“Os ydy’r Mab yn eich rhyddhau chi byddwch yn rhydd go iawn.”—IOAN 8:36.

CANEUON: 54, 36

1, 2. (a) Beth mae pobl yn ei wneud er mwyn cael rhyddid? (b) Beth yw’r canlyniadau?

HEDDIW, mae pobl mewn llawer o lefydd ar draws y byd yn siarad am hawliau cyfartal a rhyddid. Mae rhai eisiau bod yn rhydd o annhegwch, rhagfarn, a thlodi. Mae eraill yn mynnu cael y rhyddid i ddweud beth maen nhw eisiau ei ddweud, i ddewis beth maen nhw eisiau ei ddewis, ac i fyw eu bywydau fel y maen nhw eisiau. Mae pobl ym mhobman eisiau bod yn rhydd.

2 Er mwyn cael rhyddid, mae pobl yn trefnu protestiadau neu chwyldroadau hyd yn oed. Ond, a ydyn nhw’n cael yr hyn roedden nhw eisiau? Nac ydyn. Fel arfer, y canlyniad ydy mwy o ddioddefaint a hyd yn oed marwolaeth. Mae geiriau’r Brenin Solomon yn Pregethwr 8:9 yn wir, sef bod pobl yn gwneud niwed i’w gilydd.

3. Beth allwn ni ei wneud i gael gwir hapusrwydd a boddhad?

3 Mae’r Beibl yn dweud wrthyn ni beth sydd angen inni ei wneud i gael gwir hapusrwydd a boddhad. Dywedodd y disgybl Iago: “Ond mae’r un sy’n dal ati i edrych yn fanwl ar ddysgeidiaeth berffaith y Duw sy’n ein gollwng ni’n rhydd yn wahanol . . . A bydd Duw yn bendithio popeth mae’n ei  wneud!” (Iago 1:25) Mae’r ddysgeidiaeth berffaith yn dod oddi wrth Jehofa sy’n gwybod yn union beth sydd ei angen arnon ni i fod yn hollol hapus a bodlon. Rhoddodd Jehofa ryddid go iawn i Adda ac Efa a phob dim arall yr oedd ei angen arnyn nhw i fod yn hapus.

PAN OEDD GAN BOBL WIR RYDDID

4. Pa ryddid oedd gan Adda ac Efa? (Gweler y llun agoriadol.)

4 Wrth inni ddarllen Genesis penodau 1 a 2, rydyn ni’n dysgu bod gan Adda ac Efa y math o ryddid gallwn ni ddim ond ei ddychmygu heddiw. Roedd ganddyn nhw bopeth yr oedd ei angen arnyn nhw, doedden nhw ddim yn ofni unrhyw beth, a doedd neb yn eu trin yn annheg. Doedden nhw ddim yn poeni am fwyd, gwaith, salwch, na marwolaeth. (Genesis 1:27-29; 2:8, 9, 15) Ond, ai rhyddid heb derfynau oedd ganddyn nhw? Gad inni weld.

5. Beth sydd ei angen ar bobl er mwyn bod yn rhydd?

5 Mae llawer o bobl yn meddwl bod cael gwir ryddid yn golygu eu bod nhw’n gallu gwneud beth bynnag maen nhw eisiau heb orfod poeni am y canlyniadau. Mae’r World Book Encyclopedia yn dweud: “Rhyddid yw’r gallu i wneud dewisiadau ac i gyflawni’r dewisiadau hynny.” Ond, mae hefyd yn dweud bod pobl yn rhydd os nad ydy’r llywodraeth yn cyfyngu arnyn nhw mewn ffordd sy’n annheg, yn ddiangen, neu’n afresymol. Mae hyn yn golygu bod angen rhywfaint o gyfyngiadau er mwyn i bawb gael rhyddid. Ond, pwy sydd â’r hawl i benderfynu a ydy’r cyfyngiadau hyn yn deg, yn angenrheidiol, ac yn rhesymol?

6. (a) Pam mai Jehofa yw’r unig un sydd â rhyddid llwyr? (b) Pa fath o ryddid y gall bodau dynol ei gael, a pham?

