“Clod i Dduw . . . Mae’n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion.”—2 CORINTHIAID 1:3, 4.

CANEUON: 7, 3

1. Pan wrthryfelodd Adda ac Efa, sut rhoddodd Jehofa anogaeth a gobaith i ddynolryw?

MAE Jehofa yn Dduw sy’n rhoi anogaeth. Mae wedi bod yn gwneud hyn ers i bobl bechu a dod yn amherffaith. Yn wir, yn syth ar ôl i Adda ac Efa wrthryfela yn erbyn Duw, rhoddodd Jehofa broffwydoliaeth a fyddai, unwaith iddi gael ei deall, yn rhoi dewrder a gobaith i fodau dynol a fyddai’n cael eu geni yn y dyfodol. Mae’r broffwydoliaeth hon i’w chael yn Genesis 3:15 sy’n addo y bydd Satan y Diafol a’i holl ddrwgweithredoedd yn cael eu dinistrio.—1 Ioan 3:8; Datguddiad 12:9.

JEHOFA YN ANNOG EI WEISION GYNT

2. Sut gwnaeth Jehofa annog Noa?

2 Meddylia am sut rhoddodd Jehofa anogaeth i’w was Noa. Roedd y bobl a oedd yn byw yn ystod y cyfnod hwnnw’n dreisgar ac yn anfoesol, a dim ond Noa a’i deulu a oedd yn addoli Jehofa. Byddai wedi bod yn hawdd iawn i Noa ddigalonni. (Genesis 6:4, 5, 11; Jwdas 6) Ond,  gwnaeth Jehofa annog Noa i barhau i’w addoli a gwneud y peth iawn. (Genesis 6:9) Dywedodd Jehofa wrth Noa y byddai’n dinistrio’r byd drwg hwnnw, ac esboniodd i Noa yr hyn yr oedd yn rhaid iddo ei wneud i achub ei deulu. (Genesis 6:13-18) Duw llawn anogaeth oedd Jehofa i Noa.

3. Sut rhoddodd Jehofa anogaeth i Josua? (Gweler y llun agoriadol.)

3 Yn ddiweddarach, anogodd Jehofa ei was Josua, a oedd wedi cael aseiniad pwysig. Roedd rhaid iddo arwain pobl Dduw i Wlad yr Addewid a choncro byddinoedd cryf y cenhedloedd a oedd yn byw yno. Roedd Jehofa yn gwybod bod gan Josua bob rheswm i fod yn ofnus, felly dywedodd wrth Moses: “Dw i eisiau i ti gomisiynu Josua, a’i annog a rhoi hyder iddo. Fe ydy’r un sy’n mynd i arwain y bobl yma drosodd i gymryd y wlad fyddi di’n ei gweld o dy flaen di.” (Deuteronomium 3:28) Yna, rhoddodd Jehofa anogaeth i Josua drwy ddweud: “Dw i’n dweud eto, bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn na phanicio. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o’r ffordd!” (Josua 1:1, 9) Yn dy farn di, sut roedd Josua yn teimlo ar ôl clywed y geiriau hyn?

4, 5. (a) Sut anogodd Jehofa ei bobl yn y gorffennol? (b) Sut anogodd Jehofa ei Fab?

4 Hefyd, anogodd Jehofa ei bobl fel grŵp. Er enghraifft, roedd Jehofa yn gwybod y byddai angen anogaeth ar yr Iddewon pan oedden nhw’n gaethweision ym Mabilon, a rhoddodd iddyn nhw’r broffwydoliaeth ganlynol: “Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Paid dychryn—fi ydy dy Dduw di! Dw i’n dy nerthu di ac yn dy helpu di, dw i’n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde.” (Eseia 41:10) Wedyn, rhoddodd Jehofa anogaeth i’r Cristnogion cynnar, ac mae yn ein hannog ninnau yn yr un ffordd heddiw.—Darllen 2 Corinthiaid 1:3, 4.

5 Hefyd, rhoddodd Jehofa anogaeth i’w Fab. Ar ôl i Iesu gael ei fedyddio, clywodd lais o’r nef yn dweud: “Hwn ydy fy Mab annwyl i; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr.” (Mathew 3:17) Dychmyga gymaint y gwnaeth y geiriau hyn gryfhau Iesu yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear.

