Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

Wyt Ti’n Cytuno â Jehofa Ynglŷn â Chyfiawnder?

Wyt Ti’n Cytuno â Jehofa Ynglŷn â Chyfiawnder?

“Dwedwch mor fawr yw ein Duw! Mae e fel craig . . . , yn Dduw ffyddlon sydd byth yn anghyfiawn.”—DEUT. 32:3, 4.

CANEUON: 110, 2

1, 2. (a) Pa anghyfiawnder a ddioddefodd Naboth a’i feibion? (b) Pa ddwy rinwedd y byddwn ni’n eu hystyried yn yr erthygl hon?

DYCHMYGA’R olygfa. Mae dyn yn cael ei gyhuddo o drosedd sy’n haeddu’r gosb eithaf. Er mawr tristwch i’w deulu a’i ffrindiau, fe’i dyfarnwyd yn euog ar sail gau dystiolaeth dynion da i ddim. Roedd gorfod gwylio’r dyn dieuog hwnnw a’i feibion yn cael eu dienyddio yn troi stumog y rhai a oedd yn caru cyfiawnder. Nid stori yw hon ond hanes go iawn. Dyna ddigwyddodd i was ffyddlon Jehofa o’r enw Naboth, a oedd yn byw yn ystod teyrnasiad y Brenin Ahab o Israel.—1 Bren. 21:11-13; 2 Bren. 9:26.

2 Yn yr erthygl hon, ystyriwn nid yn unig brofiad Naboth ond hefyd brofiad henuriad ffyddlon o’r ganrif gyntaf a wnaeth gamgymeriad. Wrth edrych ar yr esiamplau hyn, byddwn ni’n dysgu am ba mor bwysig yw gostyngeiddrwydd er mwyn dangos ein bod ni’n cytuno â Jehofa ynglŷn â chyfiawnder. Byddwn ni hefyd yn dysgu sut mae bod yn barod i faddau yn wyneb anghyfiawnder yn gallu adlewyrchu cyfiawnder Jehofa.

 GWYRDROI CYFIAWNDER

3, 4. Pa fath o ddyn oedd Naboth, a pham y gwrthododd werthu ei winllan i’r Brenin Ahab?

3 Roedd Naboth yn ffyddlon i Jehofa ar adeg pan oedd y rhan fwyaf o Is raeliaid yn dilyn esiampl ddrwg y Brenin Ahab a’i wraig, y Frenhines Jesebel. Doedd yr addolwyr Baal hynny ddim yn parchu Jehofa na’i safonau. Ar y llaw arall, roedd perthynas Naboth â Jehofa yn bwysicach iddo na bywyd ei hun.

4 Darllen 1 Brenhinoedd 21:1-3. Pan gynigiodd Ahab brynu gwinllan Naboth neu roi gwinllan well yn ei lle, gwrthododd Naboth. Pam? Eglurodd: “Mae’r tir wedi perthyn i’r teulu ers cenedlaethau; allwn i byth ei rhoi hi i ti.” Gwrthododd Naboth ar sail Cyfraith Moses, a oedd yn gwahardd yr Israeliaid rhag gwerthu’n barhaol y tir roedd pob llwyth wedi ei etifeddu. (Lef. 25:23; Num. 36:7) Yn amlwg, roedd Naboth yn edrych ar y sefyllfa o safbwynt Jehofa.

5. Pa ran a chwaraeodd Jesebel yn llofruddiaeth Naboth?

5 Yn anffodus, rhoddodd penderfyniad Naboth gychwyn ar gyfres o weithredoedd cywilyddus yn achos Ahab a’i wraig. Er mwyn cael y winllan ar gyfer ei gŵr, gwnaeth Jesebel daro ar y syniad o gyhuddo Naboth ac, o ganlyniad, cafodd ei labyddio i farwolaeth. Hefyd, dienyddiwyd meibion Naboth. Sut byddai Jehofa yn delio gyda’r anghyfiawnder hwn?

CYFIAWNDER PERFFAITH DUW

6, 7. Sut dangosodd Jehofa ei fod yn caru cyfiawnder, a pham y byddai hyn yn cysuro perthnasau a ffrindiau Naboth?

6 Heb oedi, gofynnodd Jehofa i Elias fynd i weld Ahab. Cafodd Ahab ei farnu gan Elias yn llofrudd ac yn lleidr. Beth oedd dyfarniad Jehofa? Byddai Ahab, ei wraig, a’i feibion yn dioddef yr un dynged â Naboth a’i feibion.—1 Bren. 21:17-25.

