Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Y Tŵr Gwylio—Rhifyn Astudio  |  Hydref 2017

Effaith Gweledigaethau Sechareia Arnat Ti

Effaith Gweledigaethau Sechareia Arnat Ti

“Trowch yn ôl ata i, a bydda i’n troi atoch chi.”—SECHAREIA 1:3.

CANEUON: 8986

1-3. (a) Pan ddechreuodd Sechareia broffwydo, beth oedd sefyllfa pobl Jehofa? (b) Pam gofynnodd Jehofa i’w bobl ddychwelyd ato?

SGRÔL yn hedfan, dynes yn eistedd mewn casgen, a dwy ddynes yn hedfan drwy’r awyr ag adenydd yn debyg i rai crëyr. Dyma rai o’r gweledigaethau cyffrous a welodd Sechareia. (Sechareia 5:1, 7-9) Pam rhoddodd Jehofa’r gweledigaethau rhyfeddol hyn i’w broffwyd? Beth oedd sefyllfa’r Israeliaid ar y pryd? A sut gallwn ni heddiw elwa ar y gweledigaethau hyn?

2 Y flwyddyn oedd 537 cyn Crist, ac roedd pobl Jehofa yn llawen iawn. Roedden nhw wedi bod yn gaethion ym Mabilon am 70 o flynyddoedd, ond nawr roedden nhw’n rhydd! Roedden nhw wedi cyffroi yn cael mynd yn ôl i Jerwsalem i ailadeiladu’r deml ac adfer gwir addoliad. Un flwyddyn yn ddiweddarach, gosododd yr Israeliaid sylfaen y deml. Roedd y bobl yn hapus iawn, ac roedden nhw’n “gweiddi  mor uchel roedd i’w glywed o bell.” (Esra 3:10-13) Ond roedd y gwrthwynebiad i’r gwaith adeiladu yn dechrau dwysáu. Roedd yr Israeliaid wedi digalonni cymaint nes iddyn nhw roi stop ar adeiladu’r deml. Yn hytrach, roedden nhw’n canolbwyntio ar adeiladu tai iddyn nhw eu hunain ac ar drin eu caeau eu hunain. Un deg chwech o flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd teml Jehofa yn dal heb ei gorffen. Roedd yn rhaid atgoffa pobl Dduw i ddychwelyd at Jehofa ac i stopio meddwl amdanyn nhw eu hunain. Roedd Jehofa eisiau i’w bobl fod yn selog ac yn ddewr wrth iddyn nhw ei addoli.

Mae Jehofa’n derbyn ein haddoliad dim ond os ydyn ni’n gwneud ein gorau

3 Felly, yn y flwyddyn 520, anfonodd Jehofa ei broffwyd Sechareia i helpu ei bobl i gofio pam yr oedd wedi eu rhyddhau nhw o Fabilon. Diddorol yw nodi bod enw Sechareia yn golygu “Mae Jehofa yn Cofio.” Er bod yr Israeliaid wedi anghofio’r hyn roedd Jehofa wedi ei wneud ar eu cyfer, roedd Duw yn dal yn cofio amdanyn nhw. (Darllen Sechareia 1:3, 4.) Addawodd Jehofa eu helpu nhw i adfer gwir addoliad. Ond gwnaeth hefyd eu rhybuddio nhw y byddai’n derbyn eu haddoliad dim ond petaen nhw’n rhoi o’u gorau iddo. Gad inni edrych ar y chweched a’r seithfed o weledigaethau Sechareia. Byddwn ni’n dysgu am sut gwnaeth Jehofa ysgogi’r Israeliaid a sut gall y ddwy weledigaeth ein helpu ni heddiw.

BARNU’R RHAI SY’N DWYN

4. Beth welodd Sechareia yn ei chweched weledigaeth? Pam roedd ysgrifen ar ddwy ochr y sgrôl? (Gweler llun agoriadol 1.)

4 Mae pennod 5 llyfr Sechareia yn cychwyn drwy ddisgrifio gweledigaeth ryfedd. (Darllen Sechareia 5:1, 2.) Mae Sechareia yn gweld sgrôl yn hedfan drwy’r awyr. Roedd y sgrôl hon “tua naw metr o hyd, a phedwar metr a hanner o led.” Roedd y sgrôl ar agor, a neges wedi ei hysgrifennu arni. (Sechareia 5:3) Neges o farn oedd honno. Yn y gorffennol, yr arferiad oedd ysgrifennu dim ond ar un ochr i’r sgrôl. Ond roedd y neges hon mor bwysig nes i’r ddwy ochr gael eu defnyddio.