IESU YN ANNOG ERAILL

6. Sut gall dameg y talentau ein hannog?

6 Efelychodd Iesu ei Dad drwy annog eraill i fod yn ffyddlon. Mae’n gwneud hynny yn nameg y talentau, lle mae’r meistr yn dweud wrth bob gwas ffyddlon: “Da iawn ti! . . . Rwyt ti’n weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti! Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, felly dw i’n mynd i roi llawer iawn mwy o gyfrifoldeb i ti. Tyrd gyda mi i ddathlu!” (Mathew 25:21, 23) Gwnaeth y geiriau hyn annog ei ddisgyblion i barhau i wasanaethu Jehofa yn ffyddlon!

Gwnaeth Iesu annog Pedr a rhoi iddo aseiniad a oedd yn gofyn iddo gryfhau eraill

7. Sut anogodd Iesu ei apostolion, yn enwedig Pedr?

7 Er i’r apostolion ddadlau yn aml dros ba un ohonyn nhw oedd y gorau, roedd Iesu bob amser yn amyneddgar tuag atyn nhw. Gwnaeth eu hannog nhw i fod yn ostyngedig ac i wasanaethu eraill, yn hytrach na bod eisiau i eraill eu gwasanaethu nhw. (Luc 22:24-26)  Gwnaeth Pedr gamgymeriadau a siomi Iesu ar sawl achlysur. (Mathew 16:21-23; 26:31-35, 75) Ond ni wnaeth byth wrthod Pedr. Yn hytrach, anogodd Pedr a rhoddodd iddo aseiniad a oedd yn gofyn iddo gryfhau eraill.—Ioan 21:16.

ANOGAETH YN Y CYFNOD A FU

8. Sut anogodd Heseceia y swyddogion milwrol a phobl Jwda?

8 Hyd yn oed cyn i Iesu osod esiampl iddyn nhw, roedd gweision Jehofa yn gwybod bod rhaid iddyn nhw annog eraill. Meddylia am Heseceia. Pan oedd yr Asyriaid ar fin ymosod ar Jerwsalem, casglodd y swyddogion milwrol a’r bobl at ei gilydd i’w hannog, ac “roedd pawb yn teimlo’n well ar ôl clywed geiriau’r brenin.”—Darllen 2 Cronicl 32:6-8.

9. Beth allwn ni ei ddysgu o esiampl Job ynglŷn â rhoi anogaeth?

9 Gallwn hefyd ddysgu am sut i roi anogaeth o esiampl Job. Er bod angen anogaeth arno ef ei hun, dysgodd eraill i roi anogaeth. Dywedodd Job wrth y rhai a ddaeth i’w gysuro y byddai wedi dweud pethau i’w cryfhau a phethau i wneud iddyn nhw deimlo’n well petasai ef wedi bod yn trio eu cysuro nhw, yn hytrach na phethau a fyddai wedi achosi poen iddyn nhw. (Job 16:1-5) Ond, yn y pen draw, derbyniodd Job anogaeth gan Elihw a Jehofa.—Job 33:24, 25; 36:1, 11; 42:7, 10.

10, 11. (a) Pam roedd merch Jefftha angen anogaeth? (b) Pwy allwn ni ei annog heddiw?

10 Roedd merch Jefftha hefyd angen anogaeth. Roedd ei thad, y Barnwr Jefftha, am ymladd yn erbyn yr Ammoniaid. Petai Jehofa yn helpu Jefftha i ennill y frwydr, addawodd y byddai’r person cyntaf i ddod allan o’i dŷ i’w gyfarfod yn mynd i wasanaethu Jehofa yn y tabernacl. Enillodd Israel y frwydr, a’r person cyntaf a ddaeth allan i gyfarch Jefftha oedd ei ferch, ei unig blentyn. Roedd Jefftha wedi torri ei galon. Ond, cadwodd at ei air ac anfonodd ei ferch i wasanaethu yn y tabernacl am weddill ei hoes.—Barnwyr 11:30-35.

11 Er bod hyn yn anodd i Jefftha, mae’n debyg ei fod yn fwy anodd byth i’w ferch. Ond, roedd hi’n hapus i wneud yr hyn addawodd ei thad. (Barnwyr 11:36, 37) Roedd hyn yn golygu na fyddai hi byth yn priodi nac yn cael plant. Byddai’r llinach deuluol yn dod i ben. Felly roedd angen llawer o gysur ac anogaeth arni. Dywed y Beibl: “Daeth yn ddefod yn Israel fod y merched yn mynd i ffwrdd am bedwar diwrnod bob blwyddyn, i goffáu merch Jefftha o Gilead.” (Barnwyr 11:39, 40) Mae merch Jefftha yn gwneud inni feddwl am Gristnogion heddiw sy’n aros yn sengl er mwyn gallu gwneud mwy i Jehofa. A allwn ni eu canmol a’u hannog?—1 Corinthiaid 7:32-35.

