“Pan dw i’n dweud rhywbeth, mae’n siŵr o ddigwydd; fi sydd wedi ei gynllunio, a bydda i’n siŵr o’i wneud!”—ESEI. 46:11.

CANEUON: 147, 149

1, 2. (a) Beth mae Jehofa wedi ei ddatgelu inni? (b) Pa sicrwydd y mae Eseia 46:10, 11 a 55:11 yn ei roi inni?

GEIRIAU agoriadol y Beibl yw: “Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a’r ddaear.” (Gen. 1:1) Rhaid cyfaddef nad ydyn ni’n deall llawer am y pethau a grëwyd gan Dduw, megis y gofod, goleuni, a disgyrchiant, a dim ond y mymryn bach o’r bydysawd rydyn ni wedi ei weld. (Preg. 3:11) Eto, mae Jehofa wedi datgelu inni ei bwrpas ar gyfer y ddaear a’r ddynoliaeth. Roedd y ddaear i fod yn gartref delfrydol i bobl a oedd wedi eu creu ar ddelw Duw. (Gen. 1:26) Bydden nhw’n blant iddo ef, a byddai Jehofa yn Dad iddyn nhw.

2 Fel y gwelwn yn y drydedd bennod o Genesis, cafodd pwrpas Jehofa ei herio. (Gen. 3:1-7) Sut bynnag, nid problem na ellid ei datrys oedd honno. Ni all neb rwystro Jehofa. (Esei. 46:10, 11; 55:11) Felly, gallwn fod yn hyderus y bydd pwrpas gwreiddiol Jehofa’n cael ei gyflawni, a hynny yn brydlon!

3. (a) Pa wirioneddau sy’n sylfaenol i’n dealltwriaeth o neges y Beibl? (b) Pam mae hi’n amserol inni edrych eto ar y dysgeidiaethau hynny? (c) Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu hystyried?

3 Mae’n debyg ein bod ni’n gyfarwydd â dysgeidiaeth y Beibl ynglŷn â phwrpas Duw ar gyfer y ddaear a’r ddynoliaeth, a rôl ganolog Iesu ym mhwrpas Duw. Mae’r dysgeidiaethau  sylfaenol hyn ymhlith y pethau cyntaf rydyn ni’n eu dysgu wrth ddechrau astudio Gair Duw. Yn ein tro, rydyn ninnau eisiau helpu pobl i ddod yn gyfarwydd â’r dysgeidiaethau pwysig hyn. Ar hyn o bryd, wrth inni astudio’r erthygl hon yn y gynulleidfa, rydyn ni’n ceisio gwahodd cynifer o bobl â phosibl i’r Goffadwriaeth. (Luc 22:19, 20) Bydd y rhai sy’n dod yn dysgu llawer am bwrpas Duw. Felly, amserol yw inni feddwl am gwestiynau penodol a fydd yn ennyn diddordeb ein hastudiaethau Beiblaidd a phobl ddiffuant eraill yn yr achlysur pwysig hwn. Byddwn yn ystyried tri chwestiwn: Beth oedd pwrpas gwreiddiol Duw ar gyfer y ddaear a’r ddynoliaeth? Beth aeth o’i le? A pham mai pridwerth Iesu yw’r allwedd sy’n agor y drws i bwrpas Duw gael ei gyflawni?

BETH OEDD PWRPAS GWREIDDIOL Y CREAWDWR?

4. Sut mae’r greadigaeth yn dangos gogoniant Jehofa?

4 Creawdwr rhyfeddol yw Jehofa. Mae popeth y mae’n ei greu yn cyrraedd y safon uchaf posibl. (Gen. 1:31; Jer. 10:12) Beth gallwn ni ei ddysgu o harddwch a threfn y greadigaeth? Yr hyn sy’n creu argraff arnon ni yw bod gan bob un o greadigaethau Jehofa ddiben, boed yn fawr neu’n fach. Pwy na fydd yn rhyfeddu at gymhlethdod y gell ddynol, at wyrth babi newydd ei eni, neu at ysblander machlud yr haul? Mae’r gallu i werthfawrogi harddwch yn y greadigaeth yn rhywbeth greddfol.—Darllen Salmau 19:1; 104:24.