Mae’n rhaid i Gristnogion osgoi dwyn o unrhyw fath (Gweler paragraffau 5-7)

5, 6. Sut mae Jehofa yn teimlo am ddwyn?

5 Darllen Sechareia 5:3, 4Mae pob unigolyn yn atebol i Dduw am ei weithredoedd. Mae hyn yn enwedig yn wir yn achos pobl Jehofa, oherwydd eu bod nhw’n cael eu hadnabod wrth ei enw. Maen nhw’n ei garu ac yn gwybod bod dwyn yn dod â chywilydd ar ei enw. (Diarhebion 30:8, 9) Efallai fod rhai pobl yn meddwl bod dwyn yn iawn os oes ganddyn nhw reswm da. Dim ots beth yw’r rheswm, mae person sy’n dwyn yn dangos bod ei chwantau barus yn fwy pwysig iddo na Jehofa, ei enw, a’i gyfraith.

6 Wnest ti sylweddoli bod Sechareia 5:3, 4 yn dweud y byddai’r “geiriau melltith” yn mynd “i gartref pob lleidr” ac “yn dinistrio’r tŷ hwnnw’n llwyr”? Felly,  gall Jehofa ddatgelu a barnu unrhyw ddrwgweithredu sy’n digwydd ymhlith ei bobl. Hyd yn oed os ydy person yn gallu cuddio’r drwgweithredu rhag yr heddlu, yr henuriaid, ei gyflogwr, a’i rieni, ni allai guddio’r peth rhag Jehofa. Bydd Duw yn gwneud yn siŵr y bydd unrhyw fath o ddwyn yn cael ei ddatgelu. (Hebreaid 4:13) Rydyn ni’n wir yn mwynhau cael bod yng nghwmni pobl sy’n “ceisio gwneud beth sy’n iawn bob amser”!—Hebreaid 13:18.

7. Sut gallwn ni osgoi melltith y sgrôl sy’n hedfan?

7 Mae unrhyw fath o ddwyn yn digio Jehofa. Anrhydedd yw bod yn ufudd i egwyddorion Jehofa ynglŷn â’r hyn sy’n dda a drwg a byw mewn ffordd sydd ddim yn dod â chywilydd ar ei enw. Trwy wneud hyn, byddwn ni’n osgoi barn Jehofa yn erbyn pobl sydd ddim yn ufudd iddo.

CADW DY AIR “BOB DYDD”

8-10. (a) Beth yw llw? (b) Pa addewid a dorrodd y Brenin Sedeceia?

8 Nesaf, anfonodd y sgrôl sy’n hedfan neges at y rhai a oedd yn defnyddio enw Duw “wrth ddweud celwydd ar lw.” (Sechareia 5:4) Datganiad yw llw sy’n cadarnhau bod rhywbeth yn wir, neu’n addewid pwysfawr i wneud rhywbeth penodol neu i beidio â’i wneud.

9 Mae tyngu llw yn enw Jehofa yn rhywbeth hynod o ddifrifol. Rydyn ni’n dysgu hyn o beth ddigwyddodd i Sedeceia, y brenin olaf i reoli yn Jerwsalem. Tyngodd Sedeceia lw yn enw Jehofa i fod yn ufudd i frenin Babilon. Ond ni wnaeth Sedeceia gadw ei addewid.  Am y rheswm hwn, dywedodd Jehofa wrth Sedeceia y byddai’n “marw yn Babilon, gwlad y brenin wnaeth y cytundeb gydag e’n y lle cyntaf a gadael iddo lywodraethu.”—Eseciel 17:16.

10 Roedd y Brenin Sedeceia wedi gwneud ei addewid yn enw Duw, ac roedd Jehofa yn disgwyl iddo gadw at ei air. (2 Cronicl 36:13) Ond, torrodd Sedeceia ei addewid a gofynnodd i’r Aifft ei helpu i dorri’n rhydd o afael Babilon. Ond doedd yr Aifft ddim yn gallu ei helpu.—Eseciel 17:11-15, 17, 18.

