Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

A Ydych Chi “ar Ochr yr ARGLWYDD”?

A Ydych Chi “ar Ochr yr ARGLWYDD”?

“Rhaid i chi barchu’r ARGLWYDD eich Duw, ei wasanaethu, aros yn ffyddlon iddo.”—DEUTERONOMIUM 10:20.

CANEUON: 28, 32

1, 2. (a) Pam mae bod ar ochr Jehofa yn beth doeth? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

PETH doeth ydy inni aros yn glòs at Jehofa. Nid oes neb yn fwy nerthol, na doeth, na chariadus nag ef! Wrth gwrs, rydyn ni bob amser eisiau bod yn ufudd iddo ac eisiau bod ar ochr Jehofa. (Salm 96:4-6) Ond fe wnaeth rhai a oedd yn addoli Duw fethu gwneud hynny.

2 Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod esiamplau pobl a oedd yn honni eu bod nhw ar ochr Jehofa ond, ar yr un adeg, yn gwneud pethau mae Jehofa yn eu casáu. Gall y gwersi pwysig a ddysgwn o’u hesiamplau ein helpu i aros yn ffyddlon i Jehofa.

MAE JEHOFA’N CHWILIO’R GALON

3. Pam bod Jehofa wedi ceisio helpu Cain, a beth ddywedodd Ef wrtho?

3 Er enghraifft, meddylia am Cain. Nid oedd yn addoli gau dduwiau, ond eto, nid oedd Jehofa yn derbyn ei addoliad. Pam ddim? Gwelodd Jehofa fod ’na dueddiadau drwg yng nghalon Cain. (1 Ioan 3:12) Gwnaeth Jehofa rybuddio Cain: “Os gwnei di beth sy’n iawn bydd pethau’n gwella.  Ond os na wnei di beth sy’n iawn, mae pechod fel anifail yn llechu wrth y drws. Mae am dy gael di, ond rhaid i ti ei reoli.” (Genesis 4:6, 7) Roedd Jehofa yn ei gwneud hi’n glir, pe byddai Cain yn edifarhau ac yn dewis bod ar ochr Duw, byddai Jehofa ar ochr Cain.

4. Beth wnaeth Cain pan oedd ganddo’r cyfle i fod ar ochr Jehofa?

4 Petai Cain yn newid ei ffordd o feddwl, byddai Jehofa yn derbyn ei addoliad unwaith eto. Ond, ni wnaeth Cain wrando ar Dduw, ac arweiniodd ei gamsyniadau a’i chwant hunanol iddo wneud drygioni. (Iago 1:14, 15) Pan oedd Cain yn iau, efallai na fyddai byth wedi dychmygu y byddai’n gwrthwynebu Jehofa. Ond nawr fe anwybyddodd rybuddion Duw, fe wrthryfelodd yn erbyn Duw, ac fe lofruddiodd ei frawd ei hun!

5. Pa fath o feddwl a all achosi inni golli ffafr Jehofa?

5 Fel Cain, gallai Cristion heddiw honni ei fod yn addoli Jehofa ond, mewn gwirionedd, mae’n gwneud pethau mae Jehofa yn eu casáu. (Jwdas 11) Efallai ei fod yn weithgar yn y weinidogaeth ac yn mynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd. Ond, ar yr un pryd, gallai adael i ffantasïau anfoesol, meddyliau barus, neu deimladau o gasineb reoli ei feddwl. (1 Ioan 2:15-17; 3:15) Gall meddwl o’r fath arwain at weithredoedd pechadurus. Mae’n debyg na fydd eraill yn gwybod am yr hyn rydyn ni’n ei feddwl neu’n ei wneud ond nid yw hyn yn wir am Jehofa. Mae’n gwybod yn iawn os nad ydyn ni ar ei ochr Ef yn llwyr.—Darllen Jeremeia 17:9, 10.