6 Pwysig yw cofio mai dim ond Jehofa Dduw sydd â rhyddid llwyr, heb gyfyngiadau. Pam? Oherwydd ef sydd wedi creu pob dim ac ef ydy rheolwr hollalluog y bydysawd. (1 Timotheus 1:17; Datguddiad 4:11) Defnyddiodd y Brenin Dafydd eiriau hyfryd i ddisgrifio Jehofa. (Darllen 1 Cronicl 29:11, 12.) Ar y llaw arall, mae ’na gyfyngiadau ar ryddid pob creadur yn y nefoedd ac ar y ddaear. Rhyddid cymharol sydd gennyn ni. Mae Jehofa Dduw eisiau inni ddeall mai ef yn unig sydd â’r hawl i ddewis pa gyfyngiadau sy’n deg, yn angenrheidiol, ac yn rhesymol. Ers y cychwyn, mae Jehofa wedi gosod cyfyngiadau ar gyfer ei greadigaeth.

7. Pa bethau sy’n rhaid inni eu gwneud er mwyn bod yn hapus?

7 Er bod gan Adda ac Efa lawer o ryddid, roedd terfynau ar eu rhyddid. Roedd rhai o’r terfynau hynny yn teimlo’n hollol naturiol iddyn nhw. Er enghraifft, er mwyn byw, roedd yn rhaid iddyn nhw anadlu, bwyta, a chysgu. A oedd hynny’n golygu doedden nhw ddim yn rhydd? Nac oedd. Yn wir, sicrhaodd Jehofa y byddai’r pethau hynny yn gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus ac yn fodlon. (Salm 104:14, 15; Pregethwr 3:12, 13) Rydyn ni i gyd yn mwynhau anadlu awyr iach, bwyta ein hoff fwydydd, a chael noson dda o gwsg. Dydy gwneud y pethau hyn ddim yn gwneud inni deimlo’n gyfyngedig. Mae’n rhaid bod Adda ac Efa wedi teimlo’r un fath.

8. Pa orchymyn penodol a roddodd Duw i Adda ac Efa, a pham?

 8 Rhoddodd Jehofa orchymyn penodol i Adda ac Efa. Dywedodd wrthyn nhw am gael plant, llenwi’r ddaear, a gofalu amdani. (Genesis 1:28) A wnaeth y gorchymyn hwnnw ddwyn eu rhyddid? Ddim o gwbl! Rhoddodd gyfle iddyn nhw droi’r holl ddaear yn baradwys, a’i gwneud yn gartref lle y gallen nhw fyw am byth gyda’u plant perffaith. Dyna oedd bwriad Jehofa. (Eseia 45:18) Heddiw, dydy pobl ddim yn anufuddhau i Dduw os ydyn nhw’n dewis peidio â phriodi a chael plant. Ond eto, mae pobl yn dewis priodi a chael plant er bod hynny’n achosi rhywfaint o straen. (1 Corinthiaid 7:36-38) Pam? Oherwydd eu bod nhw’n disgwyl dod o hyd i hapusrwydd a bodlonrwydd. (Salm 127:3) Petai Adda ac Efa wedi bod yn ufudd i Jehofa, byddan nhw wedi gallu mwynhau eu priodas a’u teulu am byth.

SUT CAFODD GWIR RYDDID EI GOLLI?

9. Pam nad oedd gorchymyn Duw yn Genesis 2:17 yn annheg, yn ddiangen, nac yn afresymol?

9 Rhoddodd Jehofa orchymyn arall i Adda ac Efa gan ddweud yn union beth fyddai’n digwydd petasen nhw’n anufudd. Dywedodd: “Ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth—da a drwg. Pan wnei di hynny byddi’n siŵr o farw.” (Genesis 2:17) A oedd y gorchymyn hwnnw’n annheg, yn ddiangen, neu’n afresymol? A oedd yn dwyn rhyddid Adda ac Efa? Ddim o gwbl. Yn wir, mae llawer o ysgolheigion Beiblaidd yn meddwl bod gorchymyn Duw yn ddoeth iawn ac yn gwneud synnwyr. Yn ôl un ohonyn nhw, mae’n ein dysgu “mai Duw ydy’r unig un sy’n gwybod beth sy’n dda . . . i ddynolryw a Duw yn unig sy’n gwybod beth sydd ddim yn dda . . . iddyn nhw. Er mwyn mwynhau beth sy’n dda, mae’n rhaid i ddynolryw ymddiried yn Nuw ac ufuddhau iddo. Os byddan nhw’n anufuddhau, byddan nhw’n gorfod penderfynu beth sy’n dda . . . a beth sy’n ddrwg.” Mae hynny’n rhy anodd i fodau dynol ei wneud ar eu pennau eu hunain.

