Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

“Gwna Beth Rwyt Ti Wedi Addo’ i Wneud”

“Gwna Beth Rwyt Ti Wedi Addo’ i Wneud”

“Rhaid cadw pob llw wyt ti wedi ei wneud i’r Arglwydd.”—MATH. 5:33.

CANEUON: 63, 59

1. (a) Beth oedd gan y Barnwr Jefftha a Hanna yn gyffredin? (Gweler y lluniau agoriadol.) (b) Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu hateb yn yr erthygl hon?

ARWEINYDD gwrol oedd ef; gwraig ufudd oedd hi. Rhyfelwr dewr oedd ef; gwraig ostyngedig yn hoff o ofalu am ei chartref oedd hi. Heblaw am addoli’r un Duw, beth oedd gan y Barnwr Jefftha a Hanna, gwraig Elcana, yn gyffredin? Roedd y ddau ohonyn nhw wedi gwneud llw i Dduw, a chadwodd y ddau at eu gair. Maen nhw’n esiamplau arbennig i ddynion a merched heddiw sy’n gwneud llwon i Jehofa. Ond, mae cwestiynau allweddol yn codi: Beth yw llw? Pa mor ddifrifol ydy gwneud llw i Dduw? Pa wersi gallwn ni eu dysgu oddi wrth Jefftha a Hanna?

2, 3. (a) Beth yw llw? (b) Beth mae’r Ysgrythurau’n ei ddweud am wneud llw i Dduw?

2 Yn y Beibl, addewid difrifol i Dduw yw llw. Mae unigolyn yn addo gweithredu neu wasanaethu mewn ffordd arbennig, rhoi anrheg, neu beidio â gwneud rhai pethau. Mae person yn dewis tyngu llw o’i wirfodd. Er hynny, addewidion cysegredig ydyn nhw y mae Duw yn disgwyl i ni eu cadw, hynny yw, datganiadau ar lw sy’n addo y bydd person yn gwneud rhywbeth penodol neu’n gwrthod ei wneud. (Gen. 14:22, 23; Heb.  6:16, 17) Beth mae’r Ysgrythurau’n ei ddweud am ddifrifoldeb gwneud llw i Dduw?

3 Dywed Cyfraith Moses: “Pan mae rhywun yn gwneud adduned i’r ARGLWYDD, neu’n tyngu llw, rhaid iddo gadw ei air a gwneud beth ddwedodd e.” (Num. 30:2) Yn nes ymlaen, ysbrydolwyd Solomon i ysgrifennu: “Pan wyt ti’n gwneud adduned i Dduw, paid oedi cyn ei chyflawni. Dydy Duw ddim yn cael ei blesio gan ffyliaid. Gwna beth rwyt ti wedi addo’ i wneud.” (Preg. 5:4) Pwysleisiodd Iesu pa mor ddifrifol yw gwneud llw pan ddywedodd: “Dych chi hefyd wedi clywed i hyn gael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid gwneud llw, ac wedyn ei dorri. Rhaid cadw pob llw wyt ti wedi ei wneud i’r Arglwydd.’”—Math. 5:33.

4. (a) Pa mor ddifrifol yw gwneud llw i Dduw? (b) Beth rydyn ni eisiau ei ddysgu am Jefftha a Hanna?

4 Mae’n eglur, felly, mai mater difrifol yw gwneud addewidion i Dduw. Mae ein hagwedd tuag at dyngu llw yn effeithio ar ein perthynas â Jehofa. Ysgrifennodd Dafydd: “Pwy sy’n cael dringo mynydd yr ARGLWYDD? Pwy sy’n cael sefyll yn ei deml sanctaidd?—Yr un sy’n gwneud beth sy’n iawn a’i gymhellion yn bur; yr un sydd ddim yn twyllo neu’n addo rhywbeth heb fwriadu ei gyflawni.” (Salm 24:3, 4) Beth oedd llwon Jefftha a Hanna, a pha mor hawdd iddyn nhw oedd cadw at eu gair?