6. Sut mae Jehofa yn ein helpu ni i orchfygu chwantau drwg?

6 Hyd yn oed pan ydyn ni’n gwneud camgymeriadau, dydy Jehofa ddim yn gyflym i gefnu arnon ni. Os ydyn ni’n mynd ar gyfeiliorn, mae Jehofa yn ein hannog ni drwy ddweud: “Trowch yn ôl ata i, a bydda i’n troi atoch chi.” (Malachi 3:7) Mae Jehofa’n deall bod gennyn ni wendidau y mae’n rhaid inni frwydro yn eu herbyn. Ond, mae Jehofa eisiau inni aros yn gadarn a gwrthod yr hyn sy’n ddrwg. (Eseia 55:7) Os byddwn ni’n gwneud hynny, mae Jehofa’n addo y bydd yn ein helpu ni a bydd yn rhoi’r cryfder rydyn ni’n ei angen er mwyn gallu gorchfygu chwantau drwg.—Genesis 4:7.

PAID Â CHAEL DY DWYLLO

7. Sut collodd Solomon ei gyfeillgarwch â Jehofa?

7 Pan oedd Solomon yn fachgen ifanc, roedd ganddo berthynas dda â Jehofa. Rhoddodd Duw ddoethineb i Solomon a’r cyfrifoldeb pwysig o adeiladu teml brydferth yn Jerwsalem. Ond, fe gollodd Solomon ei gyfeillgarwch â Jehofa. (1 Brenhinoedd 3:12; 11:1, 2) Yn ôl Cyfraith Duw, dylai’r brenin “beidio cymryd lot o wragedd iddo’i hun, rhag iddyn nhw ei demtio i droi cefn” ar Dduw. (Deuteronomium 17:17) Roedd Solomon yn anufudd i’r gyfraith honno. Ymhen amser, roedd ganddo 700 o wragedd a 300 o ordderchwragedd! (1 Brenhinoedd 11:3) Roedd llawer o’r merched hynny o wledydd tramor ac yn addoli gau dduwiau. Felly, roedd Solomon hefyd yn anufudd i gyfraith Duw a oedd yn dweud na ddylai  priodi merched estron.—Deuteronomium 7:3, 4.

8. Sut gwnaeth Solomon ddigio Jehofa?

8 Yn araf deg bach, collodd Solomon ei gariad tuag at gyfraith Jehofa. Ymhen amser, gwnaeth bethau erchyll. Adeiladodd allorau i’r gau dduwies Astoreth ac i’r gau dduw Chemosh, ac yna dechreuodd Solomon addoli’r gau dduwiau hynny gyda’i wragedd. Gwnaeth Solomon adeiladu’r allorau hyn ar fynydd yn union o flaen Jerwsalem, lle adeiladodd deml Jehofa! (1 Brenhinoedd 11:5-8; 2 Brenhinoedd 23:13) Efallai y twyllodd Solomon ei hun i feddwl y byddai Jehofa’n anwybyddu’r holl bethau drwg roedd wedi eu gwneud cyn belled ag yr oedd yn offrymu aberthau yn y deml.

9. Beth ddigwyddodd pan fethodd Solomon wrando ar rybuddion Duw?

9 Ond, dydy Jehofa byth yn anwybyddu pechod. Dywed y Beibl: “Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda Solomon am ei fod wedi troi i ffwrdd oddi wrtho.” Roedd Duw wedi trio helpu Solomon. Roedd Jehofa “wedi dod at Solomon ddwywaith, a’i siarsio i beidio gwneud hyn a mynd ar ôl duwiau eraill. Ond doedd Solomon ddim wedi gwrando.” O ganlyniad, fe gollodd ffafr a chefnogaeth Duw. Ni wnaeth Jehofa adael i ddisgynyddion Solomon deyrnasu dros genedl gyfan Israel, a chawson nhw broblemau ofnadwy am gannoedd o flynyddoedd.—1 Brenhinoedd 11:9-13.

