Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 ERTHYGL ASTUDIO 15

Efelycha Iesu a Chael Heddwch

Efelycha Iesu a Chael Heddwch

“Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg—yn gwarchod eich calonnau.”—PHIL. 4:7.

CÂN 113 Ein Heddwch

CIPOLWG *

1-2. Pam roedd Iesu o dan straen mawr?

AR EI ddiwrnod olaf fel dyn perffaith, roedd Iesu o dan straen. Yn fuan byddai’n cael ei boenydio a’i ladd gan ddynion creulon. Ond roedd Iesu’n poeni am fwy na’i farwolaeth yn unig. Roedd yn caru ei Dad yn fawr ac eisiau ei blesio. Gwyddai Iesu, petai’n aros yn ffyddlon yn wyneb y treialon oedd ar fin dod, byddai’n helpu i gyfiawnhau enw Jehofa. Roedd Iesu hefyd yn caru pobl, ac roedd yn gwybod bod ein gobaith o fywyd tragwyddol yn dibynnu ar ei ffyddlondeb i Jehofa hyd y diwedd.

2 Er bod Iesu o dan straen mawr, roedd ganddo heddwch meddwl. “Heddwch—dyna dw i’n ei roi yn rhodd i chi,” meddai wrth ei apostolion. (Ioan 14:27) Roedd ganddo’r “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi,” sef y tawelwch meddwl mae rhywun yn ei deimlo oherwydd ei berthynas agos â Jehofa. Gwnaeth yr heddwch hwnnw helpu Iesu i beidio â phryderu.—Phil. 4:6, 7.

3. Beth fyddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

3 Ni fydd yr un ohonon ni yn gorfod wynebu’r un pwysau a wynebodd Iesu, ond bydd pawb sy’n dilyn Iesu yn gorfod wynebu treialon. (Math. 16:24, 25; Ioan 15:20) Ac yn debyg i Iesu, weithiau byddwn ni’n teimlo o dan straen. Sut gallwn ni stopio pryder rhag arglwyddiaethu arnon ni, a chadw ein heddwch meddwl? Gad inni edrych ar dri pheth a wnaeth Iesu yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear a gweld sut gallwn ni ei efelychu wrth i ninnau wynebu treialon.

 ROEDD IESU’N GWEDDÏO’N AML

Gallwn ni aros yn dawel ein meddwl drwy weddïo (Gweler paragraffau 4-7)

4. Drwy gadw 1 Thesaloniaid 5:17 mewn cof, rho esiamplau i ddangos bod Iesu wedi gweddïo lawer o weithiau ar ei ddiwrnod olaf ar y ddaear.

4 Darllen 1 Thesaloniaid 5:17. Gwnaeth Iesu weddïo lawer o weithiau ar ei ddiwrnod olaf o fywyd ar y ddaear. Pan sefydlodd y trefniant i goffáu ei farwolaeth, gweddïodd dros y bara a’r gwin. (1 Cor. 11:23-25) Cyn gadael yr ystafell lle’r oedden nhw wedi cadw’r Pasg Iddewig, gweddïodd gyda’i ddisgyblion. (Ioan 17:1-26) Pan gyrhaeddodd ef a’i ddisgyblion Fynydd yr Olewydd y noson honno, fe weddïodd lawer o weithiau. (Math. 26:36-39, 42, 44) Ac roedd y geiriau olaf a ddywedodd Iesu cyn iddo farw ar ffurf gweddi. (Luc 23:46) Drwy weddïo, gwnaeth Iesu gynnwys Jehofa ym mhob digwyddiad pwysig ar y diwrnod mawr hwnnw.

5. Pam gwnaeth dewrder yr apostolion wanhau?

5 Un o’r rhesymau pam y gallai Iesu wynebu ei dreial oedd oherwydd iddo weddïo ar ei Dad am help. Ar y llaw arall, ni wnaeth ei apostolion ddal ati i weddïo y noson honno. O ganlyniad, gwnaeth eu dewrder wanhau pan gawson nhw eu profi. (Math. 26:40, 41, 43, 45, 56) Pan fyddwn ni’n wynebu treialon, byddwn ni’n aros yn ffyddlon dim ond inni ddilyn esiampl Iesu a gweddïo’n aml. Beth gallwn ni weddïo amdano?