CADWON NHW AT EU GAIR

5. Beth oedd llw Jefftha, a beth oedd y canlyniad?

5 Cadwodd Jefftha ei addewid i Jehofa pan aeth allan i ryfela yn erbyn yr Ammoniaid, a oedd wedi bod yn cam-drin pobl Dduw. (Barn. 10:7-9) Ac yntau’n awyddus i ennill buddugoliaeth, gwnaeth Jefftha’r llw hwn: “Os gwnei di adael i mi guro byddin yr Ammoniaid, gwna i roi i’r ARGLWYDD beth bynnag fydd gyntaf i ddod allan o’r tŷ i’m cwrdd i pan af i adre.” Beth oedd y canlyniad? Cafodd yr Ammoniaid eu trechu, a merch Jefftha oedd yr un a ddaeth allan i’w gyfarch wrth iddo ddychwelyd. Byddai hi yn cael ei rhoi i Jehofa. (Barn. 11:30-34) Beth byddai hynny’n ei olygu iddi hi?

6. (a) Pa mor hawdd oedd hi i Jefftha a’i ferch gadw at eu gair? (b) Beth mae Deuteronomium 23:21, 23 a Salm 15:4 yn dy ddysgu am wneud llw i Dduw?

6 Er mwyn cadw llw ei thad, roedd rhaid i ferch Jefftha wasanaethu Jehofa yn llawn-amser yng nghysegr y deml. A oedd Jefftha wedi bod yn ddifeddwl wrth dyngu’r llw hwn? Nac oedd, oherwydd y mae’n debygol yr oedd Jefftha yn gwybod mai ei ferch oedd yr un a allai ddod allan o’r tŷ i’w gyfarch. Er hynny, roedd hon yn sefyllfa emosiynol ac anodd iawn i’r tad a’r ferch, ac yn aberth mawr i’r ddau ohonyn nhw. O weld ei ferch, “rhwygo ei ddillad” a wnaeth Jefftha a dweud bod ei galon wedi torri. Criodd ei ferch oherwydd fyddai hi byth yn medru priodi. Pam? Doedd gan Jefftha ddim mab, a fyddai ei unig ferch byth yn cael priodi na chael plant. Ni fyddai unrhyw ffordd i drosglwyddo enw nac etifeddiaeth y teulu. Ond, nid hwnnw oedd y peth pwysicaf. Dywedodd Jefftha: “Dw i wedi addo rhywbeth ar lw i’r ARGLWYDD, a does dim troi’n ôl.” Ac atebodd ei ferch: “Rhaid i ti gadw dy addewid.” (Barn. 11:35-39) Unigolion ffyddlon oedden nhw, a fyddai byth hyd yn oed yn meddwl am dorri llw a wnaethpwyd i’r Duw Goruchaf—beth bynnag  oedd y gost bersonol.—Darllen Deuteronomium 23:21, 23; Salm 15:4.

7. (a) Beth gwnaeth Hanna ei addo, a pham, a beth ddigwyddodd nesaf? (b) Beth byddai llw Hanna yn ei olygu i Samuel? (Gweler y troednodyn.)

7 Hanna oedd un arall a gadwodd ei llw i Jehofa. Gwnaeth Hanna ei haddewid pan oedd hi mewn cyfyngder mawr oherwydd nad oedd hi’n gallu cael plant ac am iddi gael ei gwawdio’n ddi-baid. (1 Sam. 1:4-7, 10, 16) Gwnaeth Hanna fwrw ei bol i Dduw ac addo: “ARGLWYDD holl-bwerus, plîs wnei di gymryd sylw ohono i, a pheidio troi oddi wrtho i? Os gwnei di roi mab i mi, gwna i ei roi i ti am ei oes, a fydd e byth yn torri ei wallt.” * (1 Sam. 1:11) Atebodd Jehofa ei gweddi, a chafodd hi ei phlentyn cyntaf—mab. Roedd hi wrth ei bodd! Ond, nid anghofiodd y llw a wnaeth hi i Dduw. Ar ôl geni’r babi, dywedodd Hanna ei bod hi wedi “gofyn i’r ARGLWYDD” am gael babi.—1 Sam. 1:20.

