Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 ERTHYGL ASTUDIO 30

Cyffwrdd â Chalonnau Pobl Ddigrefydd

Cyffwrdd â Chalonnau Pobl Ddigrefydd

“Dw i wedi gwneud fy hun yn bob peth i bawb er mwyn gwneud popeth sy’n bosib i achub pobl.”—1 COR. 9:22.

CÂN 82 ‘Disgleiriwch Eich Golau’

CIPOLWG *

1. Yn y blynyddoedd diwethaf, pa newid sydd wedi digwydd?

AM FILOEDD o flynyddoedd, mae hi’n ymddangos bod gan y rhan fwyaf o bobl yn y byd ryw fath o grefydd. Ond, yn y blynyddoedd diweddar, mae’r sefyllfa wedi newid yn llwyr. Mae mwy a mwy o bobl yn cefnu ar grefydd. Y ffaith amdani yw bod mwyafrif y boblogaeth mewn rhai gwledydd yn dweud nad oes ganddyn nhw grefydd. *Math. 24:12.

2. Beth sydd wrth wraidd llawer yn cefnu ar grefydd?

2 Pam mae mwy a mwy o bobl yn dweud eu bod nhw’n ddigrefydd? * Mae pleserau a phryderon wedi denu sylw rhai. (Luc 8:14) Mae rhai wedi troi’n anffyddwyr. Mae eraill yn credu yn Nuw ond yn meddwl bod crefydd yn hen ffasiwn, neu’n amherthnasol, ac yn meddwl nad yw’n cytuno â gwyddoniaeth a rhesymeg. Hwyrach eu bod nhw’n clywed ffrindiau, athrawon, neu enwogion y cyfryngau’n dweud bod bywyd wedi esblygu, ond prin iawn maen nhw’n clywed rhesymau dilys dros gredu yn Nuw. Bydd eraill yn ffieiddio at glerigwyr sy’n awchu am arian a grym. Mewn rhai llefydd, mae llywodraethau yn cyfyngu ar weithgareddau crefyddol yn swyddogol.

3. Beth yw pwrpas yr erthygl hon?

3 Mae Iesu yn disgwyl inni “wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion.” (Math. 28:19) Sut gallwn ni helpu pobl ddigrefydd i ddysgu i garu Duw a dod yn ddisgyblion Crist?  Mae’n rhaid inni ddeall bod ymateb unigolyn i’n neges yn dibynnu ar le y cafodd ei fagu. Er enghraifft, efallai na fydd pobl o Ewrop yn ymateb yn yr un ffordd â phobl o Asia. Pam? Yn Ewrop, mae llawer yn gwybod rhywbeth am y Beibl ac yn gyfarwydd â’r syniad fod Duw wedi creu pob peth. Ond yn Asia, dyw’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod fawr ddim am y Beibl, ac efallai ddim yn credu mewn Creawdwr chwaith. Bwriad yr erthygl hon yw i’n helpu i gyffwrdd â chalonnau pawb rydyn ni’n cwrdd â nhw yn y weinidogaeth, beth bynnag fo’u cefndir.

CADW AGWEDD BOSITIF

4. Pam mae modd inni gadw agwedd bositif?

4 Bydda’n Bositif. Bob blwyddyn, mae ’na bobl ddigrefydd yn dod yn Dystion Jehofa. Roedd gan lawer ohonyn nhw safonau moesol uchel yn barod ac wedi cael llond bol ar ragrith crefyddol. Roedd gan eraill safonau moesol isel ac arferion drwg y bu’n rhaid cefnu arnyn nhw. Gyda help Jehofa, gallwn fod yn sicr y cawn ni hyd i’r rhai “â’r agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol.”—Act. 13:48, NW; 1 Tim. 2:3, 4.