6. Sut bydd ffydd yn ein helpu i gadw ein heddwch meddwl?

6 Gallwn weddïo ar Jehofa er mwyn inni “gael mwy o ffydd.” (Luc 17:5; Ioan 14:1) Rydyn ni angen ffydd gan fod Satan yn rhoi pawb sy’n dilyn Iesu o dan brawf. (Luc 22:31) Sut bydd ffydd yn ein helpu i gadw ein heddwch meddwl hyd yn oed pan  fydd rhaid inni ddelio ag un broblem ar ôl y llall? Ar ôl inni wneud popeth a fedrwn ni i ddelio â phroblem, bydd ffydd yn ein hysgogi i adael pethau yn nwylo Jehofa. Gan ein bod yn gwybod y gallai Duw ddelio â phethau yn well nag y gallwn ninnau, mae gennyn ni dawelwch meddwl.—1 Pedr 5:6, 7.

7. Beth wnest ti ei ddysgu o sylwadau Robert?

7 Mae gweddi yn ein helpu i gadw ein heddwch meddwl ni waeth pa dreialon rydyn ni’n eu hwynebu. Ystyria esiampl Robert, henuriad ffyddlon sydd bellach yn ei 80au. Mae’n dweud: “Mae’r cyngor yn Philipiaid 4:6, 7 wedi fy helpu i ymdopi â nifer o dreialon yn fy mywyd. Rydw i wedi cael problemau ariannol. Ac am gyfnod collais fy mraint o wasanaethu fel henuriad.” Beth sydd wedi helpu Robert i aros yn dawel ei feddwl? “Rydw i’n gweddïo y munud rydw i’n dechrau pryderu,” meddai. “Rydw i’n teimlo pan ydw i’n gweddïo’n aml ac o waelod calon, mae gen i fwy o heddwch meddwl.”

ROEDD IESU’N PREGETHU’N SELOG

Gallwn ni aros yn dawel ein meddwl drwy bregethu (Gweler paragraffau 8-10)

8. Yn ôl Ioan 8:29, beth yw rheswm arall pam roedd gan Iesu heddwch meddwl?

8 Darllen Ioan 8:29. Hyd yn oed wrth iddo gael ei erlid, roedd gan Iesu heddwch meddwl oherwydd iddo wybod ei fod yn plesio ei Dad. Arhosodd yn ufudd pan oedd hi’n anodd iddo wneud hynny. Roedd yn caru ei Dad, a gwasanaethu Jehofa oedd canolbwynt ei fywyd. Cyn iddo ddod i’r ddaear, roedd Iesu’n gweithio wrth ochr Jehofa. (Diar. 8:30) A tra oedd ef ar y ddaear, dysgodd eraill am ei Dad yn selog.  (Math. 6:9; Ioan 5:17) Roedd y gwaith hwn yn rhoi llawenydd mawr i Iesu.—Ioan 4:34-36.

9. Sut gall cadw’n brysur yn y gwaith pregethu ein helpu i gadw ein heddwch meddwl?

9 Rydyn ni’n gallu efelychu Iesu trwy ufuddhau i Jehofa a thrwy ein rhoi ein hunain “yn llwyr i waith yr Arglwydd.” (1 Cor. 15:58) Pan fyddwn ni’n “ymroi yn llwyr i bregethu’r Gair,” gallwn gael agwedd mwy positif tuag at ein problemau. (Act. 18:5) Er enghraifft, yn aml mae’r rhai rydyn ni’n cwrdd â nhw yn y weinidogaeth yn wynebu problemau sy’n waeth nag ein problemau ni. Ond, wrth iddyn nhw ddysgu caru Jehofa a rhoi ei gyngor ar waith, mae eu bywydau’n gwella ac maen nhw’n teimlo’n hapusach. Bob tro rydyn ni’n gweld hyn yn digwydd, teimlwn yn fwy hyderus y bydd Jehofa yn gofalu amdanon ninnau hefyd. Ac mae’r sicrwydd hwnnw yn ein helpu i gadw ein heddwch meddwl. Roedd hyn yn wir yn achos chwaer sydd wedi dioddef o ddiffyg hunan-werth ac iselder drwy gydol ei bywyd. “Pan ydw i’n brysur yn y weinidogaeth,” meddai hi, “rydw i’n teimlo’n fwy cadarn yn emosiynol ac yn hapusach. Y rheswm efallai yw fy mod i’n teimlo’n agosach at Jehofa pan ydw i allan yn pregethu.”