8. (a) Pa mor hawdd oedd hi i Hanna gadw ei llw? (b) Sut mae geiriau Dafydd yn Salm 61 yn dy atgoffa o agwedd Hanna?

8 Unwaith i Samuel gael ei ddiddyfnu, o gwmpas tair oed, gwnaeth Hanna yn union beth roedd hi wedi ei addo i Dduw. Ni wnaeth hyd yn oed feddwl am wneud yn wahanol. Aeth hi â Samuel at yr Archoffeiriad Eli yn y tabernacl yn Seilo, a dywedodd: “Dyma’r bachgen rôn i’n gweddïo amdano, ac mae Duw wedi ateb fy ngweddi! Felly dw i’n ei roi e i’r ARGLWYDD. Dw i’n ei roi e i’r ARGLWYDD am weddill ei fywyd.” (1 Sam. 1:24-28) Yno, “roedd y bachgen Samuel yn tyfu o flaen yr ARGLWYDD.” (1 Sam. 2:21) Ond beth roedd hyn yn ei olygu i Hanna? Roedd hi’n caru ei bachgen bach yn fawr iawn, ond nawr fyddai hi ddim yn gallu treulio amser gydag ef bob diwrnod o’i blentyndod. Meddylia am sut roedd hi’n dyheu am roi cwtsh iddo, am chwarae ag ef, am ofalu amdano, ac am greu atgofion melys y byddai hi wedi eu gwerthfawrogi wrth wylio ei phlentyn bach yn tyfu. Er hynny, nid oedd Hanna’n difaru ei llw i Dduw. Roedd ei chalon yn llawn balchder tuag at Jehofa.—1 Sam. 2:1, 2; darllen Salm 61:1, 5, 8.

Wyt ti’n cadw dy lwon i Jehofa?

9. Pa gwestiynau sydd angen cael eu hateb?

9 Nawr ein bod ni’n deall bod gwneud llw i Dduw yn rhywbeth difrifol, gad inni drafod y cwestiynau hyn: Pa fath o lwon y gallwn ni fel Cristnogion eu gwneud? Hefyd, wrth gadw llw, pa mor benderfynol y dylen ni fod?

LLW DY YMGYSEGRIAD

Llw dy gysegriad (Gweler paragraff 10)

10. Beth yw’r llw pwysicaf y gall Cristion ei wneud, a beth mae’n ei gynnwys?

10 Y llw pwysicaf y gall Cristion ei wneud yw’r un sy’n cysegru ei fywyd i Jehofa. Pam felly? Oherwydd, mewn gweddi dawel, mae’n addo i Jehofa y byddai’n defnyddio ei fywyd i wasanaethu Duw am byth, beth bynnag a ddaw. Yn ôl Iesu, mae rhywun yn stopio ei roi ei hun yn gyntaf, yn ildio ei hawliau personol, ac yn addo rhoi blaenoriaeth i ewyllys Duw cyn pob dim arall. (Math. 16:24) O’r diwrnod hwnnw allan, mae’n un o bobl Jehofa. (Rhuf. 14:8) Dylai unrhyw un sy’n gwneud llw ymgysegriad ei gymryd o ddifrif, yn union fel y gwnaeth y salmydd a siaradodd am y llw a wnaeth ef i Dduw: “Sut alla i dalu nôl i’r ARGLWYDD am fod mor dda tuag ata i? Dw i am gadw fy addewidion i’r ARGLWYDD o flaen ei bobl.”—Salm 116:12, 14.

