Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Y Tŵr Gwylio—Rhifyn Astudio  |  Awst 2017

Wyt Ti’n Fodlon Disgwyl yn Amyneddgar?

Wyt Ti’n Fodlon Disgwyl yn Amyneddgar?

“Dylech chi fod yr un mor amyneddgar.”—IAGO 5:8.

CANEUON: 114, 79

1, 2. (a) Beth all achosi inni ofyn, “Am faint?” (b) Pam gall esiamplau gweision ffyddlon yn y gorffennol ein calonogi ninnau heddiw?

“AM FAINT o amser?” Dyna’r cwestiwn a ofynnodd y proffwydi ffyddlon Eseia a Habacuc. (Eseia 6:11; Habacuc 1:2) Pan ysgrifennodd y Brenin Dafydd Salm 13, gofynnodd yr un cwestiwn bedair gwaith. (Salm 13:1, 2) Hefyd, pan oedd Iesu Grist wedi ei amgylchynu â phobl heb ffydd, gofynnodd: “Am faint?” (Mathew 17:17) Mae’n bosibl inni ofyn yr un cwestiwn heddiw.

2 Beth all achosi inni ofyn, “Am faint?” Efallai fod rhywbeth annheg wedi digwydd inni. Neu efallai ein bod ni’n sâl neu’n mynd yn hen. Efallai ein bod ni’n teimlo o dan bwysau oherwydd ein bod ni’n byw yn ystod “adegau ofnadwy o anodd.” (2 Timotheus 3:1) Neu efallai fod agweddau anghywir pobl o’n cwmpas ni yn achosi inni deimlo’n flinedig ac yn ddigalon. Beth bynnag  yw’r rheswm, calonogol yw gwybod nad oedd Jehofa wedi barnu ei weision ffyddlon am ofyn y cwestiwn hwnnw yn y gorffennol.

3. Beth all ein helpu ni pan ydyn ni mewn sefyllfa anodd?

3 Beth all ein helpu ni pan ydyn ni’n goddef sefyllfa anodd? Ysbrydolwyd Iago, hanner brawd Iesu, i ddweud: “Felly, frodyr a chwiorydd annwyl, byddwch yn amyneddgar wrth ddisgwyl i’r Arglwydd ddod yn ôl.” (Iago 5:7) Felly, mae’n rhaid inni fod yn amyneddgar. Ond beth yw amynedd, a sut gallwn ni ddangos y rhinwedd hon?

BETH YW AMYNEDD?

4, 5. (a) Beth yw amynedd, a sut gallwn ni fod yn amyneddgar? (b) Sut mae Iago yn egluro amynedd? (Gweler y llun agoriadol.)

4 Dywed y Beibl fod amynedd yn dod o’r ysbryd glân. Heb gymorth Duw, nid yw’n hawdd i bobl amherffaith fod yn amyneddgar mewn sefyllfaoedd anodd. Anrheg oddi wrth Dduw yw amynedd, ac rydyn ni’n profi ein cariad tuag at Jehofa ac eraill wrth inni ei ddangos. Pan nad ydyn ni’n amyneddgar, mae’r cariad rhyngon ninnau ac eraill yn gwanhau. (1 Corinthiaid 13:4; Galatiaid 5:22) Beth mae bod yn amyneddgar yn ei gynnwys? Mae’n cynnwys cael agwedd bositif hyd yn oed pan ydyn ni mewn sefyllfa anodd. (Colosiaid 1:11; Iago 1:3, 4) Gall amynedd ein helpu ni i aros yn ffyddlon i Jehofa ni waeth pa broblemau sydd gennyn ni. Bydd yn ein helpu i beidio â thalu’r pwyth yn ôl pan ydyn ni’n dioddef. Mae’r Beibl yn dweud bod rhaid inni dderbyn bod angen inni ddisgwyl. Mae hon yn wers bwysig yr ydyn ni’n ei dysgu oddi wrth Iago 5:7, 8. (Darllen.)

5 Pam mae’n rhaid inni fod yn fodlon disgwyl i Jehofa weithredu? Fe wnaeth Iago gymharu ein sefyllfa ni â sefyllfa ffermwr. Er bod ffermwr yn gweithio’n galed i blannu ei gnwd, nid yw’n gallu rheoli’r tywydd na pha mor sydyn mae’r planhigion yn tyfu. Mae’n rhaid iddo ddisgwyl yn amyneddgar am y “cnwd.” Yn yr un modd, mae yna lawer o bethau na allwn ni eu rheoli wrth inni ddisgwyl i addewid Jehofa gael ei wireddu. (Marc 13:32, 33; Actau 1:7) Yn debyg i’r ffermwr, mae’n rhaid inni ddisgwyl yn amyneddgar.

6. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl y proffwyd Micha?