5. Sut mae Jehofa yn sicrhau bod yr holl greadigaeth yn gweithio’n gytûn?

5 Fel y mae’r greadigaeth yn tystio, mae Jehofa, yn ei garedigrwydd, wedi gosod terfynau. Lluniodd ddeddfau natur a deddfau moesol i sicrhau y byddai popeth yn gweithio’n gytûn. (Salm 19:7-9) Felly, mae gan bopeth yn y bydysawd ei le a’i swyddogaeth yn unol â’i rôl ym mhwrpas Duw. Jehofa sy’n gosod y safon ar gyfer sut y dylai ei greadigaeth gydweithio. Er enghraifft, mae deddf disgyrchiant yn dal yr atmosffer yn agos at y ddaear, yn rheoli’r llanw a’r cefnforoedd, ac yn cyfrannu at drefn byd natur sydd mor angenrheidiol i fywyd ar y ddaear. Mae’r holl greadigaeth, gan gynnwys bodau dynol, yn symud ac yn gweithio o fewn y terfynau hyn. Yn amlwg, mae trefn yn y greadigaeth yn tystio i’r ffaith fod gan Dduw bwrpas ar gyfer y ddaear ac ar gyfer dynolryw. Yn ein gweinidogaeth, a allwn ni roi sylw i’r Un sy’n gyfrifol am roi trefn ar y greadigaeth?—Dat. 4:11.

6, 7. Beth oedd rhai o’r pethau a roddodd Jehofa i Adda ac Efa?

6 Pwrpas gwreiddiol Jehofa oedd i ddynolryw fyw am byth yma ar y ddaear. (Gen. 1:28; Salm 37:29) Yn ei haelioni, roedd Duw wedi sicrhau bod gan Adda ac Efa bopeth angenrheidiol ar gyfer byw bywyd ystyrlon. (Darllen Iago 1:17.) Rhoddodd Jehofa ewyllys rhydd iddyn nhw, ynghyd â’r gallu i resymu, i garu, ac i fwynhau cyfeillgarwch. Siaradodd y Creawdwr ag Adda a dangos iddo sut i fod yn ufudd. Dysgodd Adda hefyd sut i ofalu amdano’i hun a gofalu am yr anifeiliaid a’r tir. (Gen. 2:15-17, 19, 20) Roedd Jehofa wedi creu Adda ac Efa i fedru blasu, teimlo, gweld, clywed, ac arogli. O ganlyniad, roedden nhw’n gallu elwa’n llawn ar harddwch y Baradwys. I’r pâr dynol cyntaf, roedd y posibiliadau o ran gwaith boddhaol, datblygu sgiliau, ac ehangu gorwelion yn ddi-ben-draw.

 7 Beth arall oedd yn rhan o bwrpas Duw? Roedd Jehofa wedi creu Adda ac Efa â’r gallu i gael plant perffaith. Bwriad Duw oedd i’w plant hwythau gael plant, hyd nes y bydd y teulu dynol yn llenwi’r holl ddaear. Roedd Duw eisiau i Adda ac Efa, a phob rhiant wedi hynny, garu eu plant fel roedd Jehofa wedi caru ei blant dynol cyntaf. Roedd y ddaear, â’i holl adnoddau, i ddod yn gartref parhaol iddyn nhw.—Salm 115:16.

BETH AETH O’I LE?