11. Beth ddigwyddodd ar ddiwrnod dy fedydd?

 11 Wyt ti wedi cysegru dy fywyd i Jehofa a symboleiddio hynny drwy gael dy fedyddio? Os felly, da o beth! Meddylia yn ôl i ddiwrnod dy fedydd, pan ofynnwyd iti o flaen llygaid dystion a oeddet ti wedi cysegru dy fywyd i Jehofa a dy fod ti’n deall bod dy ymgysegriad a dy fedydd yn dangos dy fod yn un o Dystion Jehofa ac yn rhan o’r gyfundrefn y mae Duw yn ei chyfeirio drwy ei ysbryd. Roedd dy atebion clir a chadarnhaol yn dangos dy fod yn gymwys i gael dy fedyddio’n weinidog ordeiniedig i Jehofa Dduw. Yn sicr, roeddet ti’n gwneud Jehofa yn hapus iawn!

12. (a) Pa gwestiynau personol sy’n werth eu gofyn? (b) Yn ôl Pedr, pa rinweddau y dylen ni chwilio amdanyn nhw ynon ni ein hunain?

12 Ond, dechreuad yw bedydd. Wedi hynny, rydyn ni eisiau dal ati i fyw yn unol â’n cysegriad i Dduw. Felly, gallwn ni ofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i wedi gwneud cynnydd ysbrydol ers imi gael fy medyddio? Ydw i’n dal yn gwasanaethu Jehofa â’m holl galon? (Col. 3:23) Ydw i’n gweddïo, yn darllen Gair Duw, yn mynychu’r cyfarfodydd, ac yn mynd ar y weinidogaeth mor aml ag sy’n bosibl? Neu ydw i wedi bod yn llai prysur yn y gweithgareddau ysbrydol hyn?’ Eglurodd  yr apostol Pedr y gallwn ni osgoi mynd yn anweithredol yn ein gwasanaeth drwy ychwanegu doethineb, dycnwch, a duwioldeb at ein ffydd.—Darllen 2 Pedr 1:5-8.

13. Beth sy’n rhaid i Gristion sydd wedi ei fedyddio ei sylweddoli?

13 Nid yw’n bosibl dad-wneud yr addewid a wnaethon ni i Dduw. Petai rhywun yn blino ar wasanaethu Jehofa neu’n cael llond bol ar y bywyd Cristnogol, nid yw’n bosibl iddo honni nad oedd wedi ymgysegru’n llwyr, a bod ei fedydd yn ddiwerth. * I bob pwrpas, mae wedi dangos i eraill ei fod yn hollol ymroddedig i Dduw. Bydd yn atebol o flaen Jehofa ac o flaen y gynulleidfa am unrhyw bechodau difrifol mae’n eu gwneud. (Rhuf. 14:12) Gad i ni sicrhau nad yw pobl byth yn dweud amdanon ni: ‘Dwyt ti ddim yn caru Jehofa fel roeddet ti ar y cychwyn.’ Yn hytrach, rydyn ni eisiau i Iesu ddweud amdanon ni: “Dw i’n gwybod am bopeth wyt ti’n ei wneud—am dy gariad, dy ffyddlondeb, dy wasanaeth a’th allu i ddal ati; a dw i’n gweld dy fod yn gwneud mwy o dda nawr nag oeddet ti ar y cychwyn.” (Dat. 2:4, 19) Gad inni gadw at ein hymgysegriad i Jehofa, a’i blesio’n fawr iawn.