6 Yn debyg i ninnau heddiw, roedd y proffwyd Micha yn gorfod delio â sefyllfaoedd anodd. Roedd yn byw yn ystod y cyfnod pan oedd y Brenin Ahas yn rheoli. Brenin drwg iawn oedd Ahas. O ganlyniad, roedd llawer o bethau llwgr yn digwydd. Roedd pethau mor ddrwg, nes i’r Beibl ddweud bod y bobl yn rhai “da am wneud drwg!” (Darllen Micha 7:1-3.) Roedd Micha yn gwybod nad oedd yn gallu newid y sefyllfa. Felly, beth wnaeth Micha? Dywedodd: “Dw i am droi at yr ARGLWYDD am help. Dw i’n disgwyl yn hyderus am y Duw sy’n achub. Dw i’n gwybod y bydd e’n gwrando arna i.” (Micha 7:7) Yn debyg i Micha, mae’n rhaid inni fod yn amyneddgar a “disgwyl yn hyderus.”

7. Pam mae’n rhaid inni wneud mwy na disgwyl i Jehofa wireddu ei addewidion?

 7 Os oes gennyn ni ffydd fel Micha, byddwn ni’n fodlon disgwyl. Nid yw ein sefyllfa ni yn debyg i sefyllfa carcharor sy’n disgwyl yn ei gell am ddiwrnod ei ddienyddio. Mae’r carcharor yn cael ei orfodi i ddisgwyl, ac nid yw’n edrych ymlaen at y diwrnod y bydd yn cael ei roi i farwolaeth. Mae pethau yn wahanol iawn i ni! Rydyn ni’n fodlon disgwyl am Jehofa oherwydd ein bod ni’n gwybod, pan fydd yr amser yn iawn, y bydd Jehofa yn cyflawni ei addewid i roi bywyd tragwyddol inni! Felly, rydyn ni’n “dal ati yn amyneddgar, a diolch yn llawen i’r Tad.” (Colosiaid 1:11, 12) Wrth inni ddisgwyl, rydyn ni’n ofalus i beidio â chwyno am nad ydy Jehofa yn gweithredu’n ddigon cyflym. Pe bydden ni’n gwneud hynny, ni fyddai’n plesio Jehofa.—Colosiaid 3:12.

ESIAMPLAU O FOD YN AMYNEDDGAR

8. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiamplau dynion a merched ffyddlon a oedd yn byw yn y gorffennol?

8 Beth fydd yn ein helpu ni i fod yn fwy amyneddgar? Gallwn feddwl am y dynion a’r merched ffyddlon gynt a oedd yn disgwyl yn amyneddgar i addewidion Jehofa gael eu gwireddu. (Rhufeiniaid 15:4) Wrth inni feddwl am eu hesiamplau, da yw cofio pa mor hir roedden nhw’n gorfod disgwyl, pam roedden nhw’n fodlon disgwyl, a sut bendithiodd Jehofa eu hamynedd.

Roedd rhaid i Abraham ddisgwyl am lawer o flynyddoedd cyn i’w wyrion Esau a Jacob gael eu geni (Gweler paragraffau 9, 10)

9, 10. Pa mor hir roedd Abraham a Sara wedi disgwyl?

 9 Ystyria esiampl Abraham a Sara. Oherwydd eu bod nhw wedi “dal ati yn amyneddgar,” gwnaethon nhw etifeddu’r “cwbl mae Duw wedi ei addo.” Dywed y Beibl, “ar ôl disgwyl yn amyneddgar,” cafodd Abraham ei fendithio gan Jehofa a’i wneud yn dad i genedl fawr. (Hebreaid 6:12, 15) Pam roedd rhaid i Abraham ddangos amynedd? Oherwydd y byddai’n cymryd amser i’r addewid gael ei wireddu. Ar Nisan 14 yn y flwyddyn 1943 cyn Crist, fe wnaeth Abraham, Sara, a’u teulu groesi Afon Ewffrates i mewn i Wlad yr Addewid. Ond, roedd rhaid i Abraham ddisgwyl 25 o flynyddoedd cyn i’w fab Isaac gael ei eni, ac yna 60 mlynedd eto i’w wyrion Esau a Jacob gael eu geni.—Hebreaid 11:9.

10 Faint o Wlad yr Addewid y gwnaeth Abraham ei etifeddu? Dywed y Beibl: “Chafodd Abraham ei hun ddim tir yma—dim o gwbl! Ond roedd Duw wedi addo iddo y byddai’r wlad i gyd yn perthyn iddo fe a’i ddisgynyddion ryw ddydd – a hynny pan oedd gan Abraham ddim plentyn hyd yn oed!” (Actau 7:5) Roedd yn rhaid disgwyl 430 o flynyddoedd ar ôl i Abraham groesi Afon Ewffrates hyd nes i’w ddisgynyddion ddod yn genedl a fyddai’n byw yn y wlad honno.—Exodus 12:40-42; Galatiaid 3:17.