7 Er bod teulu a ffrindiau Naboth yn drist oherwydd gweithredoedd gwaedlyd Ahab, bydden nhw, yn ôl pob tebyg, wedi cael rywfaint o gysur o wybod bod Jehofa yn ymwybodol o’r anghyfiawnder a’i fod wedi gweithredu’n gyflym i unioni’r cam. Fodd bynnag, mae’n debyg y bydd y digwyddiadau annisgwyl hyn wedi rhoi prawf ar eu gostyngeiddrwydd a’u parodrwydd i ymddiried yn Jehofa.

8. Sut gwnaeth Ahab ymateb i farn Jehofa, a beth oedd y canlyniad?

8 Pan glywodd Ahab am farn Jehofa, “dyma fe’n rhwygo ei ddillad a gwisgo sachliain, a mynd heb fwyd. Roedd yn cysgu mewn sachliain ac yn cerdded o gwmpas yn isel ei ysbryd.” Syrthiodd Ahab ar ei fai! Y canlyniad? Dywedodd Jehofa wrth Elias: “Am ei fod yn edifar, wna i ddim dod â’r drwg yn ystod ei fywyd e. Bydda i’n dinistrio ei linach pan fydd ei fab yn frenin.” (1 Bren. 21:27-29; 2 Bren. 10:10, 11, 17) Gwnaeth y Duw “sy’n profi’r galon” estyn trugaredd i Ahab.—Diar. 17:3.

MAE GOSTYNGEIDDRWYDD YN AMDDIFFYN

9. Pam y byddai gostyngeiddrwydd wedi amddiffyn teulu a ffrindiau Naboth?

9 Sut effeithiodd y penderfyniad hwn ar y rhai a oedd yn gwybod am drosedd ofnadwy Ahab? Efallai, byddai’r newid barn hwn wedi rhoi prawf ar ffydd teulu a ffrindiau Naboth. Os felly, byddai gostyngeiddrwydd wedi eu hysgogi i aros yn ffyddlon, gan wybod nad ydy Duw’n gallu bod yn anghyfiawn. (Darllen Deuteronomium 32:3, 4.) Bydd Naboth, ei feibion, a’u teuluoedd  yn profi cyfiawnder perffaith pan fydd Jehofa yn atgyfodi’r rhai cyfiawn. (Job 14:14, 15; Ioan 5:28, 29) Ar ben hynny, mae’r gostyngedig yn cofio y “bydd Duw yn galw pawb i gyfrif am bopeth wnaethon nhw—hyd yn oed beth oedd o’r golwg—y da a’r drwg.” (Preg. 12:14) Yn wir, bydd Jehofa’n dyfarnu drwy ystyried ffactorau sy’n ddiarth inni. Felly, mae gostyngeiddrwydd yn amddiffyn y diniwed rhag trychineb ysbrydol.

10, 11. (a) O dan ba amgylchiadau y gall ein ffydd gael ei rhoi dan brawf? (b) Ym mha ffyrdd y bydd gostyngeiddrwydd yn ein hamddiffyn ni?

10 Sut byddi di’n ymateb os bydd yr henuriaid yn gwneud penderfyniad nad wyt ti’n ei ddeall nac yn cytuno ag ef? Er enghraifft, beth byddi di’n ei wneud petaet tithau neu rywun sy’n annwyl iti yn colli braint arbennig? Beth petai dy gymar priodasol, dy fab neu dy ferch, neu ffrind agos yn cael ei ddiarddel a dwyt ti ddim yn cytuno â’r penderfyniad? Beth os wyt ti’n credu bod trugaredd wedi ei ddangos i rywun drwy gamgymeriad? Gall sefyllfaoedd o’r fath roi ar brawf ein ffydd yn Jehofa ac yn ei gyfundrefn. Sut bydd gostyngeiddrwydd yn dy amddiffyn mewn achosion fel hyn? Ystyria ddwy ffordd.