YR APOSTOLION YN ANNOG EU BRODYR

12, 13. Sut cryfhaodd Pedr ei frodyr?

12 Y noson cyn iddo farw, dywedodd Iesu wrth yr apostol Pedr: “Simon,  Simon—mae Satan wedi bod eisiau eich cymryd chi i gyd i’ch ysgwyd a’ch profi chi fel mae us yn cael ei wahanu oddi wrth y gwenith. Ond dw i wedi gweddïo drosot ti, Simon, y byddi di ddim yn colli dy ffydd. Felly pan fyddi di wedi troi’n ôl dw i eisiau i ti annog a chryfhau’r lleill.”—Luc 22:31, 32.

Roedd llythyrau’r apostolion yn annog Cristnogion yn y ganrif gyntaf, ac maen nhw’n dal i’n hannog ninnau heddiw (Gweler paragraffau 12-17)

13 Roedd Pedr yn un o’r rhai a oedd yn arwain y ffordd yn y gynulleidfa Gristnogol gynnar. (Galatiaid 2:9) Anogodd ei frodyr drwy ei weithredoedd doeth yn ystod Pentecost ac ar ôl hynny. Ar ôl iddo fod wedi gwasanaethu am lawer o flynyddoedd, ysgrifennodd at y brodyr: “Dw i’n anfon y llythyr byr yma atoch chi drwy law Silas. . . . Dw i wedi ceisio’ch annog chi, a thystio fod beth dw i wedi ysgrifennu amdano yn dangos haelioni gwirioneddol Duw. Felly safwch yn gadarn.” (1 Pedr 5:12) Roedd llythyrau Pedr yn rhoi anogaeth i bobl y cyfnod hwnnw. Ac maen nhw’n parhau i’n hannog ninnau heddiw wrth inni ddisgwyl i addewidion Jehofa gael eu cyflawni’n llawn!—2 Pedr 3:13.

14, 15. Sut mae’r llyfrau a ysgrifennodd yr apostol Ioan yn ein hannog ni?

14 Roedd yr apostol Ioan hefyd yn un a oedd yn arwain y ffordd yn y gynulleidfa Gristnogol gynnar. Ysgrifennodd Efengyl gyffrous am weinidogaeth Iesu. Mae’r llyfr hwn wedi annog llawer o Gristnogion am gannoedd o flynyddoedd ac mae’n parhau i’n hannog ninnau heddiw. Er enghraifft, dim ond  yn efengyl Ioan rydyn ni’n darllen am Iesu yn datgan bod cariad yn arwydd o wir Gristnogaeth.—Darllen Ioan 13:34, 35.

15 Mae’r tri llythyr a ysgrifennodd Ioan hefyd yn cynnwys gwirioneddau gwerthfawr. Pan fyddwn ni’n teimlo’n ddigalon oherwydd ein camgymeriadau, rydyn ni’n cael rhyddhad o wybod bod aberth pridwerthol Iesu “yn ein glanhau ni o bob pechod.” (1 Ioan 1:7) Ac os ydyn ni’n parhau i deimlo’n euog, cawn ni gysur o ddarllen bod “Duw uwchlaw ein cydwybod ni.” (1 Ioan 3:20) Ioan ydy’r unig ysgrifennwr yn y Beibl i ddweud mai “cariad ydy Duw.” (1 Ioan 4:8, 16) Mae ei ail a’i drydydd llythyr yn canmol Cristnogion sy’n “ffyddlon i’r gwir.”—2 Ioan 4; 3 Ioan 3, 4.

16, 17. Sut anogodd yr apostol Paul y Cristnogion cynnar?

16 Roedd yr apostol Paul yn esiampl wych o ran rhoi anogaeth i’w frodyr. Yn fuan ar ôl marwolaeth Iesu, arhosodd y rhan fwyaf o’r apostolion yn Jerwsalem, sef lleoliad y corff llywodraethol. (Actau 8:14; 15:2) Roedd y Cristnogion yn Jwdea yn pregethu am Grist i bobl a oedd eisoes yn credu mewn un Duw. Ond, cafodd Paul ei anfon gan yr ysbryd glân i fynd i bregethu i’r Groegiaid, i’r Rhufeiniaid, ac i eraill a oedd yn addoli llawer o dduwiau.—Galatiaid 2:7-9; 1 Timotheus 2:7.