Addasa dy ffordd o siarad â’r rhai sydd ag amheuon am y Beibl (Gweler paragraffau 5-6) *

5. Beth yn aml fydd yn gwneud i bobl ymateb yn well i’n neges?

5 Bydda’n Garedig ac yn Llawn Tact. Yn aml, bydd pobl yn ymateb yn dda i’n neges, nid oherwydd beth a ddywedwn, ond oherwydd y ffordd y cafodd ei mynegi. Maen nhw’n gwerthfawrogi pan fyddwn ni’n garedig ac yn dangos diddordeb ynddyn nhw. Dydyn ni ddim yn eu gorfodi i wrando ar ein safbwynt. Yn lle hynny, ceisiwn ddeall y rhesymau dros eu daliadau. Er enghraifft, rydyn ni’n dysgu nad yw rhai yn hoff o siarad am grefydd gyda dieithryn. Mae eraill yn teimlo bod gofyn i rywun beth mae’n ei feddwl am Dduw yn anghwrtais. Ac mae cael eu gweld gan eraill yn darllen y Beibl, yn enwedig gyda Thystion Jehofa, yn codi cywilydd ar rai. Beth bynnag yw’r sefyllfa, ceisiwn fod yn sensitif i’w teimladau.—2 Tim. 2:24.

6. Sut dangosodd yr apostol Paul ei fod yn hyblyg, a sut gallwn ninnau ei efelychu?

6 Beth gallwn ei wneud os bydd rhywun yn ymddangos yn anesmwyth pan ddefnyddiwn eiriau fel “Beibl,” “creadigaeth,” “Duw,” neu “crefydd”? Cawn efelychu’r apostol Paul ac addasu’r ffordd rydyn ni’n siarad â nhw. Pan siaradodd Paul â’r Iddewon, rhesymodd o’r Ysgrythurau. Fodd bynnag, pan siaradodd ag athronwyr Groeg yn yr Areopagus, ni chyfeiriodd yn uniongyrchol at y Beibl. (Act. 17:2, 3, 22-31) Sut gallwn ni ddilyn esiampl Paul? Os wyt ti’n cwrdd â pherson sydd ddim yn derbyn y Beibl, gwell fyddai peidio â chyfeirio ato wrth resymu gydag ef. Os wyt ti’n synhwyro y byddai’r person yn anghyfforddus yn cael ei weld yn darllen y Beibl gyda ti, ceisia ddangos yr adnodau mewn ffordd sy’n llai amlwg, fel ar ddyfais electronig.

7. Yn ôl 1 Corinthiaid 9:20-23, sut gallwn ni efelychu Paul?

7 Ceisia Ddeall a Gwrando. Dylen ni geisio deall y ffactorau sydd wedi dylanwadu ar bobl. (Diar. 20:5) Ystyria esiampl Paul eto. Cafodd ei fagu ymhlith Iddewon. Heb os, roedd yn gorfod addasu ei ffordd o bregethu i bobl y cenhedloedd, pobl na wyddai fawr ddim am Jehofa a’r Ysgrythurau. Efallai y bydd rhaid gwneud ymchwil neu siarad â rhai profiadol yn y gynulleidfa er mwyn gallu cydymdeimlo â’r bobl yn ein tiriogaeth a’u deall nhw.—Darllen 1 Corinthiaid 9:20-23.

8. Beth yw’r ffordd orau o ddechrau sgwrs am y Beibl?

8 Ein nod yw cael hyd i “rywun sy’n barod  i’ch croesawu.” (Math. 10:11) I fod yn effeithiol, rhaid inni wahodd pobl i fynegi eu barn ac wedyn gwrando’n ofalus. Mae brawd yn Lloegr yn gofyn i bobl beth yw’r allwedd i briodas hapus, sut i fagu plant, neu sut i ymdopi ag anghyfiawnder. Ar ôl gwrando ar eu sylwadau, mae’n dweud: “Beth ydych chi’n feddwl am y cyngor hwn a gafodd ei ysgrifennu bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl?” Yna, heb ddweud y gair “Beibl,” mae’n dangos adnodau penodol ar ei ffôn iddyn nhw.