Sut byddi di’n ymateb os bydd yr henuriaid yn cyhoeddi penderfyniad nad wyt ti’n cytuno ag ef? (Gweler paragraffau 10, 11)

11 Yn gyntaf, bydd gostyngeiddrwydd  yn ein hysgogi i gydnabod nad yw’r ffeithiau i gyd gennyn ni. Ni waeth pa mor dda rwyt ti’n deall y sefyllfa, dim ond Jehofa sy’n gallu darllen y galon ffigurol. (1 Sam. 16:7) Bydd cydnabod y ffaith hon yn ein symud i fod yn ostyngedig, i dderbyn bod terfynau ar ein galluoedd, ac i gywiro ein hagwedd. Yn ail, bydd gostyngeiddrwydd yn ein helpu i fod yn ymostyngar ac yn amyneddgar wrth inni ddisgwyl ar Jehofa i gywiro unrhyw wir anghyfiawnder. Dywedodd y dyn doeth: “bydd hi’n well ar y rhai sy’n parchu Duw yn y pen draw . . . Fydd hi ddim yn dda ar y rhai sy’n gwneud pethau drwg, oherwydd, fel cysgod, fyddan nhw ddim yn aros yn hir.” (Preg. 8:12, 13) Heb os, ymateb yn ostyngedig yw’r ffordd orau o amddiffyn ysbrydolrwydd pawb.—Darllen 1 Pedr 5:5.

ACHOS O RAGRITH

12. Pa hanes fydd yn cael ein sylw nawr, a pham?

12 Roedd Cristnogion y ganrif gyntaf yn Antiochia yn Syria yn wynebu sefyllfa a roddodd ar brawf nid yn unig eu gostyngeiddrwydd ond eu parodrwydd i faddau. Gad inni ystyried yr hanes er mwyn inni feddwl o ddifrif am ein hagwedd tuag at faddau ac i ddeall yn well y cysylltiad rhwng maddeuant â chyfiawnder Jehofa.

13, 14. Pa freintiau oedd gan Pedr, a sut dangosodd ddewrder?

13 Roedd yr apostol Pedr yn henuriad adnabyddus yn y gynulleidfa Gristnogol. Roedd yn adnabod Iesu ac wedi derbyn breintiau pwysig. (Math. 16:19) Er enghraifft, yn 36 OG, braint Pedr oedd rhannu’r newyddion da â Cornelius a’i deulu. Achlysur arwyddocaol oedd hwn gan fod Cornelius yn Genedl-ddyn heb ei enwaedu. Pan dderbyniodd Cornelius a’i deulu’r ysbryd glân, gwnaeth Pedr gydnabod: “Oes unrhyw un yn gallu gwrthwynebu bedyddio’r bobl yma â dŵr? Maen nhw wedi derbyn yr Ysbryd Glân yn union yr un fath â ni!”—Act. 10:47.

14 Yn 49 OG, daeth yr apostolion a’r henuriaid yn Jerwsalem at ei gilydd i ystyried a ddylai enwaedu fod yn angenrheidiol ar gyfer pobl o’r Cenhedloedd a oedd yn dymuno bod yn Gristnogion. Yn y cyfarfod, siaradodd Pedr yn eofn, gan atgoffa’r brodyr fod Cenedl-ddynion dienwaededig wedi derbyn y rhodd o’r ysbryd glân rai blynyddoedd ynghynt. Roedd tystiolaeth Pedr ac yntau’n llygad-dyst wedi helpu’r corff llywodraethol yn y ganrif gyntaf i wneud penderfyniad. (Act. 15:6-11, 13, 14, 28, 29) Byddai’r Cristnogion a oedd yn Iddewon, a’r rhai nad oedden nhw, wedi gwerthfawrogi dewrder Pedr wrth iddo gyflwyno’r ffeithiau. Hawdd, felly, oedd rhoi hyder yn y dyn aeddfed ac ysbrydol hwn!—Heb. 13:7.

15. Pa gamgymeriad a wnaeth Pedr tra oedd yn Antiochia yn Syria? (Gweler y llun agoriadol.)

15 Yn fuan ar ôl y cyfarfod yn 49 OG, aeth Pedr i Antiochia yn Syria. Tra oedd yno, roedd yn cymdeithasu’n agored â’i frodyr o’r Cenhedloedd. Heb os, roedden nhw’n elwa ar wybodaeth a phrofiad Pedr. Gallwn ni ddychmygu eu syndod a’u siom pan stopiodd Pedr fwyta gyda nhw yn fwyaf sydyn. Roedd agwedd anghywir Pedr wedi dylanwadu ar aelodau Iddewig eraill y gynulleidfa, gan gynnwys Barnabas. Beth achosodd i henuriad aeddfed Cristnogol wneud camgymeriad mor ddifrifol—un a fyddai wedi gallu rhannu’r gynulleidfa? Yn bwysicach byth, beth gallwn ni ei  ddysgu o gamgymeriad Pedr a fydd yn ein helpu petaen ni’n cael ein brifo gan eiriau neu weithredoedd henuriad?

