Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 HANES BYWYD

Roedd Bendithion Jehofa y Tu Hwnt i Bob Disgwyl

Roedd Bendithion Jehofa y Tu Hwnt i Bob Disgwyl

‘MI DDYLWN i arloesi. Ond, ydy arloesi mor gyffrous â hynny?’ gofynnais i mi fy hun. Roeddwn i’n hoff iawn o fy swydd yn yr Almaen, lle’r oeddwn i’n gofalu am allforio bwyd i lefydd ecsotig yn Affrica, fel Dar es Salaam, Elisabethville, ac Asmara. Wnes i erioed feddwl y byddwn i, un diwrnod, yn gwasanaethu Jehofa yn llawn amser yn y llefydd hynny a llawer o lefydd eraill ar hyd a lled Affrica!

O’r diwedd, pan ddechreuais arloesi, newidiodd fy mywyd mewn ffyrdd a oedd y tu hwnt i bob disgwyl. (Eff. 3:20) Ond efallai dy fod ti’n meddwl sut y digwyddodd hynny. Gad imi ddechrau yn y dechrau.

Ces i fy ngeni yn Berlin, yr Almaen, ychydig fisoedd ar ôl dechrau’r Ail Ryfel Byd ym 1939. Wrth i’r rhyfel ddirwyn i ben ym 1945, cafodd Berlin ei bomio’n drwm o’r awyr. Yn ystod un o’r ymosodiadau hyn, cafodd ein stryd ei tharo, ond gwnaeth fy nheulu a minnau ddianc i loches rhag y bomio. Er ein diogelwch, fe wnaethon ni ffoi i Erfurt, tref enedigol fy mam.

Gyda fy rhieni a’m chwaer yn yr Almaen, tua 1950

Buodd Mam yn chwilio’n daer am y gwirionedd. Darllenodd amryw lyfrau gan athronwyr ac edrychodd ar wahanol grefyddau ond heb gael yr atebion iawn. Tua 1948, galwodd dau o Dystion Jehofa wrth y drws. Cawson nhw eu gwahodd i mewn gan Mam a gofynnodd hi lawer o gwestiynau. Gwta awr wedyn, dywedodd hi wrth fy chwaer iau a minnau, “Dw i wedi cael hyd i’r gwirionedd!” Yn fuan wedi hynny, dechreuodd fy mam, fy chwaer, a minnau fynd i’r cyfarfodydd yn Erfurt.

Ym 1950 symudon ni yn ôl i Berlin, lle roedden ni’n mynychu cyfarfodydd Cynulleidfa Berlin-Kreuzberg. Ar ôl symud eto o fewn Berlin, aethon ni i Gynulleidfa Berlin-Tempelhof. Maes o law, cafodd Mam ei bedyddio, ond roeddwn i’n dal yn ôl. Pam?

TRECHU SWILDOD

Ychydig iawn o gynnydd wnes i oherwydd fy swildod. Er imi fynd ar y weinidogaeth am ddwy flynedd, wnes i ddim agor fy ngheg i dystiolaethu. Ond daeth tro ar fyd pan dreuliais amser gyda brodyr a chwiorydd a oedd wedi profi eu dewrder a’u defosiwn i Jehofa. Roedd rhai wedi bod mewn gwersylloedd crynhoi Natsïaidd neu mewn carchardai yn Nwyrain yr Almaen. Roedd eraill wedi peryglu eu rhyddid drwy smyglo llenyddiaeth i Ddwyrain yr Almaen. Gwnaeth eu hesiampl greu argraff ddofn arnaf. Gwnes i resymu, os oedden nhw wedi peryglu eu bywydau a’u rhyddid dros  Jehofa a’u brodyr, yna dylwn innau geisio gweithio’n galed i fod yn llai swil.

Dechreuais fwrw fy swildod pan gymerais ran mewn ymgyrch bregethu arbennig ym 1955. Mewn llythyr, a gyhoeddwyd yn yr Informant, * dywedodd y Brawd Nathan Knorr fod yr ymgyrch yn un o’r rhai mwyaf a drefnwyd erioed gan y gyfundrefn. Dywedodd petai pob cyhoeddwr yn cymryd rhan, “dyma fyddai’r mis gorau yn y gwaith pregethu a fu erioed ar y ddaear hon.” Dyna’n union beth ddigwyddodd! Yn fuan wedyn, mi wnes i ymgysegru i Jehofa, ac ym 1956, ces i fy medyddio ynghyd â fy nhad a’m chwaer. Ond ychydig wedyn roedd rhaid imi wynebu penderfyniad pwysig.