17 Teithiodd Paul yn yr ardal sydd  erbyn hyn yn cael ei galw’n Twrci, yn ogystal â Gwlad Groeg a’r Eidal. Pregethodd i’r rhai a oedd yn byw yn y llefydd hynny, rhai nad oedden nhw’n Iddewon, a ffurfio cynulleidfaoedd Cristnogol. Doedd bywyd ddim yn hawdd i’r Cristnogion newydd. Cawson nhw eu herlid gan eu pobl eu hunain, felly roedd angen anogaeth arnyn nhw. (1 Thesaloniaid 2:14) Ar ôl y flwyddyn 50, ysgrifennodd Paul lythyr calonogol i’r gynulleidfa newydd yn Thesalonica. Dywedodd: “Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw amdanoch chi i gyd, ac yn gweddïo drosoch chi’n gyson. Bob tro dŷn ni’n sôn amdanoch chi wrth ein Duw a’n Tad, dŷn ni’n cofio am y cwbl dych chi’n ei wneud am eich bod chi’n credu; am y gwaith caled sy’n deillio o’ch cariad chi, a’ch gallu i ddal ati.” (1 Thesaloniaid 1:2, 3) Hefyd, gofynnodd Paul iddyn nhw gryfhau ei gilydd trwy ddweud: “Calonogwch eich gilydd, a daliwch ati i helpu’ch gilydd.”—1 Thesaloniaid 5:11.

MAE’R CORFF LLYWODRAETHOL YN EIN HANNOG

18. Sut gwnaeth y corff llywodraethol yn y ganrif gyntaf annog Philip?

18 Yn y ganrif gyntaf, roedd Jehofa yn defnyddio’r corff llywodraethol i annog pob Cristion, gan gynnwys y rhai a oedd yn arwain y ffordd yn y cynulleidfaoedd. Pan wnaeth Philip bregethu i’r Samariaid, gwnaeth y corff llywodraethol ei gefnogi. Anfonon nhw ddau aelod o’r corff, Pedr ac Ioan, i weddïo am i’r Cristnogion dderbyn yr ysbryd glân. (Actau 8:5, 14-17) Cafodd Philip, ynghyd â’r brodyr a’r chwiorydd newydd hynny, eu hannog yn fawr iawn oherwydd cefnogaeth y corff llywodraethol!

19. Sut roedd y Cristnogion cynnar yn teimlo ar ôl darllen llythyr y corff llywodraethol?

19 Yn ddiweddarach, roedd yn rhaid i’r corff llywodraethol wneud penderfyniad pwysig. A oedd rhaid i Gristnogion nad oedden nhw’n Iddewon ddilyn Cyfraith Moses a chael eu henwaedu fel roedd yr Iddewon? (Actau 15:1, 2) Ar ôl i’r corff llywodraethol weddïo am yr ysbryd glân a rhesymu ar yr Ysgrythurau, gwnaethon nhw benderfynu nad oedd hynny’n angenrheidiol mwyach. Yna, ysgrifennon nhw lythyr yn egluro eu penderfyniad ac anfon brodyr i fynd â’r llythyr hwnnw i’r cynulleidfaoedd. Pan wnaeth y Cristnogion ddarllen y llythyr, roedden nhw’n “hapus iawn ac wedi’u calonogi’n fawr.”—Actau 15:27-32.

20. (a) Sut mae’r Corff Llywodraethol yn ein hannog ni i gyd heddiw? (b) Pa gwestiwn y byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

20 Heddiw, mae Corff Llywodraethol Tystion Jehofa yn annog aelodau Bethel, gweision llawn amser arbennig yn y maes, a phob un ohonon ni. Fel y brodyr yn y ganrif gyntaf, rydyn ni’n hapus iawn i dderbyn yr anogaeth honno! Hefyd, darparodd y corff llywodraethol y llyfryn Return to Jehovah yn 2015 i annog y rhai sydd wedi gadael y gwirionedd i ddod yn ôl. Ond ai brodyr sydd wedi eu penodi i arwain y ffordd yw’r unig rai a ddylai annog eraill, neu a ddylai pob un ohonon ni wneud hynny? Byddwn ni’n trafod y cwestiwn hwnnw yn yr erthygl nesaf.