10. Beth all niweidio ein perthynas dda â Jehofa?

10 Os ydyn ni’n dewis ffrindiau sydd  ddim yn deall nac yn parchu safonau Duw, gallan nhw gael dylanwad ar ein ffordd o feddwl a niweidio ein perthynas â Jehofa. Er eu bod nhw’n rhan o’r gynulleidfa, does ganddyn nhw ddim perthynas gref â Jehofa. Neu, gallan nhw fod yn berthnasau, yn gymdogion, yn gyd-weithwyr, neu yn gyd-ddisgyblion sydd ddim yn addoli Jehofa. Os nad ydy’r bobl rydyn ni’n treulio amser â nhw ddim yn byw yn ôl safonau Jehofa, gallan nhw ein dylanwadu gymaint nes inni golli ein perthynas dda â Jehofa.

Sut mae’r bobl rwyt ti’n treulio amser â nhw yn effeithio ar dy berthynas â Jehofa? (Gweler paragraff 11)

11. Beth all ein helpu i ddewis ein ffrindiau?

11 Darllen 1 Corinthiaid 15:33. Mae gan y mwyafrif o bobl rai rhinweddau da. Ac efallai ni fydd y rhai sydd ddim yn addoli Jehofa bob amser yn gwneud pethau drwg. Efallai dy fod ti’n adnabod pobl felly. A ydy hynny’n golygu eu bod nhw’n gwmni da? Wel, sut maen nhw’n effeithio ar dy berthynas â Jehofa? A ydyn nhw’n dy helpu i glosio at Dduw? Beth sy’n wir bwysig i’r bobl hynny? Beth yw testun eu sgyrsiau nhw? A ydyn nhw, yn bennaf, yn siarad am ffasiwn, arian, teclynnau, adloniant, a phethau o’r fath? A ydyn nhw’n aml yn feirniadol o eraill? A ydyn nhw’n hoff o ddweud jôcs budr? Rhybuddiodd Iesu: “Mae’r hyn mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sy’n eu calonnau nhw.” (Mathew 12:34) Os wyt ti’n sylweddoli bod y bobl yr wyt ti’n treulio amser â nhw’n niweidio dy berthynas â Jehofa, gweithreda’n gyflym! Rho gyfyngiadau ar faint o amser rwyt ti’n treulio â nhw ac, os oes angen, rho derfyn ar y cyfeillgarwch hwnnw.—Diarhebion 13:20.

MAE JEHOFA’N MYNNU FFYDDLONDEB GENNYN NI

12. (a) Beth ddywedodd Jehofa wrth yr Israeliaid yn fuan ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft? (b) Beth ddywedodd yr Israeliaid pan ofynnodd Duw iddyn nhw fod yn ufudd iddo?

12 Gallwn ni hefyd ddysgu o’r hyn a ddigwyddodd ar ôl i Jehofa ryddhau’r Israeliaid o’r Aifft. Wrth i’r bobl ymgynnull o flaen Mynydd Sinai, ymddangosodd Jehofa iddyn nhw mewn ffordd ddramatig! Gwelson nhw gwmwl du, mellt, a mwg, a chlywson nhw daranau a sŵn uchel iawn a oedd yn debyg i utgorn. (Exodus 19:16-19) Yna, dyma nhw’n clywed Jehofa’n datgan ei fod “yn Dduw eiddigeddus.” Gwnaeth addo y byddai’n ufudd i’r rhai sy’n ei garu a sy’n ufudd i’w orchmynion. (Darllen Exodus 20:1-6.) Roedd Jehofa’n gadael i’r Israeliaid wybod y byddai ar eu hochr nhw pe bydden nhw’n aros ar ei ochr ef. Pe byddet tithau wedi bod yn y dorf honno, sut byddet ti wedi teimlo o glywed geiriau Jehofa? Mae’n debyg y byddet tithau wedi ateb yr un fath â’r Israeliaid hynny, a ddywedodd: “Byddwn ni’n gwneud popeth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud.” (Exodus 24:3) Ond, ychydig yn ddiweddarach, digwyddodd rhywbeth a roddodd ufudd-dod yr Israeliaid i Dduw o dan brawf. Beth oedd hynny?

