WYT ti’n adnabod brawd neu chwaer sydd wedi symud i wlad dramor lle mae yna angen mawr am fwy o gyhoeddwyr y Deyrnas? Wyt ti wedi gofyn i ti dy hun: ‘Beth sy’n eu cymell nhw i wasanaethu dramor? Sut maen nhw’n paratoi ar gyfer y math hwn o wasanaeth? A fyddwn i’n gallu gwneud yr un peth?’ Ffordd dda o gael atebion i’r cwestiynau hyn yw holi’r brodyr a’r chwiorydd hynny. Felly, beth am inni wneud hynny?

BETH SY’N EU CYMELL NHW?

Pam gwnest ti ddechrau meddwl am wasanaethu mewn gwlad dramor lle mae mwy o angen? Mae Amy, sydd bellach yng nghanol ei thri degau, yn dod o’r Unol Daleithiau. Mae hi’n dweud: “Ro’n i wedi bod yn meddwl am wasanaethu mewn gwlad arall am flynyddoedd, ond yn ôl pob golwg, roedd y nod hwnnw y tu hwnt i’m cyrraedd.” Beth newidiodd ei meddwl? “Yn 2004, gwnaeth cwpl priod a oedd yn gwasanaethu yn Belîs fy ngwahodd i i ymweld â nhw ac i arloesi gyda nhw am fis. Felly dyna wnes i—ac ro’n i wrth fy modd! Flwyddyn yn ddiweddarach, symudais i Ghana i arloesi.”

Aaron a Stephanie

Mae Stephanie yn dod o’r Unol Daleithiau ac yn ei hugeiniau hwyr. Sawl blynedd yn ôl, penderfynodd hi edrych yn fanwl ar ei hamgylchiadau, a meddyliodd hi: ‘Mae gen i iechyd da a does gen i ddim cyfrifoldebau teuluol. Mewn gwirionedd, galla’ i wneud llawer mwy i Jehofa nag yr ydw i ar hyn o bryd.’ Gwnaeth yr hunanasesu gonest hwnnw ei chymell hi i symud i Ghana ac ehangu ei gweinidogaeth. Roedd Filip ac Ida, arloeswyr yn eu canol oed a oedd yn dod o Denmarc, yn wastad wedi breuddwydio am gael symud i ardal lle roedd angen mwy o help. Chwilion nhw am ffordd o wireddu eu breuddwyd. “Pan ddaeth y cyfle, roedd hi fel petai Jehofa yn dweud wrthyn ni: ‘Ewch amdani!’” Yn 2008, symudon nhw i Ghana a gwasanaethu yno am dros dair blynedd.

Brook a Hans

Mae Hans a Brook yn arloeswyr yn eu tri degau sy’n gwasanaethu yn yr Unol Daleithiau. Yn 2005,  gwnaethon nhw helpu i roi cymorth ar ôl Corwynt Katrina. Yn hwyrach ymlaen, gwnaethon nhw gais ar gyfer helpu gyda phrosiectau adeiladu rhyngwladol, ond chawson nhw ddim gwahoddiad. “Yna,” meddai Hans, “clywson ni anerchiad yn y gynhadledd yn sôn am y Brenin Dafydd yn derbyn nad oedd yn cael adeiladu’r deml, felly dewisodd nod newydd. Roedd clywed hynny yn ein helpu i ddeall nad yw’n anghywir i rywun newid ei amcanion theocrataidd.” (1 Cron. 17:1-4, 11, 12; 22:5-11) Mae Brook yn ychwanegu, “Roedd Jehofa eisiau inni gnocio ar ddrws arall.”

Ar ôl iddyn nhw glywed hanesion difyr gan eu ffrindiau sydd wedi gwasanaethu mewn gwledydd eraill, cafodd Hans a Brook eu hysbrydoli i drio arloesi dramor. Yn 2012, aethon nhw i Ghana i wasanaethu mewn cynulleidfa iaith arwyddion am bedwar mis. Er bod rhaid iddyn nhw fynd yn ôl i’r Unol Daleithiau, mae’r profiad o wasanaethu yn Ghana wedi eu gwneud nhw’n fwy penderfynol o roi’r Deyrnas yn gyntaf yn eu bywydau. Ers hynny, maen nhw wedi helpu ar brosiect adeiladu swyddfa gangen yn Meicronesia.