11, 12. (a) Beth yw’r addewid pwysicaf rydyn ni wedi ei wneud? (b) Sut dylai ein hymgysegriad effeithio ar ein bywyd bob dydd?

11 O ddarllen am yr hyn a ddigwyddodd i Sedeceia, dysgwn fod Jehofa yn gwrando ar yr addewidion rydyn ni’n eu gwneud. I’w blesio, mae’n rhaid inni gadw ein haddewidion. (Salm 76:11) Ein hymgysegriad i Jehofa yw’r addewid pwysicaf y gallwn ni ei wneud. Pan fyddwn ni’n ymgysegru iddo, rydyn ni’n addo ei wasanaethu dim ots beth fydd yn digwydd yn ein bywydau.

12 Sut gallwn ni gadw ein haddewid i Jehofa? “Bob dydd,” rydyn ni’n dod o dan brawf ac yn wynebu treialon mawr a bach. Rydyn ni’n dangos i Jehofa pa mor gryf yw ein perthynas ag ef drwy’r ffordd rydyn ni’n delio gyda’r treialon hyn. (Salm 61:8) Er enghraifft, beth byddi di’n ei wneud os bydd rhywun yn yr ysgol neu yn y gweithle yn dechrau fflyrtio â thi? A fyddi di’n gwrthod y sylw ac yn dangos i Jehofa dy fod ti eisiau ufuddhau iddo? (Diarhebion 23:26) Neu beth petaet tithau yw’r unig un yn dy deulu sy’n addoli Jehofa? Wyt ti’n gofyn i Jehofa am help i barhau i ymddwyn mewn ffordd Gristnogol? Beth bynnag yw dy sefyllfa, a wyt ti’n diolch i Jehofa bob dydd am ei gariad a’i ofal? A wyt ti’n rhoi amser o’r neilltu ar gyfer darllen y Beibl bob dydd? Mewn ffordd, gwnaethon ni addo gwneud y pethau hyn pan wnaethon ni gysegru ein bywyd i Jehofa. Pan fyddwn ni’n ufudd iddo ac yn rhoi o’n gorau, rydyn ni’n dangos i Jehofa ein bod ni’n ei garu ac yn perthyn iddo. Mae ein haddoliad yn ffordd o fyw. Ac oherwydd ein bod ni’n ffyddlon i Jehofa, mae’n addo dyfodol disglair inni.—Deuteronomium 10:12, 13.

Drwy ei esiampl ei hun, mae Jehofa yn ein dysgu bod rhaid inni gadw ein haddewidion

13. Beth ddysgwn ni o ddarllen chweched weledigaeth Sechareia?

13 Mae chweched weledigaeth Sechareia yn ein helpu i ddeall na fyddwn ni byth yn dwyn nac yn torri ein haddewidion os ydyn ni’n caru Jehofa. Hefyd, rydyn ni’n dysgu bod Jehofa, er bod yr Israeliaid wedi gwneud llawer o gamgymeriadau, wedi cadw ei addewid i beidio â chefnu ar ei bobl. Roedd Duw’n gwybod eu bod nhw mewn sefyllfa anodd, a’u bod nhw wedi eu hamgylchynu gan eu gelynion. Drwy ei esiampl ef ei hun, mae Jehofa yn ein dysgu i  gadw ein haddewidion bob amser. A gallwn fod yn sicr y bydd Duw yn ein helpu i wneud hynny. Un ffordd y mae Jehofa yn ein helpu yw drwy roi gobaith am y dyfodol inni. Yn fuan, bydd yn cael gwared ar bob drygioni ar y ddaear. Gallwn ddarllen am y gobaith hwn yng ngweledigaeth nesaf Sechareia.

DILEU DRYGIONI

14, 15. (a) Beth welodd Sechareia yn ei seithfed weledigaeth? (Gweler llun agoriadol 2.) (b) Pwy oedd y ddynes y tu mewn i’r gasgen? Pam gwnaeth yr angel roi’r caead yn ei ôl ar y gasgen?