13. Beth roddodd ufudd-dod yr Israeliaid ar brawf?

13 Roedd yr Israeliaid wedi dychryn ar ôl gweld grym Duw yn cael ei ddangos mewn ffordd mor ddramatig, felly, aeth Moses i fyny Mynydd Sinai a siaradodd â Jehofa ar ran y bobl. (Exodus 20:18-21) Ond, wrth i amser fynd heibio, ni  ddychwelodd Moses i’r gwersyll. Roedd yn ymddangos bod y bobl ar goll yn yr anialwch heb arweinydd. Beth fydden nhw’n ei wneud? Efallai fod yr Israeliaid wedi dibynnu gormod ar arweinydd dynol, sef Moses. Dyma nhw’n dechrau pryderu a dywedon nhw wrth Aaron: “Gwna dduwiau i ni i’n harwain. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i’r Moses yna wnaeth ein harwain ni allan o’r Aifft!”—Exodus 32:1, 2.

14. Beth oedd yr Israeliaid wedi eu twyllo eu hunain i’w feddwl, a sut ymatebodd Jehofa?

14 Roedd yr Israeliaid yn gwybod bod addoli delwau yn ddrwg. (Exodus 20:3-5) Ond, roedden nhw’n gyflym iawn i addoli’r llo aur! Er iddyn nhw fod yn anufudd i orchymyn Jehofa, roedden nhw wedi eu twyllo eu hunain i feddwl eu bod nhw dal ar ochr Jehofa. Dywedodd Aaron mai “Gŵyl i’r ARGLWYDD” oedd addoli’r llo aur! Beth wnaeth Jehofa? Dywedodd wrth Moses fod y bobl “wedi gwneud peth ofnadwy” ac wedi “troi i ffwrdd oddi wrth” beth oedd Duw wedi ei orchymyn. Roedd Jehofa mor ddig nes iddo hyd yn oed feddwl am ddinistrio’r genedl gyfan.—Exodus 32:5-10.

Rhoddodd Jehofa’r cyfle i’r Israeliaid ddangos eu bod nhw eisiau bod ar ei ochr ef

15, 16. Sut dangosodd Moses ac Aaron eu bod nhw ar ochr Jehofa yn llwyr? (Gweler y llun agoriadol.)

15 Ond, Duw trugarog ydy Jehofa. Penderfynodd beidio â dinistrio’r genedl. Yn hytrach, rhoddodd gyfle i’r Israeliaid ddangos eu bod nhw eisiau bod ar ei ochr ef. (Exodus 32:14) Pan welodd Moses y bobl yn gwaeddi, yn canu, ac yn dawnsio o flaen y ddelw, chwalodd y llo aur a’i falu’n llwch mân. Yna gwaeddodd Moses: “Os ydych chi ar ochr yr ARGLWYDD, dewch yma ata i.” “A dyma’r Lefiaid i gyd yn mynd ato.”—Exodus 32:17-20, 26.

16 Er mai Aaron oedd wedi creu’r llo aur, dyma’n edifarhau ac, ynghyd â gweddill y Lefiaid, dewisodd fod ar ochr Jehofa. Dangosodd y rhai ffyddlon hynny nad oedden nhw ar ochr y pechaduriaid. Dewis doeth oedd hynny oherwydd, yn hwyrach ymlaen yn ystod y dydd hwnnw, cafodd y miloedd a oedd wedi addoli’r llo eu lladd. Ond goroesodd pawb a oedd ar ochr Jehofa, ac addawodd Duw y byddai yn eu bendithio.—Exodus 32:27-29.

17. Beth ddysgwn ni o’r hyn ysgrifennodd Paul am y llo aur?

17 Beth ydy’r wers i ni? Dywedodd yr apostol Paul: “Digwyddodd y pethau hyn i gyd fel esiamplau i’n rhybuddio ni rhag . . . addoli eilun-dduwiau.” Esboniodd Paul fod hanesion o’r fath wedi cael “eu hysgrifennu i lawr i’n rhybuddio ni sy’n byw ar ddiwedd yr oesoedd. Felly, os dych chi’n un o’r rhai sy’n meddwl eich bod yn sefyll yn gadarn, gwyliwch rhag i chi syrthio!” (1 Corinthiaid 10:6, 7, 11, 12) Fel y dywedodd Paul, gall hyd yn oed y rhai sy’n addoli Jehofa gael eu tynnu i mewn i ddrwgweithredu. Gallen nhw hyd yn oed feddwl bod Jehofa yn dal yn eu cymeradwyo. Ond, nid yw pob person sydd eisiau bod yn ffrind  i Jehofa neu sy’n honni ei fod yn ufudd iddo yn cael ei gymeradwyo gan Jehofa.—1 Corinthiaid 10:1-5.