CYMRYD CAMAU ER MWYN CYRRAEDD EU NOD

Sut gwnest ti baratoi ar gyfer gwasanaethu lle mae yna fwy o angen? “Wnes i ymchwil drwy ddarllen erthyglau perthnasol yn y Tŵr Gwylio a oedd yn trafod gwasanaethu lle mae mwy o angen,” meddai Stephanie. * “Hefyd, siaradais â henuriaid fy nghynulleidfa ac arolygwr y gylchdaith a’i wraig ynglŷn â’m hawydd i wasanaethu dramor. Yn bwysicach na hynny, gweddïais ar Jehofa yn aml am fy mwriadau.” Ar yr un pryd, roedd Stephanie yn cadw ei bywyd yn syml, ac roedd hynny’n caniatáu iddi neilltuo arian ar gyfer ei chynnal ei hun dramor.

Dywed Hans: “Gweddïon ni ar Jehofa am ei arweiniad oherwydd ein bod ni eisiau mynd i le’r oedd Jehofa eisiau inni fynd. Gwnaethon ni hefyd gynnwys  yn ein gweddïau y dyddiad penodol yr oedden ni’n bwriadu rhoi ein cynllun ar waith.” Anfonodd y cwpl lythyrau i bedair swyddfa gangen. Wedi iddyn nhw dderbyn ymateb positif iawn oddi wrth y gangen yn Ghana, teithion nhw yno gyda’r bwriad o aros am ddeufis. “Cawson ni gymaint o hwyl yn gweithio ochr yn ochr â’r gynulleidfa,” meddai Hans, “gwnaethon ni aros am gyfnod hirach.”

Adria a George

Gwnaeth George ac Adria, cwpl o Ganada yn eu tri degau hwyr, gadw mewn cof fod Jehofa yn bendithio penderfyniadau da, ac nid bwriadau da yn unig. Felly, cymeron nhw gamau pendant er mwyn cyrraedd eu nod. Gwnaethon nhw gysylltu â chwaer a oedd yn gwasanaethu yn Ghana gan ofyn llawer o gwestiynau. Ysgrifennon nhw hefyd i swyddfa’r gangen yng Nghanada ac i’r un yn Ghana. Ac meddai Adria: “Chwilion ni am ffyrdd i symleiddio ein bywyd eto fyth.” Roedd y penderfyniadau hynny yn eu galluogi nhw i symud i Ghana yn 2004.

YMATEB I HERIAU

Pa heriau roedd rhaid iti eu hwynebu ar ôl iti symud, a sut gwnest ti ddelio â nhw? Ar y cychwyn, roedd Amy yn hiraethu am adref. “Roedd popeth mor wahanol i’r hyn roeddwn i wedi arfer ag ef.” Beth a helpodd hi? “Ges i alwadau gan fy nheulu yn dweud cymaint roedden nhw’n gwerthfawrogi beth roeddwn i’n ei wneud, ac roedd hynny’n fy atgoffa o’r rhesymau dros symud. Yn nes ymlaen, dechreuon ni gysylltu â’n gilydd drwy alwadau fideo. Oherwydd ein bod ni’n gallu gweld ein gilydd, doeddwn i ddim yn teimlo mor bell i ffwrdd o’r teulu.” Mae Amy yn dweud bod gwneud ffrindiau â chwaer leol brofiadol wedi ei helpu hi i ddeall gwahanol arferion. “Roeddwn i’n gallu dibynnu ar fy ffrind a mynd ati am help pan nad oeddwn i’n deall y ffordd  roedd pobl yn ymateb. Gyda’i chymorth hi, dysgais beth i’w wneud a beth i beidio â’i wneud, ac roedd hynny’n fy helpu i fod yn hapus yn y weinidogaeth.”