14 Ar ôl i Sechareia weld y sgrôl sy’n hedfan, dywedodd angel wrtho: “Edrych!” Gwelodd Sechareia gasgen. (Darllen Sechareia 5:5-8.) Roedd gan y gasgen gaead wedi ei wneud o blwm. Pan agorwyd y gasgen, dyma Sechareia yn gweld “gwraig yn eistedd yn y gasgen!” Esboniodd yr angel i Sechareia fod y ddynes y tu mewn i’r gasgen yn “cynrychioli drygioni.” Dychmyga’r braw a gafodd Sechareia pan welodd y ddynes yn dod allan o’r gasgen! Ond taflodd yr angel y ddynes yn ei hôl i waelod y gasgen a chau’r caead plwm arni. Beth ydy ystyr hyn i gyd?

15 Mae’r weledigaeth hon yn rhoi’r hyder inni na fydd Jehofa yn caniatáu drygioni o unrhyw fath ymhlith ei bobl. Os bydd Jehofa yn gweld rhywbeth drwg, bydd yn gweithredu’n gyflym i gael gwared arno. (1 Corinthiaid 5:13) Roedd yr angel wedi dangos hyn pan roddodd y caead plwm yn syth yn ei ôl ar geg y gasgen.

Addawodd Jehofa gadw ei addoliad yn bur (Gweler paragraffau 16-18)

16. (a) Beth ddigwyddodd i’r gasgen? (Gweler llun agoriadol 3.) (b) I le y cymerodd y merched ag adenydd mawr y gasgen?

 16 Nesaf, gwelodd Sechareia ddwy ddynes ag adenydd mawr fel crëyr. (Darllen Sechareia 5:9-11.) Roedd y merched hyn yn hollol wahanol i’r ddynes ddrwg yn y gasgen. Gyda’u hadenydd mawr, dyma nhw’n codi’r gasgen a “drygioni” ynddi a hedfan i ffwrdd. I le yr oedden nhw’n mynd â hi? Roedden nhw’n mynd â’r gasgen “i wlad Babilonia.” Pam y bydden nhw eisiau mynd â hi i’r lle hwnnw?

17, 18. (a) Pam mai Babilon oedd y lle gorau i fynd â “drygioni” iddo? (b) Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?

17 Byddai’r Israeliaid a oedd yn byw yn nyddiau Sechareia wedi deall pam mai Babilon oedd y lle gorau i fynd â “drygioni” iddo. Roedden nhw’n gwybod bod y ddinas yn llawn anfoesoldeb a gau grefydd. Roedd Sechareia a’r Iddewon eraill a oedd yn byw yno wedi gweithio’n galed bob dydd i wrthsefyll dylanwadau paganaidd. Felly, roedd y weledigaeth hon yn sicrhau y byddai Jehofa yn cadw ei addoliad yn bur.

18 Gwnaeth y weledigaeth hefyd atgoffa’r Iddewon fod ganddyn nhw gyfrifoldeb i gadw eu haddoliad yn bur. Nid yw drygioni ac ni fydd drygioni yn cael ei ganiatáu ymhlith pobl Dduw. Heddiw, mae Jehofa wedi dod â ni i mewn i’w gyfundrefn lân, lle’r ydyn ni’n teimlo ei gariad a’i ofal. Mae’n rhaid i bob un ohonon ni ysgwyddo’r cyfrifoldeb o gadw’r gyfundrefn yn lân. Does dim lle o gwbl i ddrygioni ymhlith pobl Jehofa.

POBL LÂN YN ANRHYDEDDU DUW

19. Beth mae gweledigaethau cyffrous Sechareia yn ei olygu i ni heddiw?

19 Mae’r chweched a’r seithfed o weledigaethau Sechareia yn rhybudd difrifol i’r rhai sy’n drwgweithredu. Ni fydd Jehofa yn caniatáu i ddrygioni barhau. A ninnau’n weision iddo, mae’n rhaid inni gasáu drygioni. Os ydyn ni’n gweithio’n galed i blesio ein Tad cariadus, mae’r gweledigaethau hyn yn dangos na fydd Duw yn ein melltithio ni ond yn ein bendithio ni. Er bod aros yn lân yn y byd hwn yn gallu bod yn anodd, mae hi’n bosib inni lwyddo gyda help Jehofa! Ond sut gallwn ni fod yn sicr y bydd gwir addoliad yn goroesi? Ac wrth i’r gorthrymder mawr nesáu, sut rydyn ni’n gwybod y bydd Jehofa yn amddiffyn ei gyfundrefn? Bydd yr erthygl nesaf yn trafod y cwestiynau hyn.