Ers blynyddoedd, roeddwn i’n gwybod mai arloesi fyddai’r yrfa orau imi, ond roeddwn i’n dal i ohirio’r penderfyniad. Yn gyntaf, penderfynais i fwrw fy mhrentisiaeth yn y busnes mewnforio ac allforio yn Berlin. Ar ôl hynny, roeddwn i eisiau gweithio am gyfnod yn yr yrfa honno imi gael magu profiad ac arbenigedd. Felly, ym 1961, wnes i dderbyn swydd yn Hamburg, dinas borthladd fwyaf yr Almaen. Mwyaf yn y byd roeddwn i’n mwynhau fy swydd, mwyaf yn y byd roeddwn i’n gohirio’r arloesi i ryw amser yn y dyfodol. Beth fyddwn i’n ei wneud?

Dw i’n diolch i Jehofa am iddo ddefnyddio brodyr cariadus i fy helpu i roi’r flaenoriaeth i bethau ysbrydol. Roedd sawl un o fy ffrindiau wedi dechrau arloesi ac yn esiamplau da imi. Rhywun arall wnaeth fy rhoi ar ben ffordd oedd y Brawd Erich Mundt, a oedd wedi goroesi gwersyll crynhoi. Gwnaeth ef fy annog i ymddiried yn Jehofa. Yn ôl Erich, roedd brodyr y gwersyll a oedd yn dibynnu arnyn nhw eu hunain yn mynd yn wan. Ond arhosodd y rhai a ymddiriedodd yn llawn yn Jehofa yn ffyddlon a daethon nhw’n bileri’r gynulleidfa.

Pan ddechreuais arloesi, 1963

Hefyd, ces i fy annog gan y Brawd Martin Poetzinger, a wasanaethodd wedyn ar y Corff Llywodraethol. Mi fyddai’n dweud wrth y brodyr, “Dewrder yw dy drysor mwyaf gwerthfawr!” O’r diwedd, ar ôl myfyrio ar hyn, rhois y gorau i fy swydd a dechrau arloesi ym Mehefin 1963. Dyna’r penderfyniad gorau wnes i erioed! Ar ôl dau fis, hyd yn oed cyn imi ddechrau edrych am swydd newydd, ces i fy ngwahodd i wasanaethu fel arloeswr arbennig. Ychydig o flynyddoedd wedyn, daeth bendith arall gan Jehofa, y tu hwnt i bob disgwyl. Ces i fy ngwahodd i ddosbarth 44 Ysgol Gilead.

DYSGU GWERS GWERTHFAWR YN GILEAD

“Paid â rhoi’r gorau’n gyflym i dy aseiniad” oedd un o’r gwersi pwysicaf a ddysgais i, yn enwedig gan y Brodyr Nathan Knorr a Lyman Swingle. Gwnaethon nhw ein hannog i aros yn ein haseiniad hyd yn oed os oedd yn anodd. Dywedodd Brawd Knorr: “Beth fyddwch chi’n canolbwyntio arno? Y llwch, y pryfetach, a’r tlodi? Neu a fyddwch chi’n sylwi ar y coed, y blodau, a’r wynebau hapus? Dysgwch garu pobl!” Un diwrnod, aeth Brawd Swingle ati i esbonio pam mae rhai brodyr yn rhoi’r gorau iddi’n gyflym, ac roedd hi’n amlwg ei fod dan deimlad a bod dagrau’n cronni yn ei lygaid. Roedd yn rhaid iddo stopio siarad er mwyn iddo ddod ato’i hun unwaith eto. Gwnaeth hynny fy nghyffwrdd i’r byw ac roeddwn i’n benderfynol o beidio â siomi Crist a’i frodyr ffyddlon.—Math. 25:40.

Y fi, Claude, a Heinrich yn ein haseiniad fel cenhadon yn Lubumbashi, y Congo, 1967

Pan dderbynion ni ein haseiniadau, gwnaeth rhai o aelodau’r Bethel ofyn i grŵp ohonon ni am le’r oedden ni’n mynd. Roedden nhw’n dweud pethau neis am bob aseiniad nes imi ddweud: “Congo (Kinshasa).” Ar ôl oedi, dywedon nhw: “Y Congo! Boed i Jehofa fod gyda ti!” Bryd hynny, roedd sôn mawr yn y newyddion am ryfel, hurfilwyr, a phobl yn lladd ei gilydd yn y Congo. Ond meddyliais o hyd am beth roeddwn i wedi ei ddysgu yn Gilead. Yn fuan ar ôl inni raddio ym mis Medi 1967, teithiodd Heinrich Dehnbostel, Claude Lindsay, a minnau i brifddinas y Congo, Kinshasa.