11. Pam roedd Abraham yn fodlon disgwyl a sut bydd ei amynedd yn cael ei fendithio?

11 Roedd Abraham yn fodlon disgwyl oherwydd ei fod yn sicr y bydd Jehofa yn cadw ei addewidion. Roedd ganddo ffydd yn Jehofa. (Darllen Hebreaid 11:8-12.) Roedd Abraham yn hapus i ddisgwyl er nad oedd wedi gweld holl addewidion Duw yn cael eu gwireddu cyn iddo farw. Ond dychmyga lawenydd Abraham pan fydd yn cael ei atgyfodi ym Mharadwys ar y ddaear. Bydd Abraham yn synnu wrth iddo ddarllen hanes ei fywyd a hanes ei deulu yn y Beibl. * (Gweler y troednodyn.) Dychmyga pa mor llawen y bydd Abraham ar ôl dysgu am ei ran allweddol yn cyflawni pwrpas Jehofa yn achos y Meseia addawedig! Gallwn fod yn sicr y bydd yn teimlo bod y bendithion hynny wedi bod yn werth disgwyl amdanyn nhw.

12, 13. Pam roedd angen amynedd ar Joseff, a pha agwedd bositif a oedd ganddo?

12 Roedd Joseff, gor-ŵyr Abraham, hefyd yn fodlon bod yn amyneddgar. Dioddefodd nifer o anghyfiawnderau erchyll. Yn gyntaf, fe wnaeth ei frodyr ei werthu yn gaethwas pan oedd yn 17 oed. Wedyn, cafodd ei gamgyhuddo o dreisio gwraig ei feistr, ac o ganlyniad i hynny, cafodd ei garcharu. (Genesis 39:11-20; Salm 105:17, 18) Er bod Joseff yn was ffyddlon i Jehofa, roedd hi’n ymddangos fel petai’n cael ei gosbi yn hytrach na’i fendithio. Ond, ar ôl 13 o flynyddoedd, gwnaeth popeth newid. Cafodd Joseff ei ryddhau o’r carchar ac yna daeth yn ail i’r Pharo yn yr Aifft.—Genesis 41:14, 37-43; Actau 7:9, 10.

Roedd Joseff yn deall mai Jehofa oedd yn rheoli pethau a bod bendithion yn werth disgwyl amdanyn nhw

13 A wnaeth yr anghyfiawnderau  hynny droi Joseff yn chwerw? A oedd yn teimlo bod Jehofa wedi cefnu arno? Nac oedd. Fe wnaeth Joseff ddisgwyl yn amyneddgar. Beth helpodd Joseff? Ei ffydd yn Jehofa a wnaeth ei helpu. Deallodd mai Jehofa oedd yn rheoli’r sefyllfa. Gwelwn hyn trwy ddarllen beth ddywedodd wrth ei frodyr: “Peidiwch bod ag ofn. Ai Duw ydw i? Roeddech chi am wneud drwg i mi, ond dyma Duw yn troi y drwg yn beth da. Roedd ganddo eisiau achub bywydau llawer o bobl, a dyna dych chi’n weld heddiw.” (Genesis 50:19, 20) Roedd Joseff yn gwybod bod bendithion oddi wrth Jehofa yn werth disgwyl amdanyn nhw.

14, 15. (a) Pam mae amynedd Dafydd yn nodedig? (b) Beth helpodd Dafydd i fod yn amyneddgar?

14 Dioddefodd y Brenin Dafydd nifer o anghyfiawnderau hefyd. Gwnaeth Jehofa eneinio Dafydd i fod yn Frenin ar Israel pan oedd yn ifanc. Ond, roedd rhaid i Dafydd ddisgwyl 15 mlynedd cyn iddo ddod yn frenin dros ei lwyth ei hun hyd yn oed. (2 Samuel 2:3, 4) Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu rhaid i Dafydd, o dro i dro, ffoi a chuddio rhag y Brenin Saul, a oedd yn ceisio ei ladd. * (Gweler y troednodyn.) O ganlyniad, nid oedd gan Dafydd ei gartref ei hun. Roedd rhaid iddo aros mewn gwledydd tramor neu mewn ogofeydd yn yr anialwch. Yn y diwedd, cafodd Saul ei ladd mewn brwydr. Ond, roedd rhaid i Dafydd barhau i ddisgwyl saith mlynedd ychwanegol cyn iddo ddod yn Frenin dros Genedl Israel.—2 Samuel 5:4, 5.