CYFFWRDD Â CHALONNAU POBL

9. Sut gallwn ni helpu pobl sydd fel arfer yn osgoi siarad am Dduw?

9 Gallwn gyffwrdd â chalonnau pobl sydd fel arfer yn osgoi siarad am Dduw drwy drafod rhywbeth sy’n agos at eu calonnau nhw. Er enghraifft, mae llawer yn rhyfeddu at fyd natur. Felly, gallwn ddweud rhywbeth fel hyn: “Mae’n debyg eich bod yn gwybod bod llawer o’r pethau y mae dynion wedi eu dyfeisio wedi dod i fodolaeth oherwydd bod gwyddonwyr wedi copïo pethau a oedd eisoes yn bodoli ym myd natur. Er enghraifft, mae dylunwyr meicroffonau yn astudio clustiau, a dylunwyr camerâu yn astudio llygaid. Pan feddyliwch am natur, ydych chi’n meddwl ei fod yn rym hynod o bwerus, yn berson, neu’n rhywbeth arall?” Ar ôl gwrando’n ofalus, gallwn ychwanegu: “Pan fydd cynllun y llygaid a’r clustiau yn dysgu rhywbeth i beirianwyr, oddi wrth bwy y maen nhw’n dysgu? Darllenais i rywbeth hynod ddiddorol gan un o feirdd yr oes a fu: ‘Ydy’r un roddodd siâp i’r glust ddim yn clywed? Ydy’r un wnaeth greu y llygad ddim yn gweld? . . . Fe ydy’r un sy’n dysgu gwersi i’r ddynoliaeth!’ Mae rhai gwyddonwyr wedi dod i’r un casgliad.” (Salm 94:9, 10) Gallen ni ddangos erthygl ar jw.org® o’r gyfres “Safbwyntiau ar Darddiad Bywyd.” (Edrycha o dan DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL > GWYDDONIAETH A’R BEIBL.) Neu gallen ni roi’r llyfryn A Gafodd Bywyd ei Greu? iddyn nhw.

10. Sut gallwn ni ddechrau sgwrs gyda rhywun sydd ddim eisiau siarad am Dduw?

10 Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dyheu am well dyfodol. Ond, mae llawer yn ofni y bydd y ddaear yn cael ei dinistrio a’i gwneud yn rhywle na all neb fyw arni. Dywed arolygwr teithiol yn Norwy fod pobl sydd ddim eisiau siarad am Dduw yn aml yn fodlon siarad am gyflwr y byd. Ar ôl cyfarch pobl, mae’n dweud: “Pa mor  obeithiol ydych chi o gael dyfodol gwell? Ydy ein gobeithion yn nwylo gwleidyddion, gwyddonwyr, neu rywun arall?” Ar ôl gwrando’n astud, mae’n darllen neu’n dyfynnu adnod sy’n sôn am ddyfodol gwell. Mae’n ennyn diddordeb rhai fod y Beibl yn addo y bydd y ddaear yn para am byth a phobl yn byw arni’n dragwyddol.—Salm 37:29; Preg. 1:4.

11. Pam dylen ni amrywio’r ffordd o gyflwyno ein hunain, a sut gallwn ni efelychu esiampl Paul, a ddisgrifir yn Rhufeiniaid 1:14-16?

11 Dylen ni amrywio ein ffordd o gyflwyno’n hunain. Pam? Mae pawb yn wahanol. Mae’r hyn sy’n denu rhai yn gwneud i eraill beidio â gwrando. Mae rhai yn ddigon hapus i sgwrsio am Dduw neu’r Beibl, ond mae’n well gan eraill drafod pethau gwahanol yn gyntaf. Beth bynnag yw’r sefyllfa, dylen ni achub y cyfle i siarad â phob math o bobl. (Darllen Rhufeiniaid 1:14-16.) Wrth gwrs, cofiwn mai Jehofa yw’r un sy’n gwneud i’r gwirionedd dyfu yng nghalonnau’r rhai sy’n caru’r hyn sy’n iawn.—1 Cor. 3:6, 7.