LLE DA I HYFFORDDI CENHADON

Ar ôl inni gyrraedd Kinshasa, gwnaethon ni astudio Ffrangeg am dri mis. Wedyn, dyma ni’n hedfan i Lubumbashi, Elisabethville gynt, sydd  wrth ymyl y ffin â Sambia yn ne’r Congo. Symudon ni i gartref cenhadon yng nghanol y ddinas.

Gan fod cymaint o Lubumbashi yn ardal heb ei chyffwrdd, roedden ni’n hapus iawn mai ni oedd y rhai cyntaf i rannu’r gwirionedd â llawer o’r trigolion. Cyn bo hir, doedd gennyn ni ddim digon o amser i astudio gyda phawb oedd eisiau Astudiaeth Feiblaidd. Pregethon ni hefyd i swyddogion y llywodraeth ac i’r heddlu. Dangosodd llawer o bobl barch mawr tuag at y Beibl a’n gwaith pregethu. Ar y cyfan, Swahili oedd iaith y bobl, felly gwnaeth Claude Lindsay a minnau ddysgu’r iaith honno. Yn fuan wedyn, cawson ni’n haseinio i gynulleidfa Swahili ei hiaith.

Er inni gael llawer o brofiadau bendigedig, gwnaethon ni hefyd wynebu anawsterau. Yn aml, bu’n rhaid inni wynebu milwyr meddw a oedd yn cario gynnau neu blismyn cas a oedd yn ein camgyhuddo. Un tro, gwnaeth llu o blismyn arfog ruthro i mewn i un o’n cyfarfodydd yng nghartref y cenhadon a mynd â ni i’r orsaf heddlu, lle roedd rhaid inni eistedd ar y llawr tan tua deg o’r gloch y nos, cyn iddyn nhw ein rhyddhau ni.

Ym 1969, ces i fy aseinio i’r gwaith teithio. Roedd y gylchdaith honno yn rhoi blas ar gefn gwlad Affrica, a minnau weithiau’n teithio’n bell drwy wair tal ar lwybrau mwdlyd. Mewn un pentref, roedd ’na iâr a’i chywion yn mynd i glwydo dan fy ngwely bob nos. Wna’ i byth anghofio sut roedd y diwrnod yn cychwyn gyda’i chlochdar yn union fel cloc larwm jest cyn toriad dydd. Mae gen i atgofion melys o siarad â’r brodyr am wirioneddau’r Beibl tra oedden ni’n eistedd y tu allan o amgylch y tân gyda’r nos.

 Un o’r heriau mwyaf oedd delio â gau frodyr, a oedd yn cefnogi’r mudiad Kitawala. * Roedd rhai ohonyn nhw wedi sleifio i mewn i’r cynulleidfaoedd ac wedi eu penodi’n henuriaid. Ond cafodd y “creigiau peryglus” hyn a oedd yn llechu dan y wyneb eu dwyn i’r amlwg gan frodyr a chwiorydd diffuant. (Jwd. 12) Yn y pen draw, glanhaodd Jehofa’r cynulleidfaoedd a gosod sylfaen am dwf aruthrol.

Ym 1971, ces i fy aseinio i swyddfa’r gangen yn Kinshasa, lle bues i’n gofalu am amryw aseiniadau, fel gohebu, archebion llenyddiaeth, a materion y ddesg wasanaeth. Yn y Bethel, dysgais drefnu’r gwaith mewn gwlad anferth lle nad oedd y gwasanaethau mwyaf sylfaenol yn gweithio’n dda. O bryd i’w gilydd, byddai’r post yn cymryd misoedd i gyrraedd y cynulleidfaoedd. Mi fyddai’r post yn cael ei ddadlwytho oddi ar awyren ac yna ei lwytho ar gychod a oedd yn cael eu dal am wythnosau mewn carped trwchus o hiasinthau dŵr. Ond, cafodd y gwaith ei wneud er gwaethaf anawsterau fel hyn ac eraill.

