Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Y Tŵr Gwylio—Rhifyn Astudio  |  Gorffennaf 2017

Ceisio Gwir Gyfoeth

Ceisio Gwir Gyfoeth

“Gwnewch ffrindiau trwy ddefnyddio’ch arian er lles pobl eraill.”—LUC 16:9.

CANEUON: 122, 129

1, 2. Pam bydd rhai pobl yn dlawd drwy gydol y system hon?

MAE’R system economaidd heddiw yn annheg. Mae pobl ifanc yn chwilio’n ofer am waith. Mae llawer yn risgio eu bywydau i symud i wledydd cyfoethog. Mae tlodi ym mhobman, hyd yn oed mewn gwledydd cyfoethog. Ac mae’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd yn cynyddu. Yn ôl rhai heddiw, mae gan un y cant o boblogaeth y byd gymaint o gyfoeth ag sydd gan weddill y boblogaeth gyda’i gilydd. Anodd yw cadarnhau ffigyrau o’r fath, ond does neb yn dadlau bod biliynau o bobl yn dlawd iawn a bod gan eraill ddigon i bara am sawl oes. Soniodd Iesu am dristwch y sefyllfa drwy ddweud: “Bydd pobl dlawd o gwmpas bob amser.” (Marc 14:7) Pam mae bywyd mor anghyfartal?

2 Deallodd Iesu na fyddai’r system economaidd yn newid hyd nes i Deyrnas Dduw ddod. Ynghyd â’r elfennau gwleidyddol a chrefyddol, mae’r system fasnachol, a ddisgrifiwyd fel “pobl fusnes” yn Datguddiad 18:3, hefyd yn rhan o fyd Satan. Er bod pobl Dduw yn cadw ar wahân i wleidyddiaeth a gau grefydd, dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim yn gallu cadw draw yn llwyr rhag y rhan fasnachol o fyd Satan.

3. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu gofyn?

 3 Fel Cristnogion, pwysig yw ystyried ein hagweddau tuag at y system fasnachol drwy ofyn: ‘Sut gallaf ddefnyddio fy mhethau materol i ddangos ffyddlondeb i Dduw? Sut gallaf osgoi cael fy nhynnu i mewn i’r byd masnachol? O dan yr amgylchiadau anodd hyn, pa brofiadau sy’n dangos bod pobl Dduw yn ymddiried yn llwyr ynddo ef?’

DAMEG Y FFORMAN ANONEST

4, 5. (a) Beth oedd sefyllfa’r fforman yn nameg Iesu? (b) Pa gyngor a roddodd Iesu i’w ddilynwyr?

4 Darllen Luc 16:1-9. Mae dameg Iesu am y fforman anonest yn werth ei hystyried. Ar ôl cael ei gyhuddo o fod yn wastraffus, roedd y fforman yn graff i wneud ffrindiau a fyddai’n ei helpu pan fyddai’n colli ei swydd. * Wrth gwrs, doedd Iesu ddim yn annog ei ddisgyblion i ymddwyn mewn ffordd anonest er mwyn goroesi’r byd hwn. Dywedodd mai “pobl y byd” sy’n ymddwyn felly. Yn hytrach, roedd yn defnyddio’r ddameg i yrru neges adref.

5 Roedd Iesu’n gwybod bod y rhan fwyaf o’i ddilynwyr yn gorfod ennill bywoliaeth yn y byd masnachol didrugaredd hwn, fel yr oedd y fforman yn gorfod ei wneud. Felly, anogodd ei ddilynwyr: “Dw i’n dweud wrthoch chi, gwnewch ffrindiau trwy ddefnyddio’ch arian er lles pobl eraill. Pan fydd gynnoch chi ddim ar ôl, bydd croeso i chi yn y nefoedd.” Beth gallwn ni ei ddysgu o gyngor Iesu?