Gwnaeth dewis Adda ac Efa arwain at drychineb! (Gweler paragraffau 9-12)

10. Pam dydy ewyllys rhydd ddim yr un fath â’r hawl i benderfynu beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg?

Jehofa yn unig sydd â’r hawl i benderfynu beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg

10 Efallai fod rhai yn meddwl na wnaeth Jehofa roi’r rhyddid i Adda i wneud beth roedd ef eisiau. Ond, dydyn nhw ddim yn sylweddoli bod ewyllys rhydd, neu’r hawl i ddewis beth i’w wneud, yn wahanol i’r hawl i benderfynu beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. Roedd gan Adda ac Efa y rhyddid i ddewis ufuddhau i Dduw neu beidio. Ond, Jehofa yn unig sydd â’r hawl i benderfynu beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. Roedd coeden gwybodaeth da a drwg yn dystiolaeth o’r ffaith honno i Adda ac Efa. (Genesis 2:9) Dydyn ni ddim bob amser yn gwybod beth fydd canlyniadau ein penderfyniadau a dydyn ni ddim yn gallu gwybod a fydd y canlyniadau hynny’n rhai da.  Dyna pam rydyn ni’n gweld pobl yn gwneud penderfyniadau â bwriadau da, ond canlyniadau’r dewisiadau hynny ydy dioddefaint a thrychinebau. (Diarhebion 14:12) Yn wir, mae ’na derfyn ar yr hyn y gall pobl ei wneud. Drwy orchymyn i Adda ac Efa beidio â bwyta o’r goeden, roedd Jehofa yn eu dysgu bod rhaid iddyn nhw ufuddhau iddo er mwyn cael gwir ryddid. Beth benderfynodd Adda ac Efa ei wneud?

11, 12. Pam gwnaeth penderfyniad Adda ac Efa arwain at drychineb? Rho esiampl.

11 Yn anffodus, dewisodd Adda ac Efa anufuddhau i Jehofa. Penderfynodd Efa wrando ar Satan, pan addawodd yntau: “Mae Duw yn gwybod y byddwch chi’n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta ohoni. Byddwch chi’n gwybod am bopeth—da a drwg—fel Duw ei hun.” (Genesis 3:5) A wnaeth penderfyniad Adda ac Efa arwain at fwy o ryddid, fel roedd Satan wedi ei ddweud? Naddo. Mewn gwirionedd, dysgon nhw fod gwrthod arweiniad Jehofa yn arwain at drychineb. (Genesis 3:16-19) Pam? Oherwydd dydy Jehofa ddim wedi rhoi’r hawl i fodau dynol i ddewis drostyn nhw eu hunain beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg.—Darllen Diarhebion 20:24; Jeremeia 10:23.

12 Mae hyn yn debyg i beilot yn hedfan awyren. Er mwyn cyrraedd pen y daith yn ddiogel, mae’n dilyn llwybr sydd wedi ei gymeradwyo, trwy ddefnyddio offer mordwyo’r awyren a thrwy gyfathrebu â rheolwyr trafnidiaeth awyr. Ond, os ydy’r peilot yn anwybyddu cyfarwyddyd ac yn hedfan le bynnag y mae eisiau, gallai achosi trychineb. Yn debyg i’r peilot hwnnw, roedd Adda ac Efa eisiau gwneud pethau eu ffordd  eu hunain. Anwybyddon nhw arweiniad Duw. Beth oedd y canlyniad? Trychineb! Gwnaeth eu penderfyniad arwain at bechod a marwolaeth iddyn nhw a phob un o’u disgynyddion. (Rhufeiniaid 5:12) Ni chafodd Adda ac Efa fwy o ryddid drwy geisio penderfynu drostyn nhw eu hunain beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. Yn hytrach, collon nhw’r gwir ryddid roedd Jehofa wedi ei roi iddyn nhw.

SUT I GAEL GWIR RYDDID

13, 14. Sut gallwn ni gael gwir ryddid?

13 Mae rhai pobl yn meddwl mai rhyddid llwyr fyddai orau. Ond, ydy hynny’n wir? Er bod rhyddid yn dod â llawer o fuddion, a elli di ddychmygu byd heb unrhyw gyfyngiadau o gwbl? Mae’r World Book Encyclopedia yn dweud bod deddfau pob cymdeithas drefnus yn gymhleth oherwydd bod rhaid iddyn nhw amddiffyn rhyddid pobl a’i gyfyngu yr un pryd. Dydy hyn ddim bob amser yn hawdd. Am y rheswm hwn, rydyn ni’n gweld cymaint o gyfreithwyr a barnwyr yn ceisio esbonio a chymhwyso’r deddfau hynny.