8. Beth oedd diben y ddeddf yn Genesis 2:16, 17?

8 Ni chafodd pwrpas Duw mo’i gyflawni’n syth. Pam hynny? Rhoddodd Jehofa ddeddf syml i Adda ac Efa er mwyn profi a fydden nhw’n cydnabod bod terfynau ar eu rhyddid. Dywedodd: “Cei fwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd, ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth—da a drwg. Pan wnei di hynny byddi’n siŵr o farw.” (Gen. 2:16, 17) Nid oedd hi’n anodd i Adda ac Efa ddeall y ddeddf hon nac ychwaith iddyn nhw fod yn ufudd iddi. Wedi’r cwbl, roedd ganddyn nhw fwy o fwyd nag y gallen nhw ei fwyta.

9, 10. (a) Sut gwnaeth Satan gyhuddo Jehofa ar gam? (b) Beth oedd penderfyniad Adda ac Efa? (Gweler y llun agoriadol.)

9 Gwnaeth Satan y Diafol, drwy ddefnyddio neidr, dwyllo Efa ac achosi iddi anufuddhau i’w Thad, Jehofa. (Darllen Genesis 3:1-5; Dat. 12:9) Cododd Satan ddadl ynglŷn â’r ffaith nad oedd plant dynol Duw yn cael “bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd.” Roedd fel petai’n dweud: ‘Ydy hynny’n golygu felly na chei di wneud fel y mynni di?’ Wedyn, dywedodd gelwydd noeth: “Fyddwch chi ddim yn marw.” Yna, ceisiodd berswadio Efa i gredu nad oedd angen iddi wrando ar Dduw, gan ddweud: “Mae Duw yn gwybod y byddwch chi’n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta ohoni.” Awgrymu yr oedd Satan nad oedd Jehofa eisiau iddyn nhw fwyta’r ffrwyth oherwydd y byddai hynny’n eu gwneud nhw’n fwy gwybodus. Yn ogystal, gwnaeth addo’n gelwyddog: “Byddwch chi’n gwybod am bopeth—da a drwg—fel Duw ei hun.”

10 Roedd gan Adda ac Efa benderfyniad i’w wneud. A fydden nhw’n ufuddhau i Jehofa, neu a fydden nhw’n gwrando ar y neidr? Penderfynon nhw anufuddhau i Dduw. Trwy wneud hynny, roedden nhw’n rhan o wrthryfel Satan. Gwrthodon nhw gydnabod mai Jehofa oedd eu Tad, a chefnu ar ei reolaeth.—Gen. 3:6-13.

11. Pam nad yw Jehofa yn goddef gwrthryfela?

11 Wrth ryfela’n erbyn Jehofa, collodd Adda ac Efa eu perffeithrwydd. Hefyd, canlyniad eu gwrthryfela oedd iddyn nhw gael eu dieithrio rhag Jehofa oherwydd bod ei “lygaid yn rhy lân i edrych ar ddrygioni!” Felly, nid yw Jehofa yn “gallu dioddef pobl mor dwyllodrus.” (Hab. 1:13) Pe byddai wedi goddef y drygioni hwnnw, byddai lles pob creadur byw mewn perygl, boed yn y nef neu ar y ddaear. Yn anad dim, pe na byddai Duw wedi gwneud rhywbeth ynglŷn â’r gwrthryfel yn Eden, byddai hynny wedi codi amheuaeth ynghylch ei onestrwydd. Ond mae Jehofa yn ffyddlon i’w safonau ei hun, nid yw byth yn mynd yn groes iddyn nhw. (Salm 119:142) Felly, nid oedd cael ewyllys rhydd yn caniatáu i Adda ac Efa anwybyddu deddf Duw. Oherwydd eu bod nhw wedi gwrthryfela yn erbyn Jehofa, buon nhw farw a dychwelyd i’r pridd.—Gen. 3:19.

12. Beth ddigwyddodd i blant Adda?

 12 Pan fwytaodd Adda ac Efa’r ffrwyth hwnnw, nid oedden nhw’n cael eu derbyn fel aelodau o deulu Duw bellach. Gwnaeth Duw eu bwrw nhw allan o Eden, a doedd ganddyn nhw ddim gobaith o ddychwelyd. (Gen. 3:23, 24) Wrth wneud hynny, roedd tegwch Jehofa yn mynnu eu bod nhw’n gorfod dioddef canlyniadau eu drwgweithredu. (Darllen Deuteronomium 32:4, 5.) A hwythau bellach yn amherffaith, nid oedden nhw’n gallu adlewyrchu rhinweddau Duw’n berffaith. Collodd Adda nid yn unig ddyfodol disglair iddo ef ei hun, ond trosglwyddodd amherffeithrwydd, pechod, a marwolaeth i’w blant. (Rhuf. 5:12) Roedd wedi amddifadu ei blant o’r cyfle i fyw am byth. Ar ben hynny, nid oedd Adda ac Efa yn gallu cael plentyn perffaith; a doedd eu plant hwythau ddim yn gallu cael plant perffaith chwaith. Ar ôl perswadio Adda ac Efa i gefnu ar Dduw, gwnaeth Satan y Diafol barhau i gamarwain dynolryw hyd heddiw.—Ioan 8:44.

Y PRIDWERTH YN IACHÁU

13. Beth mae Jehofa eisiau ar gyfer dynolryw?

13 Fodd bynnag, mae cariad Duw tuag at ddynolryw yn parhau. Er gwaethaf gwrthryfela Adda ac Efa, mae Jehofa eisiau i ddynolryw fwynhau perthynas dda ag ef. Nid yw’n dymuno i unrhyw un farw. (2 Pedr 3:9) Felly, yn syth ar ôl y gwrthryfel, gwnaeth Duw drefnu i fodau dynol allu adfer eu cyfeillgarwch ag ef a hynny heb danseilio ei safonau cyfiawn ei hun. Sut llwyddodd Jehofa i wneud hynny?

14. (a) Yn ôl Ioan 3:16, sut gwnaeth Jehofa adfer dynolryw? (b) Pa gwestiwn y gallwn ni ei ystyried gyda rhai sy’n dangos diddordeb?

14 Darllen Ioan 3:16. Bydd llawer o’r rhai sy’n dod i’r Goffadwriaeth yn gwybod yr adnod hon ar eu cof. Ond y cwestiwn yw: Sut mae aberth Iesu yn gwneud bywyd tragwyddol yn bosibl? Bydd ymgyrch y Goffadwriaeth, y Goffadwriaeth ei hun, a’r trafodaethau y byddwn ni’n eu cael â’r rhai a oedd yn bresennol yn rhoi cyfle inni fedru helpu’r rhai sy’n chwilio am y gwirionedd i ddeall beth yw’r ateb i’r cwestiwn pwysig hwnnw. Bydd argraff dda yn cael ei gwneud ar y rhai hyn pan fyddan nhw’n dechrau deall yn well sut mae cariad a doethineb Jehofa yn cael eu mynegi drwy’r pridwerth. Pa bwyntiau ynglŷn â’r pridwerth y gallwn ni eu hamlygu?

15. Ym mha ffordd roedd Iesu yn wahanol i Adda?

15 Rhoddodd Jehofa ddyn perffaith a allai dalu’r pridwerth. Byddai’n rhaid i’r dyn perffaith hwnnw fod yn ffyddlon i Jehofa a bod yn barod i roi ei fywyd er mwyn achub y ddynoliaeth. (Rhuf. 5:17-19) Trosglwyddodd Jehofa fywyd ei greadigaeth gyntaf o’r nefoedd i’r ddaear. (Ioan 1:14) Felly, daeth Iesu yn ddyn perffaith, yn union fel Adda. Ond, yn wahanol i Adda, gwnaeth Iesu fyw yn ôl y safonau roedd Jehofa yn eu disgwyl gan ddyn perffaith. Hyd yn oed o dan y prawf eithaf, ni wnaeth Iesu bechu na thorri unrhyw un o gyfreithiau Duw.