6. Sut rydyn ni’n gwybod nad oedd y byd masnachol hwn yn rhan o fwriad Duw?

6 Mae’r Beibl yn dangos yn glir nad oedd y byd masnachol yn rhan o fwriad Duw. Roedd Jehofa wedi darparu popeth a oedd ei angen ar gyfer Adda ac Efa. (Gen. 2:15, 16) Yn nes ymlaen, pan dderbyniodd cynulleidfa eneiniog y ganrif gyntaf yr ysbryd glân gan Dduw, “doedd neb yn dweud ‘Fi biau hwnna!’ Roedden nhw’n rhannu popeth gyda’i gilydd.” (Act. 4:32) Cyfeiriodd y proffwyd Eseia at yr amser pan fyddai holl adnoddau’r ddaear ar gael i bawb. (Esei. 25:6-9; 65:21, 22) Ond, yn y cyfamser, byddai’n rhaid i ddilynwyr Iesu fod yn graff ac ennill bywoliaeth yn y byd hwn a cheisio plesio Duw yr un pryd.

DEFNYDDIO ARIAN YN GRAFF

7. Pa gyngor a welwn ni yn Luc 16:10-13?

7 Darllen Luc 16:10-13. Gwneud ffrindiau wnaeth y fforman er ei les ei hun. Ond, anogodd Iesu ei ddilynwyr i wneud ffrindiau am resymau anhunanol. Mae’r adnodau sy’n dilyn y ddameg yn cysylltu defnyddio arian â ffyddlondeb i Dduw. Pwynt Iesu oedd ein bod ni’n gallu ein profi ein hunain yn ffyddlon yn y ffordd rydyn ni’n defnyddio ac yn rheoli’r cyfoeth hwnnw. Sut felly?

8, 9. Rho esiamplau o bobl sy’n dangos eu ffyddlondeb yn y ffordd maen nhw’n defnyddio eu pethau materol.

8 Un ffordd o fod yn ffyddlon yn ein defnydd o bethau materol yw drwy gyfrannu’n ariannol at y gwaith pregethu byd-eang a ragfynegodd Iesu y byddai’n digwydd. (Math. 24:14.) Roedd gan ferch fach yn India gadw-mi-gei, ac roedd hi’n ei lenwi â cheiniogau fesul tipyn, ac yn dewis peidio â chael teganau er mwyn gwneud hynny. Pan oedd y bocs yn llawn, rhoddodd hi’r arian ar  gyfer y gwaith pregethu. Roedd brawd yn India sy’n tyfu coconyts wedi rhoi llawer iawn ohonyn nhw i’r swyddfa gyfieithu Malaialam, gan resymu y byddai rhoi coconyts yn uniongyrchol i’r swyddfa yn rhatach i’r brodyr na rhoi arian iddyn nhw i brynu coconyts. Craff iawn oedd hyn. Yn yr un modd, mae brodyr yng Ngwlad Groeg, yn aml yn cyfrannu olew olewydd, caws, a bwydydd eraill i’r teulu Bethel.

9 Mae brawd o Sri Lanca, sy’n byw dramor, wedi caniatáu i’r brodyr ddefnyddio ei dŷ yn Sri Lanca ar gyfer cyfarfodydd a chynulliadau ac yn gadael i weision llawn-amser fyw yno. Er bod hynny’n aberth iddo, mae’n helpu’r brodyr lleol sydd heb fawr o arian. Mewn gwlad lle mae’r gwaith pregethu wedi ei gyfyngu, mae brodyr yn agor eu cartrefi er mwyn eu defnyddio fel Neuaddau’r Deyrnas fel bod llawer o arloeswyr ac eraill sy’n brin o arian yn gallu cyfarfod heb faich ariannol.

