GO BRIN yr ydych chi wedi clywed sôn am Abū ‘Alī al-Ḥasan ibn al-Haytham. Yn y Gorllewin, mae’n mynd dan yr enw Alhazen, ffurf wedi ei Lladineiddio o’i enw cyntaf yn Arabeg, sef al-Ḥasan. Fodd bynnag, mae hi’n debygol iawn eich bod chi wedi elwa ar waith ei fywyd. Mae wedi cael ei ddisgrifio fel “un o’r ffigyrau mwyaf pwysig a dylanwadol yn hanes gwyddoniaeth.”

Ganwyd Alhazen yn Basra, sydd heddiw yn Irac, tua 965 OG. Ymhlith ei ddiddordebau oedd seryddiaeth, cemeg, mathemateg, meddygaeth, cerddoriaeth, opteg, ffiseg, a barddoniaeth. Beth yn benodol y dylen ni ddiolch iddo amdano?

ARGAE AR AFON NÎL

Mae ’na stori am Alhazen sydd wedi bod ar led ers tro byd. Mae’n ymwneud â’i gynllun i reoli llif Afon Nîl ryw 1,000 o flynyddoedd cyn i’r prosiect gael ei wireddu yn Aswan ym 1902.

Yn ôl y stori, roedd Alhazen wedi gwneud cynllun uchelgeisiol i leihau effaith y cylchredau o lifogydd a sychderau yn yr Aifft drwy godi argae ar Afon Nîl. Pan wnaeth rheolwr Cairo, y Califf al-Hakim, glywed am y syniad, dyma’n gwahodd Alhazen i’r Aifft er mwyn adeiladu’r argae. Ond, pan welodd yr afon a’i lygaid ei hun, sylweddolodd Alhazen fod y prosiect yn ormod iddo. Ac yntau’n ofni cael ei gosbi gan y rheolwr tanllyd hwn, dyma Alhazen yn cogio ei fod wedi mynd o’i gof a hynny nes i’r califf farw ryw 11 mlynedd yn ddiweddarach, yn 1021. Yn y cyfamser, roedd gan Alhazen ddigon o amser i ymhél â’i ddiddordebau eraill tra oedd wedi ei gaethiwo am ei salwch meddwl honedig.

LLYFR OPTEG

Erbyn iddo gael ei ryddhau, roedd Alhazen bron â gorffen ei lyfr mewn saith cyfrol, Llyfr Opteg, sy’n cael ei ystyried yn “un o’r llyfrau mwyaf pwysig yn hanes ffiseg.” Ynddo, mae’n trafod ei arbrofion ar natur golau, gan gynnwys sut mae golau yn hollti yn ei liwiau cyfansoddol, yn adlewyrchu oddi ar ddrychau, ac yn plygu wrth iddo basio o un cyfrwng i mewn i un arall. Hefyd, gwnaeth astudio canfyddiad gweledol ynghyd ag anatomi a mecaneg y llygad.

 Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg, roedd gwaith Alhazen wedi ei gyfieithu o’r Arabeg i’r Lladin, ac am ganrifoedd wedi hynny, roedd ysgolheigion o Ewrop yn cyfeirio at ei waith fel ffynhonnell awdurdodol. Roedd ei waith ar briodweddau lensys wedi gosod y sylfaen ar gyfer gwneuthurwyr sbectols Ewropeaidd a wnaeth, drwy ddal un lens o flaen un arall, ddyfeisio’r telesgop a’r microsgop.

Y CAMERA OBSCURA

Gwnaeth Alhazen ddarganfod y prif egwyddorion sy’n sail i ffotograffiaeth pan adeiladodd yr hyn y gellir ei alw yn y camera obscura cyntaf ar gofnod. “Ystafell dywyll” oedd y lle caeedig hwn, lle’r oedd golau yn dod i mewn iddi drwy agorfa maint twll pìn, ac yn taflunio delwedd o’r hyn a oedd y tu allan ar wal y tu mewn i’r siambr.

Mae’n debyg fod Alhazen wedi adeiladu’r camera obscura cyntaf

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cafodd platiau ffotograffig eu hychwanegu at y camera obscura er mwyn dal delweddau am byth. Y canlyniad? Y camera. Mae pob camera modern—yn ogystal â’r llygad ei hun—yn defnyddio’r un egwyddorion sylfaenol â’r camera obscura. *

Y DULL GWYDDONOL

Un agwedd neilltuol ar waith Alhazen oedd ei ymchwil fanwl a systematig ar ffenomenau naturiol. Roedd ei ddulliau, bryd hynny, yn rhai anarferol. Ef oedd un o’r rhai cyntaf i brofi damcaniaethau drwy gynnal arbrofion, ac nid oedd yn ofni cwestiynu’r doethineb cyffredin pe na byddai’r dystiolaeth yn ei gefnogi.

Mae un o brif egwyddorion gwyddoniaeth fodern yn cael ei chrynhoi yn yr ymadrodd: “Profwch yr hyn rydych chi’n ei gredu!” Yn ôl rhai, Alhazen yw “tad y dull gwyddonol modern.” Ar sail hynny, mae gennyn ni lawer i fod yn ddiolchgar iddo amdano.

^ Par. 13 Nid oedd y tebygrwydd rhwng y camera obscura a’r llygad wedi ei ddeall yn iawn yn y Gorllewin hyd nes iddo gael ei esbonio gan Johannes Kepler yn yr ail ganrif ar bymtheg.