LLW DY BRIODAS

Llw dy briodas (Gweler paragraff 14)

14. Beth yw’r llw pwysicaf ond un, a pham?

14 Y llw pwysicaf ond un yw’r llw priodas. Pam? Oherwydd bod priodas yn rhywbeth sanctaidd. O flaen Duw a llygaid dystion, mae’r briodferch a’r priodfab yn gwneud eu haddunedau priodas. Fel arfer maen nhw’n addo y byddan nhw’n caru, yn trysori, ac yn parchu ei gilydd, a hynny cyhyd ag y byddan nhw’n fyw ar y ddaear, yn unol â threfn Duw ar gyfer priodas. Efallai nad yw rhai wedi dweud yr union eiriau hynny, ond fe wnaethon nhw lw o flaen Duw. Maen nhw wedyn yn cyhoeddi eu bod yn ŵr a gwraig ynghyd, a dylai’r briodas bara tra bo’r ddau yn fyw. (Gen. 2:24; 1 Cor. 7:39) “Felly,” meddai Iesu, “ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi ei uno!”—nid y gŵr na’r wraig na neb arall. Felly, dylai cyplau sy’n priodi ddeall nad yw ysgaru’n opsiwn.—Marc 10:9.

15. Pam dylai Cristnogion wrthod agwedd ddi-hid y byd tuag at briodas?

15 Wrth gwrs, nid oes yr un briodas yn berffaith. Mae pob priodas yn cynnwys dau berson amherffaith. Dyna pam mae’r Beibl yn dweud y byddai cyplau priod o “dan straen ofnadwy” o bryd i’w gilydd. (1 Cor. 7:28) Yn anffodus, mae gan lawer o bobl yn y byd hwn agwedd ddi-hid tuag at briodas. Pan fydd straen ar y berthynas, maen nhw’n rhoi’r gorau iddi ac yn cefnu ar eu cymar. Ond, nid y ffordd Gristnogol yw hynny. Mae torri llw priodas gystal â dweud celwydd wrth Dduw, ac mae Duw yn casáu pobl sy’n dweud celwydd! (Lef. 19:12; Diar. 6:16-19) Ysgrifennodd yr apostol Paul: “A wyt yn rhwym wrth wraig? Paid â cheisio dy ryddhau.” (1 Cor. 7:27, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Gallai Paul ddweud hynny oherwydd roedd yn gwybod bod Jehofa’n casáu ysgariad bradwrus.—Mal. 2:13-16.

16. Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ysgaru a gwahanu?

16 Dysgodd Iesu mai’r unig reswm Ysgrythurol dros ddiddymu llw priodas yw pan fydd y cymar dieuog yn dewis peidio â maddau i’r cymar sydd wedi godinebu. (Math. 19:9; Heb. 13:4) Felly, beth mae’r Beibl yn ei ddweud am wahanu oddi wrth dy gymar priod? Mae’n gwbl  eglur ynglŷn â hynny hefyd. (Darllen 1 Corinthiaid 7:10, 11.) Nid yw’r Beibl yn gosod sail ar gyfer gwahanu. Ond, mae rhai Cristnogion priod wedi ystyried sefyllfaoedd eithriadol yn rhesymau dros wahanu, er enghraifft, perygl difrifol i fywyd neu ysbrydolrwydd rhywun oherwydd cymar camdriniol neu wrthgiliol. *

17. Beth fydd yn helpu cyplau Cristnogol i gadw eu llw priodas?

17 Pan fydd unigolion yn mynd at yr henuriaid am gyngor ynglŷn â phroblemau priodasol, peth doeth fyddai i’r henuriaid ofyn a ydy’r cwpl wedi gwylio’r fideo What Is True Love? neu wedi astudio yn ddiweddar y llyfryn Sut i Gael Teulu Hapus gyda’i gilydd. Pam? Oherwydd bod yr adnoddau hyn yn pwysleisio sut mae egwyddorion duwiol wedi helpu llawer i gryfhau eu priodas. Dywedodd un cwpl: “Ers inni ddechrau astudio’r llyfryn hwn, mae ein priodas yn hapusach nag erioed.” Ar ôl 22 o flynyddoedd, roedd priodas un wraig ar fin chwalu. Dywedodd hi: “Mae’r ddau ohonon ni wedi cael ein bedyddio, ond roedden ni yn hollol wahanol yn emosiynol. Roedd y fideo yn amserol iawn! Rydyn ni’n gwneud yn llawer gwell fel cwpl rŵan.” Wyt ti’n briod? Ar bob cyfrif, rho egwyddorion Jehofa ar waith yn dy briodas. Bydd gwneud hynny yn dy helpu i gadw dy lw priodas, ac i fod yn hapus!