SIARAD AM Y GWIRIONEDD Â PHOBL O ASIA

Mae nifer o gyhoeddwyr y Deyrnas yn dangos diddordeb personol mewn pobl sy’n dod o wledydd nad ydyn nhw’n rhai Cristnogol ac yn rhannu doethineb ymarferol y Beibl â nhw (Gweler paragraffau 12-13)

12. Beth gallwn ni ei wneud i helpu pobl o Asia sydd erioed wedi meddwl am fodolaeth Creawdwr?

12 Yn fyd-eang, mae llawer o gyhoeddwyr yn cwrdd â phobl o wahanol wledydd yn Asia, gan gynnwys gwledydd lle mae’r llywodraeth wedi cyfyngu ar ein gweithgareddau crefyddol. Mewn nifer o wledydd Asiaidd, dydy llawer erioed wedi meddwl o ddifri am fodolaeth Creawdwr. Mae gan rai’r awydd i wybod pethau newydd ac yn derbyn astudiaeth Feiblaidd, ond dydy eraill ddim mor barod i ddysgu. Sut gallwn ni eu helpu? Mae rhai cyhoeddwyr profiadol yn cychwyn sgwrs mewn ffordd gyfeillgar, gan ddangos diddordeb personol, ac wedyn pan fydd hi’n yn briodol, maen nhw’n dweud sut roedd rhoi egwyddor Feiblaidd benodol ar waith wedi newid eu bywydau am y gorau.

13. Beth sy’n gallu denu pobl at y Beibl? (Gweler y llun ar y clawr.)

13 Mae egwyddorion doeth y Beibl yn denu llawer. (Preg. 7:12) Yn Efrog Newydd, mae chwaer sy’n ymweld â phobl Mandarin eu hiaith yn dweud: “Dw i’n ceisio dangos diddordeb mewn pobl a gwrando arnyn nhw. Os dw i’n clywed eu bod nhw newydd gyrraedd o wlad arall, byddaf yn gofyn: ‘Sut rydych chi’n setlo? Ydych chi wedi cael hyd i waith? Ydy’r bobl leol yn eich trin chi’n dda?’” Weithiau bydd hyn yn ei helpu i gyflwyno dysgeidiaeth Feiblaidd. Pan fydd hi’n briodol, bydd y chwaer yn ychwanegu: “Beth ydych chi’n ei feddwl ydy’r peth pwysicaf inni ei wneud er mwyn dod ymlaen yn dda gyda phobl? Ga’ i ddangos dihareb o’r Beibl? Mae’n dweud: ‘Mae dechrau ffrae fel crac mewn argae; gwell tewi cyn i bethau fynd yn draed moch.’ Ydych chi’n meddwl bod y cyngor hwn yn gallu ein helpu i ddod ymlaen ag eraill?” (Diar. 17:14) Gall sgyrsiau fel hyn ein helpu i adnabod y rhai sydd eisiau gwybod mwy.

14. Sut mae un brawd yn y Dwyrain Pell yn helpu pobl sy’n dweud nad ydyn nhw’n credu yn Nuw?

14 Beth am y rhai sy’n dweud nad ydyn nhw’n credu yn Nuw? Mae brawd profiadol iawn sy’n pregethu i bobl ddigrefydd yn y Dwyrain Pell yn esbonio: “Os bydd rhywun yn yr ardal hon yn dweud, ‘Dw i ddim yn credu yn Nuw,’ mae hynny’n golygu nad ydy’r person yn credu yn y duwiau traddodiadol. Fel arfer byddaf yn cytuno bod y rhan fwyaf o dduwiau wedi cael eu gwneud gan ddynion, dydyn nhw ddim yn dduwiau go iawn. Yn aml dw i’n troi at Jeremeia 16:20: ‘Ydy pobl yn gallu gwneud eu duwiau eu hunain? Na! dydy pethau  felly ddim yn dduwiau go iawn.’ Yna dw i’n gofyn: ‘Sut gallwn ni wahaniaethu rhwng duwiau go iawn a rhai wedi eu gwneud gan ddynion?’ Dw i’n gwrando’n ofalus, ac wedyn yn darllen Eseia 41:23: ‘Dwedwch wrthon ni beth sydd i ddod, er mwyn i ni gael gwybod eich bod chi’n dduwiau!’ Yna, dw i’n dangos enghraifft o sut mae Jehofa wedi rhagddweud y dyfodol.”

