:16-22.

Yn ôl y Theological Dictionary of the New Testament, mae’r Talmud yn ein helpu i weld pa mor gyffredin oedd yr arfer o dyngu llwon ymhlith yr Iddewon. Y rheswm dros hyn yw oherwydd bod y Talmud yn esbonio’n fanwl iawn pa lwon roedd rhaid eu cadw, a pha rai y gallai eu torri.

Nid Iesu oedd yr unig un i gondemnio’r arfer drwg hwn. Er enghraifft, ysgrifennodd yr hanesydd Iddewig Flavius Josephus am sect Iddewig a oedd yn osgoi tyngu llwon. Roedd aelodau’r sect honno’n credu bod tyngu llw yn waeth na dweud celwydd. Yn eu barn nhw, os oedd rhaid i rywun dyngu llw er mwyn i bobl eraill ei gredu, mae’n rhaid ei fod yn dweud celwydd. Mae un o lyfrau’r Apocryffa Iddewig, llyfr Ecclesiasticus (23:11), yn dweud: “Un aml ei lwon, un llawn o anghyfraith.” Roedd Iesu’n condemnio mynd ar lw ynglŷn â phethau dibwys. Os ydyn ni’n wastad yn dweud y gwir, ni fydd angen inni dyngu llw i wneud ein geiriau’n fwy credadwy.