18. Beth all achosi inni ymbellhau oddi wrth Jehofa, a beth fyddai’r canlyniadau?

18 Pan na ddaeth Moses i lawr o Sinai pan oedd yr Israeliaid yn ei ddisgwyl, dechreuon nhw bryderu. Os nad ydy diwedd y system hon ddim wedi dod mor gyflym ag yr oedden ni’n gobeithio, efallai byddwn ninnau’n dechrau pryderu hefyd. Efallai byddwn ni’n dechrau meddwl bod y dyfodol disglair mae Jehofa yn ei addo yn rhy bell i ffwrdd neu yn rhy dda i fod yn wir, ac efallai byddwn ni’n dechrau canolbwyntio ar beth rydyn ni eisiau yn hytrach na beth mae Jehofa eisiau. Os nad ydyn ni’n ofalus, gallwn ni ymbellhau oddi wrth Jehofa a gwneud pethau nad oedden ni erioed yn meddwl y byddwn ni’n eu gwneud.

19. Beth ddylen ni ei gofio o hyd, a pham?

19 Mae Jehofa yn gofyn inni fod yn hollol ffyddlon iddo ac i’w addoli ef yn unig. (Exodus 20:5) Pam mae’n gofyn inni wneud hynny? Gan ei fod yn ein caru. Os nad ydyn ni’n gwneud beth mae Jehofa eisiau, byddan ni’n gwneud beth mae Satan eisiau, a bydd hynny’n achosi niwed inni. Datganodd Paul: “Dydy hi ddim yn iawn i chi yfed o gwpan yr Arglwydd ac o gwpan pwerau cythreulig ar yr un pryd. Allwch chi ddim bwyta wrth fwrdd yr Arglwydd ac wrth fwrdd cythreuliaid.”—1 Corinthiaid 10:21.

CLOSIO AT JEHOFA!

20. Sut gall Jehofa ein helpu hyd yn oed pan ydyn ni wedi gwneud camgymeriad?

20 Roedd gan Cain, Solomon, a’r Israeliaid y cyfle i edifarhau ac i newid eu hagwedd. (Actau 3:19) Yn amlwg, dydy Jehofa ddim am gefnu ar bobl dim ond oherwydd iddyn nhw wneud camgymeriad. Meddylia am sut gwnaeth Jehofa faddau i Aaron. Heddiw, mae Jehofa yn rhoi rhybuddion cariadus er mwyn ein gwarchod ni rhag gwneud pethau anghywir. Mae’n defnyddio’r Beibl, ein cyhoeddiadau, a hyd yn oed Cristnogion eraill. Pan ydyn ni’n talu sylw i rybuddion Jehofa, gallwn ni fod yn sicr bydd ef yn dangos trugaredd inni.

21. Beth ddylen ni ei wneud pan fydd ein hufudd-dod i Jehofa yn cael ei roi o dan brawf?

21 Mae gan garedigrwydd anhaeddiannol Jehofa bwrpas. (2 Corinthiaid 6:1) Mae’n rhoi’r cyfle inni “ddweud ‘na’ wrth ein pechod a’n chwantau bydol.” (Darllen Titus 2:11, 12.) Yn y system hon, bydd sefyllfaoedd bob amser yn codi a fydd yn rhoi ein hufudd-dod i Jehofa o dan brawf. Bydda’n benderfynol o aros ar ochr Jehofa yn llwyr, a chofia: “Rhaid i chi barchu’r ARGLWYDD eich Duw, ei wasanaethu,” ac “aros yn ffyddlon iddo.”—Deuteronomium 10:20.