14 Gwnaeth Iesu esbonio sut y gallwn ni gael gwir ryddid. Dywedodd: “Os daliwch afael yn yr hyn dw i wedi ei ddangos i chi, dych chi’n ddilynwyr go iawn i mi. Byddwch yn dod i wybod beth sy’n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw’n rhoi rhyddid i chi.” (Ioan 8:31, 32) Felly, er mwyn cael gwir ryddid, mae’n rhaid inni wneud dau beth. Yn gyntaf, mae’n rhaid inni dderbyn y gwirionedd roedd Iesu’n ei ddysgu. Yn ail, mae’n rhaid inni ddod yn ddisgyblion iddo. Bydd gwneud y pethau hyn yn rhoi gwir ryddid inni. Ond, rhyddid o beth? Dywedodd Iesu:  “Mae pawb sy’n pechu wedi ei gaethiwo gan bechod.” Ychwanegodd: “Felly os ydy’r Mab yn eich rhyddhau chi byddwch yn rhydd go iawn.”—Ioan 8:34, 36.

15. Pam mae’r rhyddid y gwnaeth Iesu ei addo inni yn gallu ein gwneud ni’n “rhydd go iawn”?

15 Mae’r rhyddid y gwnaeth Iesu ei addo i’w ddisgyblion yn llawer gwell na’r rhyddid y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei geisio heddiw. Pan ddywedodd Iesu, “os ydy’r Mab yn eich rhyddhau chi byddwch yn rhydd go iawn,” roedd yn sôn am ryddid rhag bod yn gaethweision i bechod, y math gwaethaf o gaethiwed y mae dynolryw wedi ei brofi erioed. Ym mha ffordd rydyn ni’n gaethweision i bechod? Mae pechod yn achosi inni wneud pethau drwg. Mae hefyd yn gallu ein rhwystro rhag gwneud yr hyn rydyn ni’n ei wybod sy’n iawn, neu rhag gwneud ein gorau. Y canlyniad ydy rhwystredigaeth, poen, dioddefaint, ac yn y pen draw, marwolaeth. (Rhufeiniaid 6:23) Roedd yr apostol Paul yn gwybod yn iawn am y poen sy’n dod o fod yn gaethwas i bechod. (Darllen Rhufeiniaid 7:21-25.) Dim ond ar ôl i bechod gael ei ddileu y cawn ni’r gwir ryddid a oedd gan Adda ac Efa ar un adeg.

16. Sut gallwn ni fod yn rhydd go iawn?

16 Mae geiriau Iesu, “os daliwch afael yn yr hyn dw i wedi ei ddangos i chi,” yn dangos bod rhaid inni wneud pethau penodol er mwyn i Iesu ein rhyddhau. Pa bethau? Fel Cristnogion sydd wedi ymgysegru, rydyn ni wedi stopio ein rhoi ein hunain yn gyntaf ac wedi dewis derbyn y cyfyngiadau a osododd Iesu ar gyfer ei ddisgyblion. (Mathew 16:24) Yn union fel y gwnaeth Iesu ei addo, byddwn ni’n rhydd go iawn yn y dyfodol, pan fyddwn yn derbyn holl fuddion yr aberth pridwerthol.

17. (a) Sut gallwn ni gael gwir hapusrwydd a bodlonrwydd? (b) Beth fyddwn ni’n ei ddysgu yn yr erthygl nesaf?

17 Er mwyn cael hapusrwydd a bodlonrwydd go iawn, mae’n rhaid inni ufuddhau i ddysgeidiaethau Iesu fel ei ddisgyblion. Os gwnawn ni hyn, gallwn fod yn hollol rydd rhag bod yn gaethweision i bechod a marwolaeth yn y dyfodol. (Darllen Rhufeiniaid 8:1, 2, 20, 21.) Yn yr erthygl nesaf, byddwn yn dysgu sut i ddefnyddio’r rhyddid sydd gennyn ni ar hyn o bryd mewn ffordd ddoeth. Wedyn, byddwn ni’n gallu anrhydeddu Jehofa, y Duw sy’n rhoi rhyddid, am byth.