15 Pam roedd Dafydd yn fodlon disgwyl? Mae’n ateb y cwestiwn hwnnw yn yr un salm ble mae’n dweud “Am faint?” bedair gwaith. Dywed Dafydd: “Dw i’n trystio dy fod ti’n ffyddlon! Bydda i’n gorfoleddu am dy fod wedi f’achub i. Bydda i’n canu mawl i ti, ARGLWYDD, am achub fy ngham.” (Salm 13:5, 6) Roedd Dafydd yn gwybod bod Jehofa yn ei garu ac y byddai bob amser yn ffyddlon iddo. Meddyliodd am yr adegau pan wnaeth Jehofa ei helpu yn y gorffennol, ac roedd yn edrych ymlaen at yr amser pan fyddai Jehofa yn rhoi diwedd ar ei dreialon. Roedd Dafydd yn gwybod bod bendithion Jehofa yn werth disgwyl amdanyn nhw.

Nid yw Jehofa wedi gofyn inni wneud rhywbeth nad yw ef ei hun yn barod i’w wneud

16, 17. Sut mae Jehofa a Iesu wedi gosod esiamplau gwych o ran bod yn fodlon disgwyl?

16 Nid yw Jehofa wedi gofyn inni wneud rhywbeth nad yw ef ei hun yn barod i’w wneud. Ef sydd wedi gosod yr esiampl orau o fod yn amyneddgar. (Darllen 2 Pedr 3:9.) Er enghraifft, filoedd o flynyddoedd yn ôl yng Ngardd Eden, gwnaeth Satan gyhuddo Jehofa o fod yn annheg. Mae Jehofa yn parhau i fod “yn amyneddgar” hyd at  yr amser pan fydd ei enw yn cael ei sancteiddio yn llawn. Bydd y rhai sy’n “disgwyl amdano” yn amyneddgar, yn cael eu bendithio.—Eseia 30:18.

17 Roedd Iesu hefyd yn fodlon disgwyl. Pan oedd ar y ddaear, roedd yn ffyddlon hyd at ei farwolaeth. Yn y flwyddyn 33, cyflwynodd werth ei aberth i Jehofa yn y nefoedd. Ond, roedd rhaid iddo ddisgwyl tan 1914 i deyrnasu fel Brenin. (Actau 2:33-35; Hebreaid 10:12, 13) Er hynny, mae’n rhaid i Iesu ddisgwyl tan ddiwedd ei Deyrnasiad Mil Blynyddoedd cyn i’w holl elynion gael eu dinistrio. (1 Corinthiaid 15:25) Mae hynny’n amser hir i ddisgwyl. Ond, bydd y bendithion yn werth disgwyl amdanyn nhw.

BETH FYDD YN EIN HELPU NI?

18, 19. Beth fydd yn ein helpu ni i ddisgwyl yn amyneddgar?

18 Mae’n amlwg fod Jehofa eisiau inni fod yn amyneddgar, yn fodlon disgwyl. Beth fydd yn ein helpu ni i wneud hyn? Rhaid inni weddïo am ysbryd Duw. Cofia fod amynedd yn dod o ysbryd glân Duw. (Effesiaid 3:16; 6:18; 1 Thesaloniaid 5:17-19) Felly, rhaid iti erfyn ar Jehofa er mwyn iti ddisgwyl yn amyneddgar!

19 Cofia hefyd beth helpodd Abraham, Joseff, a Dafydd i ddisgwyl yn amyneddgar i addewidion Jehofa ddod yn wir. Eu ffydd ac ymddiried yn Nuw a wnaeth eu helpu. Ni wnaethon nhw feddwl amdanyn nhw eu hunain yn unig. Wrth inni feddwl am fendithion y bobl hyn, byddwn ni’n cael ein calonogi i ddisgwyl yn amyneddgar.

20. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?

20 Felly, er y byddwn ni’n gorfod delio â threialon, rydyn ni’n benderfynol o fod yn amyneddgar. Weithiau efallai byddwn ni’n gofyn, “Am faint o amser, fy Arglwydd?” (Eseia 6:11) Ond, gyda chymorth yr ysbryd glân, byddwn ninnau’n gallu efelychu’r proffwyd Jeremeia a dweud: “Dim ond yr ARGLWYDD sydd gen i” ac “felly ynddo fe dw i’n gobeithio.”—Galarnad 3:21, 24.

^ Par. 11 Mae tua 15 pennod o lyfr Genesis yn sôn am fywyd Abraham. Hefyd, mae ysgrifenwyr yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn cyfeirio at Abraham fwy na 70 gwaith.

^ Par. 14 Gwnaeth Jehofa wrthod Saul ar ôl iddo reoli am ychydig dros ddwy flynedd. Ond, parhaodd i deyrnasu am 38 o flynyddoedd ychwanegol, hyd at ei farwolaeth.—1 Samuel 13:1; Actau 13:21.