10. Beth wnest ti ei ddysgu o sylwadau Brenda?

10 Ystyria hefyd esiampl chwaer o’r enw Brenda. Mae hi a’i merch yn dioddef o sglerosis gwasgaredig. Mae’n rhaid i Brenda ddefnyddio cadair olwyn a does ganddi ddim llawer o egni. Weithiau mae hi’n pregethu o ddrws i ddrws, ond y rhan fwyaf o’r amser mae hi’n tystiolaethu drwy ysgrifennu llythyrau. Mae hi’n dweud: “Unwaith imi ddeall a derbyn na fyddwn i’n gwella yn y system hon, roeddwn i’n gallu canolbwyntio’n llawn ar fy ngweinidogaeth. Yn wir, pan fyddwn i’n pregethu, dydw i ddim yn meddwl am fy mhryderon. Mae’n gwneud imi ganolbwyntio ar helpu’r rhai yn y diriogaeth rydw i’n tystiolaethu iddyn nhw. Ac mae’n fy atgoffa i drwy’r amser o’r gobaith sydd gen i am y dyfodol.”

DERBYNIODD IESU HELP GAN EI FFRINDIAU

Gallwn ni aros yn dawel ein meddwl drwy gymdeithasu â ffrindiau da (Gweler paragraffau 11-15)

11-13. (a) Sut gwnaeth yr apostolion ac eraill ddangos eu bod nhw’n ffrindiau da i Iesu? (b) Pa effaith a gafodd ffrindiau Iesu arno?

11 Trwy gydol gweinidogaeth heriol Iesu, roedd ei apostolion yn ffrindiau da iddo. Roedden nhw’n rhoi ar waith y ddihareb sy’n dweud: “Mae ffrind go iawn yn fwy ffyddlon na brawd.” (Diar. 18:24) Roedd Iesu’n gwerthfawrogi ffrindiau o’r fath. Yn ystod ei weinidogaeth, ni wnaeth yr un o’i frodyr roi ffydd ynddo. (Ioan 7:3-5) Ar un adeg, roedd ei berthnasau hyd yn oed yn meddwl ei fod yn benwan. (Marc 3:21) Ond, gallai Iesu ddweud wrth ei apostolion ffyddlon ar y noson cyn ei farwolaeth: “Dych chi wedi sefyll gyda mi drwy’r treialon.”—Luc 22:28.

12 Ar adegau roedd yr apostolion yn siomi Iesu, ond yn lle canolbwyntio ar eu camgymeriadau, roedd yn gweld bod ganddyn nhw ffydd ynddo. (Math. 26:40; Marc 10:13, 14; Ioan 6:66-69) Ar y noson olaf cyn iddo gael ei ladd, dywedodd Iesu wrth y dynion ffyddlon hyn: “Ffrindiau i mi ydych chi, achos dw i wedi rhannu gyda chi bopeth mae’r Tad wedi ei ddweud.” (Ioan 15:15) Heb amheuaeth, gwnaeth ffrindiau Iesu ei galonogi’n fawr. Roedd eu help wrth iddo gyflawni ei weinidogaeth yn gwneud i Iesu lawenhau.—Luc 10:17, 21.

13 Roedd gan Iesu ffrindiau eraill yn ogystal â’r apostolion, ddynion a menywod a wnaeth ei helpu yn y gwaith pregethu  ac mewn ffyrdd ymarferol eraill. Gwnaeth rhai ei wahodd i’w cartrefi er mwyn rhoi pryd o fwyd iddo. (Luc 10:38-42; Ioan 12:1, 2) Gwnaeth eraill deithio gydag ef a rhannu eu pethau materol. (Luc 8:3) Roedd gan Iesu ffrindiau da oherwydd ei fod yntau yn ffrind da iddyn nhw. Roedd yn gwneud pethau da drostyn nhw ac yn rhesymol o ran beth roedd yn ei ddisgwyl ganddyn nhw. Er ei fod yn berffaith, roedd Iesu’n gwerthfawrogi cefnogaeth ei ffrindiau amherffaith. A gallwn fod yn sicr y gwnaethon nhw ei helpu i gadw ei heddwch meddwl.

14-15. Sut gallwn ni wneud ffrindiau da, a sut gallan nhw ein helpu?