10. Pa fendithion a gawn ni o roi yn hael?

10 Mae’r esiamplau uchod yn dangos sut mae pobl Dduw yn ffyddlon yn y pethau bach, sef pethau materol, sy’n werth llai na chyfoeth ysbrydol. (Luc 16:10) Sut mae’r rhai hyn yn teimlo am wneud aberthau o’r fath? Maen nhw’n deall bod rhoi’n hael yn ein helpu i ennill “gwir” gyfoeth. (Luc 16:11) Mae chwaer sy’n cyfrannu’n aml at waith y Deyrnas yn dweud: “Drwy fod yn hael â phethau materol, mae rhywbeth rhyfeddol wedi digwydd imi dros y blynyddoedd. Y mwyaf hael ydw i’n faterol, y mwyaf hael ydw i fel person yn gyffredinol. Rydw i’n fwy parod i faddau, yn fwy amyneddgar wrth bobl, ac yn fwy parod i dderbyn siomedigaeth a chyngor.” Mae llawer wedi dysgu bod haelioni yn cyfoethogi rhywun yn ysbrydol.—Salm 112:5; Diar. 22:9.

11. (a) Sut rydyn ni’n dangos ein bod ni’n graff drwy roi’n hael? (b) Sut mae pobl yn dod yn gyfartal ymhlith pobl Dduw? (Gweler y llun agoriadol.)

11 Mae defnyddio pethau materol ar gyfer gwaith y Deyrnas yn dangos ein bod ni’n graff mewn ffordd arall hefyd. Mae’n caniatáu inni fanteisio ar ein hamgylchiadau a helpu eraill. Er nad yw pawb sydd â digon o arian yn gallu pregethu’n llawn-amser neu symud dramor, maen nhw’n gwybod bod eu cyfraniadau yn cefnogi gweinidogaeth pobl eraill. (Diar. 19:17) Mae cyfraniadau gwirfoddol yn helpu i ddarparu cyhoeddiadau ac i gefnogi’r gwaith pregethu mewn gwledydd lle mae llawer yn dlawd, ond yn derbyn y gwirionedd. Am flynyddoedd, mewn llefydd fel y Congo, Madagasgar, a Rwanda, yn aml iawn, roedd yn rhaid i’r brodyr ddewis rhwng bwydo’r teulu a phrynu Beiblau, sydd weithiau’n costio’r un fath â chyflog un mis. Nawr, mae cyfraniadau llawer yn gwneud “pawb yn gyfartal,” ac mae cyfundrefn Jehofa yn gallu cefnogi’r gwaith o gyfieithu a  dosbarthu Beiblau ar gyfer pawb sydd angen un. (Darllen 2 Corinthiaid 8:13-15.) Felly, mae cyfeillgarwch Jehofa yn cael ei estyn i’r bobl sy’n rhoi ac i’r bobl sy’n derbyn.

PAID Â PHOENI AM Y MÂN BETHAU

12. Sut dangosodd Abraham ei fod yn ymddiried yn Nuw?

12 Ffordd arall o gryfhau ein cyfeillgarwch â Jehofa yw drwy osgoi cael ein tynnu i mewn i’r byd masnachol a thrwy ddefnyddio ein hamgylchiadau i geisio “gwir” gyfoeth. Gadawodd y dyn ffyddlon Abraham y ddinas gyfoethog Ur er mwyn byw mewn pebyll a cheisio perthynas dda gyda Jehofa. (Heb. 11:8-10) Iddo ef, Duw oedd ffynhonnell pob cyfoeth, a doedd Abraham byth yn ceisio pethau materol a fyddai’n dangos nad oedd yn ymddiried yn Jehofa. (Gen. 14:22, 23) Dyna’r fath o ffydd roedd Iesu’n ei hyrwyddo, gan ddweud wrth ddyn ifanc cyfoethog: “Os wyt ti wir am gyrraedd y nod, dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho’r arian i bobl dlawd. Wedyn cei drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.” (Math. 19:21) Nid oedd gan y dyn hwnnw ffydd fel Abraham, ond mae eraill wedi ymddiried yn llwyr yn Nuw.

13. (a) Pa gyngor a roddodd Paul i Timotheus? (b) Sut gallwn ninnau ddilyn cyngor Paul heddiw?