16. Sut cafodd Pedr ei gywiro, a pha gwestiynau sy’n codi?

16 Darllen Galatiaid 2:11-14. Ildiodd Pedr i’r perygl o ofni dyn. (Diar. 29:25) Er iddo wybod yn iawn beth oedd safbwynt Jehofa ar y mater, roedd Pedr yn ofni barn y rhai yn y gynulleidfa yn Jerwsalem a oedd yn Iddewon enwaededig. Gwnaeth yr apostol Paul, a oedd hefyd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw yn Jerwsalem yn 49 OG, fynd at Pedr yn Antiochia a datgelu’r gwir am ei ragrith. (Act. 15:12; Gal. 2:13) Sut byddai’r Cristnogion nad oedden nhw’n Iddewon yn ymateb i gamgymeriad Pedr? A fydden nhw’n gadael i’r sefyllfa eu baglu? A fyddai Pedr yn colli breintiau pwysig oherwydd ei gamgymeriad?

BYDDA’N FADDEUGAR

17. Sut gwnaeth Pedr elwa ar faddeuant Jehofa?

17 Roedd hi’n amlwg fod Pedr wedi bod yn ostyngedig wrth dderbyn cyngor Paul. Does dim sôn yn yr Ysgrythurau iddo golli ei freintiau. Yn wir, fe’i hysbrydolwyd i ysgrifennu dau lythyr a ddaeth yn rhan o’r Beibl. Yn arwyddocaol iawn, mae Pedr, yn ei ail lythyr, yn disgrifio Paul fel “ein brawd annwyl.” (2 Pedr 3:15) Er efallai roedd camgymeriad Pedr wedi brifo aelodau’r gynulleidfa a oedd yn Genedl-ddynion, gwnaeth Iesu, sy’n ben ar y gynulleidfa, barhau i’w ddefnyddio. (Eff. 1:22) Felly, roedd gan aelodau’r gynulleidfa gyfle i efelychu Iesu a’i Dad drwy fod yn faddeugar. Gobeithio nad oedd neb wedi cael ei faglu oherwydd camgymeriad un dyn amherffaith.

18. Pryd y dylen ni fyfyrio ar agwedd Jehofa tuag at gyfiawnder?

18 Fel yr oedd yn wir yn y ganrif gyntaf, does dim henuriaid perffaith yn y gynulleidfa heddiw oherwydd “dŷn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau.” (Iago 3:2) Er ein bod ni’n barod i gydnabod y ffaith hon, pan fydd amherffeithrwydd brawd arall yn effeithio arnon ni’n bersonol, gall hynny fod yn her. Mewn sefyllfa o’r fath, a fyddwn ni’n adlewyrchu safbwynt Jehofa o ran cyfiawnder? Er enghraifft, sut byddi di’n ymateb petai henuriad yn dweud rhywbeth sy’n awgrymu elfen o ragfarn? A fyddi di’n cael dy faglu petai henuriad yn dweud rhywbeth heb feddwl sy’n dy bechu di neu’n dy frifo di? Yn hytrach na dweud nad yw’r brawd yn gymwys mwyach i fod yn henuriad, a fyddi di’n barod i ddisgwyl yn amyneddgar ar Iesu, pen y gynulleidfa? A wnei di ymdrechu i geisio gweld y darlun mawr, a myfyrio efallai ar y blynyddoedd lawer y mae’r brawd wedi bod yn gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon? Os yw brawd sydd wedi pechu yn dy erbyn yn parhau i wasanaethu fel henuriad neu hyd yn oed yn derbyn rhagor o freintiau, a fyddi di’n llawenhau gydag ef? Bydd dy barodrwydd i faddau yn adlewyrchu agwedd Jehofa tuag at gyfiawnder.—Darllen Mathew 6:14, 15.

19. O beth dylen ni fod yn benderfynol?

19 Mae’r rhai sy’n caru cyfiawnder yn edrych ymlaen at y dydd pan fydd Jehofa yn dileu pob anghyfiawnder y mae pobl wedi ei ddioddef oherwydd system ddrwg Satan. (Esei. 65:17) Yn y cyfamser, gad i bob un ohonon ni fod yn benderfynol o adlewyrchu cyfiawnder Jehofa drwy gydnabod yn ostyngedig ein diffygion a thrwy faddau’n hael i’r rhai sydd wedi pechu yn ein herbyn.