Er mawr syndod i mi, roedd y brodyr yn gallu cynnal cynadleddau mawr â chyn lleied o arian. Bydden nhw’n cerfio llwyfan allan o dwmpathau morgrug, ac yn defnyddio gwair eliffant fel waliau neu yn ei rolio i wneud clustogau ar gyfer y seddi. Roedden nhw’n troi bambŵ yn fframwaith ar gyfer adeiladau a matiau cawn yn doeau neu’n fyrddau. Hefyd, bydden nhw’n defnyddio rhisgl coed wedi ei dorri’n sleisiau fel hoelion. Doeddwn i ond yn gallu edmygu dyfeisgarwch a dycnwch y brodyr a’r chwiorydd. Roedden nhw’n annwyl iawn imi ac roedd yn chwith iawn gen i ar eu holau pan wnes i ymadael am aseiniad newydd!

GWASANAETHU YN CENIA

Ym 1974, ces i fy nhrosglwyddo i swyddfa’r gangen yn Nairobi, Cenia. Roedd llawer i’w wneud, oherwydd bod y gangen yn Cenia yn cefnogi’r gwaith pregethu mewn deg gwlad gyfagos, rhai ohonyn nhw wedi gwahardd ein gwaith. Dro ar ôl tro, ces i fy aseinio i ymweld â’r gwledydd hyn, yn enwedig Ethiopia, lle roedd ein brodyr yn cael eu herlid ac yn wynebu treialon ofnadwy. Cafodd llawer ohonyn nhw eu cam drin yn greulon neu eu taflu i’r carchar; cafodd rhai hyd yn oed eu lladd. Ond, gwnaethon nhw ddyfalbarhau’n ffyddlon oherwydd bod ganddyn nhw berthynas dda â Jehofa a hefyd gyda’i gilydd.

Ym 1980, digwyddodd rhywbeth hyfryd imi pan wnes i briodi Gail Matheson, a oedd yn dod yn wreiddiol o Ganada. Roedd Gail a minnau yn yr un dosbarth Gilead. Roedden ni wedi cadw mewn cyswllt drwy ysgrifennu llythyrau. Cenhades oedd Gail yn Bolifia. Ar ôl 12 mlynedd, dyma ni’n cwrdd unwaith eto yn Efrog Newydd. Yn fuan wedyn, mi briodon ni yn Cenia. Dw i’n ddiolchgar iawn i Gail am ei hagwedd ysbrydol ac am iddi fod yn fodlon ar yr hyn sydd ganddi. Mae hi’n parhau i fod yn gefn imi a hi yw fy ffrind gorau.

Ym 1986, cafodd Gail a minnau ein haseinio i’r gwaith teithio tra oeddwn innau’n dal i wasanaethu ar Bwyllgor y Gangen. Roedd y gwaith teithio yn golygu gwasanaethu mewn llawer o’r gwledydd o dan oruchwyliaeth cangen Cenia.

Yn siarad mewn cynhadledd yn Asmara, 1992

Mae gen i atgofion melys o wneud trefniadau ar gyfer cynhadledd yn Asmara (yn Eritrea) ym 1992 pan oedd ein gwaith o dan waharddiad yn yr ardal honno. Yn anffodus, roedden ni ond yn gallu dod o hyd i hen ysgubor, a oedd yn edrych braidd yn llwm ar y tu allan ac yn waeth byth ar y tu mewn. Ar ddiwrnod y gynhadledd, roeddwn i wedi rhyfeddu at y ffordd roedd y brodyr wedi trawsnewid y lle a’i wneud yn addas ar gyfer addoli Jehofa. Daeth llawer o’r brodyr â defnydd wedi ei addurno er mwyn gorchuddio unrhyw beth nad oedd yn edrych yn neis. Cawson ni gynhadledd hapus a chyffrous gyda 1,279 yn bresennol.

Roedd y gwaith teithio yn newid mawr inni oherwydd bod y llefydd roedden ni’n aros ynddyn nhw yn wahanol iawn o wythnos i wythnos. Un waith, arhoson ni mewn tŷ mawr crand wrth ymyl y môr; a thro arall, arhoson ni mewn cwt sinc  mewn gwersyll i weithwyr, lle’r oedd y toiledau yn 300 troedfedd (100 m) i ffwrdd. Ond, le bynnag roedden ni’n gwasanaethu, ein hatgofion mwyaf melys yw’r diwrnodau prysur hynny yn y weinidogaeth gydag arloeswyr a chyhoeddwyr selog. Pan dderbynion ni ein haseiniad nesaf, bu’n rhaid inni adael llawer o ffrindiau annwyl ar ôl.