LLW GWEISION LLAWN-AMSER ARBENNIG

18, 19. (a) Beth mae llawer o rieni Cristnogol wedi ei wneud? (b) Beth gallwn ni ei ddweud am y rhai sydd mewn gwasanaeth llawn-amser arbennig?

18 Wnest ti sylwi ar beth arall sy’n gyffredin rhwng Jefftha a Hanna? O ganlyniad i’w llwon personol, cafodd merch Jefftha a mab Hanna eu neilltuo ar gyfer gwasanaeth arbennig yn y tabernacl. Bywyd ystyrlon oedd hwnnw. Heddiw, mae llawer o rieni Cristnogol wedi annog eu plant i bregethu’n llawn-amser ac i ganolbwyntio ar wasanaethu Duw. Mae’r rhai sydd wedi gwneud hynny yn haeddu canmoliaeth.—Barn. 11:40; Salm 110:3.

Llw dy wasanaeth llawn-amser arbennig (Gweler paragraff 19)

19 Ar hyn o bryd, mae gan Urdd Fyd-eang o Weision Arbennig Llawn-amser Tystion Jehofa tua 67,000 o aelodau. Mae rhai’n gwasanaethu yn y Bethel, eraill yn gwneud gwaith adeiladu neu waith cylch, yn hyfforddwyr yn y maes, yn arloeswyr arbennig neu’n genhadon, neu’n gofalu am neuaddau cynulliad neu adeiladau ar gyfer ysgolion Beiblaidd. Mae pob un ohonyn nhw wedi arwyddo’r “Llw Ufudd-dod a Thlodi,” ac felly wedi cytuno gwneud pa bynnag aseiniad sy’n cael ei roi iddyn nhw er mwyn cefnogi’r Deyrnas, i fyw bywyd syml, ac i beidio â derbyn gwaith seciwlar heb ganiatâd. Nid y bobl sy’n arbennig, ond yr aseiniad. Maen nhw’n gweld y pwysigrwydd o aros yn ostyngedig a byw yn unol â’u llw drwy gydol eu gwasanaeth llawn-amser arbennig.

20. Beth dylen ni ei wneud bob dydd, a pham?

20 Faint o’r llwon hyn rwyt ti wedi eu gwneud i Dduw—un neu ddau ohonyn nhw, neu’r cwbl? Mae’n siŵr dy fod ti’n sylweddoli bod tyngu llw yn rhywbeth y mae’n rhaid iti ei gymryd o ddifrif. (Diar. 20:25) Gall methu cadw ein haddewidion i Jehofa ddod â chanlyniadau difrifol. (Preg. 5:6) Felly, gad inni ganu mawl i Jehofa am byth wrth inni gadw ein llwon bob dydd.—Salm 61:8.

^ Par. 7 Yn ôl llw Hanna, Nasaread fyddai ei phlentyn ar hyd ei oes, ac felly yn cael ei neilltuo ar gyfer gwasanaeth cysegredig a sanctaidd i Jehofa.—Num. 6:2, 5, 8.

^ Par. 13 O ystyried y camau mae henuriaid yn eu cymryd i sicrhau bod unigolyn yn gymwys ar gyfer bedydd, peth anghyffredin iawn fyddai i fedydd rhywun fod yn annilys.

^ Par. 16 Gweler yr atodiad “Agwedd y Beibl Tuag at Ysgaru a Gwahanu” yn y llyfr Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw.