AR 26 MAWRTH 1937, gyrrodd dau ddyn blinedig eu car llychlyd yn araf deg i mewn i Sydney, Awstralia. Ers iddyn nhw adael y ddinas honno flwyddyn ynghynt, roedden nhw wedi teithio mwy na 12,000 o filltiroedd drwy rai o ardaloedd mwyaf anghysbell y cyfandir. Nid anturiaethwyr mo’r dynion hyn. Dau arloeswr selog oedd Arthur Willis a Bill Newlands a hwythau’n benderfynol o bregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw yn eangderau perfeddwlad Awstralia.

Hyd at y 1920au hwyr, roedd y nifer bychan o Fyfyrwyr y Beibl * yn Awstralia wedi pregethu yn bennaf yn y dinasoedd ar hyd yr arfordir. Yn y canoldir, doedd fawr neb yn byw yn y berfeddwlad, rhanbarth a oedd yn fwy na hanner maint yr Unol Daleithiau. Roedd y brodyr, fodd bynnag, yn ymwybodol fod rhaid i ddilynwyr Iesu dystiolaethu amdano “drwy’r byd i gyd,” gan gynnwys perfeddwlad Awstralia. (Act. 1:8) Ond sut gallen nhw gyflawni tasg mor enfawr? Yn gwbl hyderus y byddai Jehofa yn bendithio eu hymdrechion, roedden nhw’n benderfynol o wneud eu gorau.

ARLOESI’R FFORDD

Ym 1929, adeiladodd cynulleidfaoedd yn Queensland ac yng Ngorllewin Awstralia faniau modur pwrpasol ar gyfer teithio i’r ardaloedd mewndirol hyn. Gyrrwyd y faniau gan arloeswyr a fyddai’n gallu ymdopi â’r amgylchiadau anodd a thrwsio’r cerbydau petai angen. Aeth yr arloeswyr hyn i lawer o wahanol lefydd nad oedden nhw wedi clywed y gwirionedd o’r blaen.

Roedd yr arloeswyr heb geir yn ei chychwyn hi am y berfeddwlad ar gefn beic. Er enghraifft, ym 1932, gadawodd Bennett Brickell, 23 blwydd oed, Rockhampton, Queensland, ar daith bum-mis i bregethu yn ardal ogleddol y dalaith honno. Ar ei feic trymlwythog, roedd yn cario blancedi, dillad, bwyd, a llawer iawn o lyfrau. Pan oedd teiars ei feic wedi treulio, daliodd ati, yn hyderus y byddai Jehofa yn ei dywys. Gwthiodd ei feic y 200 milltir olaf drwy sychdir lle bu farw dynion o ddiffyg dŵr yn y gorffennol. Yn ystod y 30 mlynedd nesaf, teithiodd y Brawd Brickell gannoedd  ar filoedd o filltiroedd drwy gydol Awstralia ar gefn beic, motobeic, ac mewn car. Cyflwynodd y newyddion da i’r Cynfrodorion a bu’n helpu i sefydlu cynulleidfaoedd newydd, gan ddod yn adnabyddus ar draws y berfeddwlad.

GORESGYN POB HER

Mae dwysedd poblogaeth Awstralia gyda’r mwyaf isel yn y byd, yn enwedig yn y berfeddwlad. Ond mae pobl Jehofa wedi bod yn benderfynol o ddod o hyd i bobl yn y rhannau anghysbell hyn o’r cyfandir.

Cymeriadau penderfynol oedd yr arloeswyr Stuart Keltie a William Torrington. Ym 1933, teithion nhw ar draws Anialwch Simpson er mwyn pregethu yn Alice Springs, tref yng nghanol y cyfandir. Ar ôl i’r car dorri i lawr, roedd rhaid iddyn nhw fynd hebddo, ac roedd rhaid i’r Brawd Keltie, ac yntau â choes bren, barhau ar ei daith bregethu ar gefn camel! Gwnaeth ymdrechion yr arloeswyr ddwyn ffrwyth pan ddaethon nhw ar draws gwestywr, Charles Bernhardt, yn William Creek, sef gorsaf reilffordd bellennig. Yn nes ymlaen, derbyniodd y gwirionedd, gwerthu ei westy, ac arloesi ar ei ben ei hun am 15 mlynedd mewn rhai o’r llefydd mwyaf sych ac anghysbell yn Awstralia gyfan.

Arthur Willis yn paratoi ar gyfer taith bregethu i eangderau perfeddwlad Awstralia.—Perth, Gorllewin Awstralia, 1936

Yn wir, roedd angen dewrder a dycnwch ar yr arloeswyr hyn. Ar un adeg, gwnaeth Arthur Willis a Bill Newlands, a grybwyllir yn y cyflwyniad, ymlafnio am bythefnos yn ceisio teithio 20 milltir oherwydd bod glawogydd trymion wedi troi’r anialdir yn fôr o fwd. Weithiau, a hwythau’n bustachu yn y gwres tanbaid i wthio eu cerbyd dros y twyni tywod anferth, roedd yn rhaid iddyn nhw fynd trwy ddyffrynnoedd creigiog ac ar draws gwelyau afonydd tywodlyd. Pan dorrodd eu cerbyd i lawr, a oedd yn ddigwyddiad cyson, roedd rhaid iddyn nhw gerdded neu seiclo am ddyddiau i’r dref agosaf ac yna disgwyl am wythnosau nes i’r partiau newydd gyrraedd. Er gwaethaf yr anawsterau hyn, roedden nhw’n wastad yn bositif. Ac yntau’n aralleirio datganiad a wnaethpwyd yn y cylchgrawn The Golden Age, dywedodd Arthur Willis: “Nid oes yr un ffordd yn rhy anodd nac yn rhy hir i’w Dystion.”

Esboniodd yr arloeswr Charles Harris fod yr unigedd a’r caledi a wynebai yn y berfeddwlad wedi gwneud iddo glosio at Jehofa. Ychwanegodd: “Mae teithio taith bywyd yn well gyda chyn lleied o bethau ag sy’n bosibl. Os oedd Iesu yn fodlon cysgu o dan y sêr, dylen ninnau hefyd fod yn fodlon gwneud yr un peth os oes rhaid.” A dyna a wnaeth llawer o arloeswyr. Diolch i’w hymdrechion diflino, pregethwyd y newyddion da ym mhob cwr o’r cyfandir, gan helpu unigolion di-rif i sefyll yn gadarn o blaid Teyrnas Dduw.

^ Par. 4 Ym 1931, penderfynodd Myfyrwyr y Beibl fabwysiadu’r enw Tystion Jehofa.—Esei. 43:10.