BENDITHION YN ETHIOPIA

Yn ystod y 1980au hwyr a’r 1990au cynnar, cafodd ein gwaith ei gydnabod yn gyfreithiol gan lawer o wledydd o dan oruchwyliaeth cangen Cenia. O ganlyniad, fe sefydlwyd gwahanol ganghennau a swyddfeydd gwlad. Ym 1993, cawson ni’n haseinio i wasanaethu yn y swyddfa yn Addis Ababa, Ethiopia, lle’r oedd ein gwaith yn cael ei wneud yn gyfrinachol am lawer o flynyddoedd ond a oedd bellach wedi ei gydnabod yn gyfreithiol.

Yn y gwaith teithio yng nghefn gwlad Ethiopia, 1996

Mae Jehofa wedi bendithio’r gwaith yn Ethiopia. Dechreuodd llawer o frodyr a chwiorydd arloesi. Mae mwy nag 20 y cant o’r cyhoeddwyr wedi arloesi’n llawn amser bob blwyddyn ers 2012. Yn ogystal, mae ysgolion theocrataidd wedi rhoi hyfforddiant angenrheidiol, ac mae mwy na 120 o Neuaddau’r Deyrnas wedi eu hadeiladu. Yn 2004, symudodd y teulu Bethel i mewn i adeilad newydd, ac roedd Neuadd Cynulliad yn yr un lleoliad yn fendith fawr i’r brodyr.

Dros y blynyddoedd, mae Gail a minnau wedi trysori ein cyfeillgarwch agos â’r brodyr a’r chwiorydd yn Ethiopia. Rydyn ni’n eu caru nhw’n fawr iawn oherwydd eu cynhesrwydd a’u caredigrwydd. Yn ddiweddar, dydy ein hiechyd ddim yn rhy dda, ac oherwydd hynny, cawson ni ein hailaseinio i gangen Canolbarth Ewrop. Yno, rydyn ni’n cael gofal llawn cariad, ond mae arnon ni hiraeth am ein ffrindiau annwyl yn Ethiopia.

JEHOFA WNAETH IDDO DYFU

Rydyn ni wedi gweld sut mae Jehofa wedi gwneud i’w waith dyfu. (1 Cor. 3:6, 9) Er enghraifft, pan dystiolaethais am y tro cyntaf i fwyngloddwyr ardal gopr y Congo, doedd dim cyhoeddwyr yn Rwanda. Nawr, mae ’na dros 30,000 o frodyr a chwiorydd yn y wlad. Ym 1967, roedd tua 6,000 o gyhoeddwyr yn Congo (Kinshasa). Erbyn hyn, mae ’na tua 230,000, ac aeth mwy na miliwn o bobl i’r Goffadwriaeth yn 2018. Ym mhob un o’r gwledydd hynny a oedd o dan ofal cangen Cenia, mae nifer y cyhoeddwyr wedi cynyddu i fwy na 100,000.

Yn fwy na 50 mlynedd yn ôl, defnyddiodd Jehofa wahanol frodyr i fy helpu i ddechrau arloesi. Er fy mod i’n dal i gael trafferth oherwydd fy swildod, dw i wedi dysgu dibynnu ar Jehofa yn llwyr. Mae’r hyn dw i wedi ei ddysgu yn Affrica wedi fy helpu i feithrin amynedd a bodlondeb. Mae Gail a minnau’n edmygu’r brodyr a’r chwiorydd annwyl hynny sy’n dangos lletygarwch aruthrol, dycnwch, ac sy’n ymddiried yn Jehofa. Dw i mor ddiolchgar am ei garedigrwydd. Mae Jehofa wedi fy mendithio y tu hwnt i bob disgwyl.—Salm 37:4.

^ Par. 11 A alwyd wedyn Ein Gweinidogaeth, ac a elwir bellach Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd.

^ Par. 23 Daw’r enw “Kitawala” o ymadrodd Swahili sy’n golygu “arglwyddiaethu, cyfarwyddo, neu lywodraethu.” Roedd gan y mudiad nod gwleidyddol sef cael annibyniaeth oddi ar Wlad Belg. Cafodd y grwpiau Kitawala afael ar gyhoeddiadau Tystion Jehofa gan eu hastudio a’u dosbarthu, ond roedden nhw’n gwyrdroi dysgeidiaethau Beiblaidd i gefnogi eu safbwyntiau gwleidyddol, defodau ofergoelus, a bywyd anfoesol.