13 Roedd gan Timotheus ffydd. Ar ôl dweud mai “milwr da i Iesu y Meseia” oedd Timotheus, dywedodd Paul wrtho: “Dydy milwr ddim yn poeni am y mân bethau sy’n poeni pawb arall—mae e eisiau plesio ei gapten.” (2 Tim. 2:3, 4) Ymhlith dilynwyr Iesu heddiw mae byddin o dros filiwn o gyhoeddwyr llawn-amser yn dilyn cyngor Paul hyd eithaf eu gallu. Gan wrthsefyll dylanwad negyddol hysbysebion, maen nhw’n dwyn i gof yr egwyddor hon: “Mae’r un sydd mewn dyled yn gaethwas i’r benthyciwr.” (Diar. 22:7) Byddai Satan wrth ei fodd petaen ni’n treulio ein holl amser a’n hegni yn gaethweision i’r byd masnachol. Gall rhai penderfyniadau ein cadw’n gaeth am flynyddoedd. Mae morgeisi anferth, benthyciadau i fyfyrwyr, taliadau car drud, neu hyd yn oed priodasau dros-ben-llestri yn gallu rhoi pwysau ariannol mawr ar bobl. Rydyn ni’n ein dangos ein hunain yn graff drwy symleiddio ein bywydau a lleihau ein dyledion a’n costau, gan ein rhyddhau ein hunain i wasanaethu Duw yn hytrach na system fasnachol y byd.—1 Tim. 6:10.

14. O beth y mae’n rhaid inni fod yn benderfynol? Rho esiamplau.

14 Mae cadw ein bywydau’n syml yn golygu gosod blaenoriaethau. Roedd gan un cwpl priod fusnes cynhyrchu llwyddiannus. Ond, roedden nhw eisiau gwasanaethu’n llawn-amser unwaith eto, felly gwerthon nhw’r busnes, eu cwch, a phethau materol eraill. Wedyn, gwnaethon nhw wirfoddoli i helpu adeiladu’r pencadlys newydd yn Warwick, Efrog Newydd. Bendith fawr iddyn nhw oedd cael gwasanaethu yn y Bethel gyda’u merch a’u mab-yng-nghyfraith ac, am ychydig o wythnosau, gyda rhieni’r gŵr, a oedd hefyd yn helpu ar y prosiect yn Warwick. Gwnaeth arloeswraig yn Colorado, UDA, ddarganfod gwaith rhan-amser mewn banc. Roedd y staff wedi gwirioni ar ei gwaith a dyma nhw’n cynnig swydd lawn-amser iddi gyda thair gwaith cymaint o arian. Ond, oherwydd byddai’r swydd yn tynnu ei sylw oddi ar y weinidogaeth, gwrthododd hi’r cynnig. Dim ond ychydig o esiamplau yw’r rhain sy’n dangos yr aberthau mae gweision Jehofa yn eu  gwneud bob dydd. Mae bod yn benderfynol o roi’r Deyrnas yn gyntaf yn dangos ein bod ni’n trysori ein cyfeillgarwch â Duw a’n cyfoeth ysbrydol yn llawer iawn mwy nag unrhyw beth y mae’r byd yn ei gynnig.

PAN FYDD CYFOETH LLYTHRENNOL YN METHU

15. Pa gyfoeth sy’n dod â’r llawenydd mwyaf?

15 Dydy cyfoeth materol ddim o reidrwydd yn arwydd o fendith Duw. Mae Jehofa yn bendithio’r rhai “cyfoethog mewn gweithredoedd da.” (Darllen 1 Timotheus 6:17-19.) Er enghraifft, pan glywodd Lucia * fod angen mwy o gyhoeddwyr yn Albania, symudodd hi yno o’r Eidal yn 1993 heb unrhyw ffordd o’i chynnal ei hun, gan ddibynnu’n llwyr ar Jehofa. Gwnaeth hi feistroli’r iaith Albaneg ac erbyn hyn mae hi wedi helpu dros 60 o bobl i ymgysegru i Jehofa. Er nad yw’r rhan fwyaf ohonon ni’n gwasanaethu mewn ardaloedd sydd mor ffrwythlon â hynny, bydd unrhyw beth rydyn ni’n ei wneud i helpu eraill i ddarganfod y ffordd i fywyd ac i aros arni yn cael ei werthfawrogi gennyn ni a chanddyn nhw am byth.—Math. 6:20.