16. Pam mae’r pridwerth yn rhodd mor werthfawr?

16 Ac yntau’n ddyn perffaith, gallai Iesu achub dynolryw rhag pechod a marwolaeth drwy farw drostyn nhw. Roedd yn cyfateb yn union i’r hyn a ddylai Adda fod wedi bod—dyn perffaith a oedd yn hollol ffyddlon ac ufudd i Dduw. (1 Tim. 2:6) Iesu oedd yr aberth pridwerthol a agorodd y ffordd i fywyd tragwyddol ar gyfer “llawer o bobl”—dynion, merched,  a phlant. (Math. 20:28) Yn wir, y pridwerth yw’r allwedd sy’n agor y drws i gyflawniad pwrpas gwreiddiol Duw. (2 Cor. 1:19, 20) Mae’r pridwerth yn rhoi cyfle i bawb sy’n ffyddlon gael bywyd tragwyddol.

AGORODD JEHOFA Y DRWS INNI DDYCHWELYD ATO EF

17. Beth sy’n bosibl oherwydd y pridwerth?

17 Costiodd yn ddrud i Jehofa ddarparu’r pridwerth. (1 Pedr 1:19) Mae’r ddynoliaeth mor werthfawr iddo fel yr oedd yn fodlon i’w unig-anedig Fab farw droson ni. (1 Ioan 4:9, 10) Ar un olwg, mae Iesu yn cymryd lle ein tad dynol cyntaf, Adda. (1 Cor. 15:45) Wrth wneud hynny, mae Iesu yn adfer mwy na bywyd; mae’n rhoi’r cyfle inni ddychwelyd at deulu Duw yn y pen draw. Yn wir, ar sail aberth Iesu, gall Jehofa dderbyn bodau dynol yn ôl i’w deulu heb gefnu ar ei gyfiawnder. Onid braf yw meddwl am yr amser pan fydd bodau dynol i gyd wedi eu dwyn i berffeithrwydd? Bydd undod llwyr rhwng y rhannau nefol a’r rhannau daearol o’i deulu. Yn yr ystyr llawnaf, byddwn ni i gyd yn blant i Dduw.—Rhuf. 8:21.

18. Pa bryd y bydd Jehofa “oll yn oll”?

18 Ni wnaeth Jehofa stopio caru’r ddynoliaeth oherwydd gwrthryfel Satan, ac nid yw’r gwrthryfel hwnnw’n gallu rhwystro pobl amherffaith rhag bod yn ffyddlon i Jehofa. Trwy ddarparu’r pridwerth, bydd Jehofa yn helpu pob un o’i blant i ddod yn gwbl gyfiawn. A elli ddychmygu’r dydd pan fydd “pawb sy’n edrych at y Mab ac yn credu ynddo yn cael bywyd tragwyddol”? (Ioan 6:40) Yn ei gariad a’i ddoethineb mawr, bydd Jehofa yn adfer dynolryw i’w chyflwr perffaith yn unol â’i fwriad gwreiddiol. Bryd hynny, Jehofa, ein Tad, “fydd oll yn oll.”—1 Cor. 15:28, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

19. (a) Beth bydd gwerthfawrogi’r pridwerth yn ein cymell i’w wneud? (Gweler y blwch “ Gad Inni Edrych am y Rhai Sy’n Barod i’n Croesawu.”) (b) Pa agwedd ar y pridwerth y byddwn ni’n ei thrafod nesaf?

19 Dylai gwerthfawrogi’r pridwerth ein cymell ni i wneud popeth a allwn ni i esbonio buddion y pridwerth i eraill. Mae angen i bobl wybod bod Jehofa, trwy’r pridwerth, yn cynnig y gobaith o fywyd tragwyddol i bawb. Ond eto, cyflawnwyd llawer iawn mwy na hynny gan y pridwerth. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod sut mae aberth Iesu yn ateb y cwestiynau moesol a godwyd gan Satan yng ngardd Eden.