15. Beth gallwn ei ddysgu oddi wrth esiampl y brawd o Ddwyrain Asia?

15 Dyma’r ffordd y bydd brawd yn Nwyrain Asia yn mynd ati wrth alw’n ôl. “Dw i’n dangos enghreifftiau o ddoethineb y Beibl, proffwydoliaethau sydd wedi eu cyflawni, a chyfreithiau sy’n rheoli’r bydysawd. Yna, dw i’n dangos sut mae’r cyfan yn dangos bod ’na Greawdwr doeth. Pan fydd unigolyn yn derbyn y posibilrwydd fod Duw yn bodoli, dw i’n dechrau dangos iddo beth mae’r Beibl yn ei ddweud am Jehofa.”

16. Yn ôl Hebreaid 11:6, pam y mae myfyrwyr y Beibl angen ffydd yn Nuw ac yn y Beibl, a sut gallwn ni eu helpu i’w meithrin?

16 Pan ydyn ni’n cynnal astudiaethau Beiblaidd gyda phobl o gefndiroedd digrefydd, mae’n rhaid inni ddal ati i feithrin eu cred ym modolaeth Duw. (Darllen Hebreaid 11:6.) Mae angen inni eu helpu i adeiladu eu ffydd yn y Beibl. Gall hyn olygu ein bod ni’n gorfod ailadrodd rhai pwyntiau nifer o weithiau. Bob tro rydyn ni’n astudio gyda nhw, efallai bydd angen inni drafod tystiolaeth sy’n dangos mai Gair Duw yw’r Beibl. Gall hyn gynnwys trafodaeth fer ar sut mae proffwydoliaethau yn y Beibl wedi eu cyflawni, ar sut mae’r Beibl yn gywir yn wyddonol ac yn hanesyddol, neu ar sut mae’n ein helpu yn ein bywyd pob dydd.

17. Pa effaith mae ein cariad yn gallu ei chael ar bobl?

17 Rydyn ni’n helpu pobl i ddod yn ddisgyblion Crist drwy ddangos cariad tuag atyn nhw, p’un a ydyn nhw’n grefyddol neu beidio. (1 Cor. 13:1) Wrth inni eu dysgu, ein nod yw dangos bod Duw yn ein caru a’i fod eisiau i ninnau ei garu yntau. Bob blwyddyn mae miloedd, a oedd gynt heb lawer o ddiddordeb mewn crefydd, yn cael eu bedyddio am eu bod nhw wedi dod i garu Duw. Felly bydda’n bositif, a dangosa ddiddordeb cariadus ym mhobl o bob math. Gwranda arnyn nhw. Ceisia eu deall nhw. Drwy dy esiampl di, dysga nhw i fod yn ddisgyblion Crist.

CÂN 76 Pa Fath o Deimlad Yw?

^ Par. 5 Rydyn ni’n cwrdd â mwy o bobl ddigrefydd nac erioed o’r blaen. Bydd yr erthygl hon yn trafod sut y gallwn ni rannu gwirionedd y Beibl â nhw a sut gallwn ni eu helpu i feithrin ffydd yn y Beibl ac yn Jehofa Dduw.

^ Par. 1 Yn ôl yr arolygon, mae rhai o’r gwledydd hynny yn cynnwys: Albania, Yr Almaen, Aserbaijan, Awstralia, Awstria, Canada, De Corea, Denmarc, Y Deyrnas Unedig, Fietnam, Ffrainc, Hong Cong, Yr Iseldiroedd, Israel, Iwerddon, Japan, Norwy, Sbaen, Sweden, Y Swistir, Tsieina, a’r Weriniaeth Tsiec.

^ Par. 2 ESBONIAD: Yn yr erthygl hon, mae’r term digrefydd yn cyfeirio at bobl sydd ddim yn perthyn i grefydd gyfundrefnol nac yn credu yn Nuw.

^ Par. 54 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn tystiolaethu i gyd-weithiwr yn yr ysbyty, sydd hwyrach ymlaen yn edrych ar ein gwefan jw.org.