16. (a) Beth sydd ar fin digwydd i’r system fasnachol hon? (b) Sut dylai’r hyn rydyn ni’n ei wybod am y dyfodol effeithio ar ein hagwedd tuag at bethau materol?

16 Dywedodd Iesu: “Pan fydd gynnoch chi ddim ar ôl.” Doedd Iesu ddim yn dweud: ‘Os bydd gynnoch chi ddim ar ôl.’ (Luc 16:9) Dydy cwymp y banciau a’r economïau yn ddim byd o’i gymharu â’r hyn a fydd yn digwydd ledled y byd yn y dyfodol agos. Mae system gyfan Satan—y rhannau gwleidyddol, crefyddol, a masnachol—yn sicr o fethu. Rhagfynegodd y proffwydi Eseciel a Seffaneia y byddai aur ac arian, prif nwyddau’r byd masnachol ar hyd y canrifoedd, yn werth dim. (Esec. 7:19; Seff. 1:18) Sut bydden ni’n teimlo petaen ni’n cyrraedd diwedd ein hoes yn y byd hwn a sylweddoli ein bod ni wedi aberthu gwir gyfoeth ar gyfer cyfoeth diwerth y byd hwn? Bydden ni’n teimlo fel dyn a oedd wedi gweithio ar hyd ei oes yn casglu pentwr o arian, dim ond i ddysgu mai arian ffug oedd y cwbl. (Diar. 18:11) Yn wir, mae cyfoeth o’r fath yn sicr o fethu, felly, paid â cholli’r cyfle i’w ddefnyddio i wneud ffrindiau yn y nefoedd. Mae pob dim rydyn ni’n ei wneud i gefnogi Teyrnas Jehofa yn ein cyfoethogi’n ysbrydol.

17, 18. Beth sydd ar y gorwel i ffrindiau Duw?

17 Pan ddaw Teyrnas Dduw, ni fydd angen talu morgeisi na rhenti bellach, bydd bwyd ar gael i bawb am ddim, a bydd costau gofal iechyd yn diflannu. Bydd teulu daearol Jehofa yn mwynhau’r gorau sydd gan y ddaear i’w gynnig. Bydd aur, arian, a gemau yn cael eu gwisgo yn hytrach na’u casglu a’u gwerthu. Bydd y coed, y cerrig, a’r metel i gyd o’r safon gorau ac ar gael i bawb er mwyn adeiladu tai hyfryd. Bydd ffrindiau yn ein helpu o’u gwirfodd, nid ar gyfer arian. Bydd trefn newydd o rannu adnoddau’r ddaear yn ffordd o fyw inni.

18 Dim ond rhan o’r etifeddiaeth werthfawr yw hyn ar gyfer y rhai sy’n gwneud ffrindiau yn y nefoedd. Bydd addolwyr Jehofa ar y ddaear yn llawenhau am byth ar ôl clywed geiriau Iesu: “Chi ydy’r rhai mae fy Nhad wedi eu bendithio, felly dewch i dderbyn eich etifeddiaeth. Mae’r cwbl wedi ei baratoi ar eich cyfer ers i’r byd gael ei greu.”—Math. 25:34.

^ Par. 4 Ni ddywedodd Iesu a oedd y cyhuddiad yn un dilys neu beidio. Mae’r ymadrodd Groeg a gyfieithir “wedi clywed sibrydion” yn Luc 16:1 yn gallu golygu bod y fforman wedi ei enllibio. Ond, mae Iesu’n canolbwyntio ar ymateb y fforman, yn hytrach nag ar y rheswm iddo gael y sac.

^ Par. 15 Mae hanes bywyd Lucia Moussanett yn rhifyn 22 Mehefin 2003 o’r Awake!, tt. 18-22.