14 Bydd ffrindiau da yn ein helpu i aros yn ffyddlon i Jehofa. A’r ffordd orau o wneud ffrindiau da yw bod yn ffrind da yn y lle cyntaf. (Math. 7:12) Er enghraifft, mae’r Beibl yn ein hannog i ddefnyddio ein hamser a’n hegni i helpu eraill, yn enwedig pobl sydd “mewn angen.” (Eff. 4:28) A fedri di feddwl am rywun yn dy gynulleidfa y gelli di ei helpu? A elli di fynd i’r siop ar gyfer cyhoeddwr sy’n gaeth i’r tŷ? Neu a elli di ddarparu pryd o fwyd ar gyfer teulu sy’n cael problemau ariannol? Os wyt ti’n gwybod sut i ddefnyddio’r wefan jw.org® a’r ap JW Library®, a fedri di helpu eraill yn dy gynulleidfa i’w defnyddio? Pan fyddwn ni’n brysur yn helpu eraill, y tebyg yw y bydden ni’n teimlo’n hapusach.—Act. 20:35.

15 Bydd ein ffrindiau yn ein cefnogi wrth inni wynebu treialon, ac yn ein helpu i gadw ein heddwch meddwl. Yn debyg i’r ffordd gwnaeth Elihw wrando ar Job yn  sôn am ei dreialon, mae ein ffrindiau ninnau yn helpu drwy wrando’n amyneddgar wrth inni fynegi ein teimladau. (Job 32:4) Ni ddylen ni ddisgwyl i’n ffrindiau wneud penderfyniadau droson ni, ond peth doeth yw gwrando ar eu cyngor sy’n seiliedig ar y Beibl. (Diar. 15:22) Ac yn union fel y gwnaeth y Brenin Dafydd dderbyn help ei ffrindiau yn ostyngedig, ddylen ni byth adael i falchder ein stopio ni rhag derbyn yr help mae ein ffrindiau yn ei gynnig pan fyddwn ninnau mewn angen. (2 Sam. 17:27-29) Yn wir, mae ffrindiau o’r fath yn anrheg oddi wrth Jehofa.—Iago 1:17.

SUT I GADW HEDDWCH MEDDWL

16. Yn ôl Philipiaid 4:6, 7, beth yw’r unig ffordd y gallwn ni gael heddwch? Esbonia.

16 Darllen Philipiaid 4:6, 7Pam mae Jehofa yn dweud wrthon ni y gallwn ni gael yr heddwch mae’n ei roi wrth inni “ddilyn y Meseia Iesu”? Oherwydd gallwn ni aros yn dawel ein meddwl dim ond os ydyn ni’n deall ac yn rhoi ffydd yn y rhan sydd gan Iesu ym mhwrpas Jehofa. Er enghraifft, drwy gyfrwng aberth pridwerthol Iesu, gall pob un o’n pechodau gael eu maddau. (1 Ioan 2:12) Mae hynny’n gysur mawr! Fel Brenin Teyrnas Dduw, bydd Iesu yn dad-wneud unrhyw niwed mae Satan a’i system wedi ei achosi inni. (Esei. 65:17; 1 Ioan 3:8; Dat. 21:3, 4) Mae hynny’n obaith hyfryd! Ac er bod Iesu wedi rhoi aseiniad anodd inni, y mae gyda ni, yn ein cefnogi trwy ddyddiau olaf y system hon. (Math. 28:19, 20) Mae hynny’n rhoi dewrder inni! Cysur, gobaith, a dewrder—dyma rai o’r pethau sy’n sail i’n heddwch meddwl.

17. (a) Sut gall Cristion gadw ei heddwch meddwl? (b) Yn ôl yr addewid yn Ioan 16:33, beth fyddwn ni’n gallu ei wneud?

17 Sut, felly, gelli di gadw dy heddwch meddwl pan fydd treialon yn dy roi di o dan straen? Trwy efelychu’r pethau a wnaeth Iesu. Yn gyntaf, gweddïa a dal ati i weddïo beth bynnag a ddaw. Yn ail, ufuddha i Jehofa a phregetha’n selog hyd yn oed pan fydd hi’n anodd gwneud hynny. Ac yn drydydd, dibynna ar dy ffrindiau i dy helpu wrth iti wynebu treialon. Wedyn, bydd yr heddwch mae Duw’n ei roi yn gwarchod dy galon a dy feddwl. Ac fel Iesu, byddi di’n concro unrhyw dreial.—Darllen Ioan 16:33.

CÂN 41 Plîs Gwrando ar Fy Ngweddi

^ Par. 5 Mae’n rhaid i bob un ohonon ni ddelio â phroblemau a all ei gwneud hi’n anodd inni gadw ein heddwch. Mae’r erthygl hon yn trafod tri pheth a wnaeth Iesu, ac y gallwn ninnau hefyd eu gwneud er mwyn cadw ein heddwch meddwl, hyd yn oed wrth inni wynebu treialon dwys.