Pan symudodd George ac Adria i Ghana, ar y cychwyn roedden nhw’n teimlo fel petasen nhw wedi teithio yn ôl mewn amser. “Yn hytrach na defnyddio peiriant golchi, roedd rhaid defnyddio bwcedi. Roedd paratoi bwyd yn cymryd dengwaith yn hirach na’r hyn roedden ni wedi arfer ag ef,” meddai Adria. “Ond mewn amser, roedden ni’n ystyried y sefyllfaoedd anodd hynny yn brofiadau newydd.” Dywed Brook, “Er gwaethaf y rhwystrau a wynebon ni fel arloeswyr, mae ein bywyd yn un bodlon. Pan ydyn ni’n meddwl am ein holl brofiadau adeiladol, rydyn ni’n sylweddoli bod gennyn ni atgofion melys iawn.”

GWEINIDOGAETH SY’N DOD Â BENDITHION

Pam rwyt ti’n annog eraill i drio’r math hwn o wasanaeth? “Dw i’n cael cymaint o bleser o bregethu mewn tiriogaeth lle mae pobl mor awyddus i ddysgu’r gwirionedd fel eu bod nhw eisiau astudio’r Beibl bob dydd,” meddai Stephanie. “Un o’r penderfyniadau gorau dw i wedi ei wneud erioed yw mynd i wasanaethu lle mae gofyn am fwy o gyhoeddwyr!” Yn 2014, gwnaeth Stephanie briodi Aaron, a heddiw maen nhw’n gwasanaethu yn swyddfa gangen Ghana.

“Mae’n brofiad mor dda,” meddai Christine, arloeswraig o’r Almaen sydd bellach yn ei thri degau cynnar. Cyn symud i Ghana roedd Christine yn gwasanaethu yn Bolifia. Mae hi’n ychwanegu: “Oherwydd fy mod i mor bell i ffwrdd o’r teulu, rydw i’n wastad yn troi at Jehofa am help. Mae ef wedi dod yn fwy real i mi nag erioed. Rydw i hefyd yn profi’r undod arbennig sy’n bodoli ymhlith pobl Jehofa. Mae’r gwasanaeth hwn wedi cyfoethogi fy mywyd.” Yn ddiweddar, gwnaeth Christine briodi Gideon, ac mae’r ddau ohonyn nhw yn dal yn gwasanaethu yn Ghana.

Christine a Gideon

Mae Filip ac Ida yn esbonio sut roedden nhw’n helpu eu myfyrwyr i wneud cynnydd. “Ar un adeg roedden ni’n astudio gyda 15 a mwy o bobl, ond gwnaethon ni benderfynu cadw at 10 er mwyn eu dysgu nhw’n iawn.” Oedd y myfyrwyr yn cael budd o hynny? Dywed Filip: “Ro’n i’n astudio gyda Michael. Roedd yn astudio bob dydd ac yn paratoi mor dda fel y gwnaethon ni orffen y llyfr Beibl Ddysgu mewn mis. Wedi hynny, daeth Michael yn gyhoeddwr difedydd. Ar ei ddiwrnod cyntaf yn y weinidogaeth, gofynnodd imi: ‘Elli di fy helpu gyda fy astudiaethau Beiblaidd?’ Edrychais yn syn arno. Eglurodd Michael ei fod wedi dechrau tair astudiaeth Feiblaidd a bod angen help arno i’w cynnal.” Dychmyga, mae cymaint o angen am athrawon fel y mae myfyrwyr y Beibl hyd yn oed yn dysgu eraill am y Beibl!

Ida a Filip

Yn fuan iawn, sylweddolodd Amy gymaint oedd yr angen: “Ychydig ar ôl imi gyrraedd Ghana, aethon ni i bregethu mewn pentref bach er mwyn chwilio am bobl fyddar. Yn hytrach na dod o hyd i un person byddar, daethon ni ar draws wyth o bobl fyddar yn y pentref hwnnw yn unig!” Yn y cyfamser, gwnaeth Amy briodi Eric, ac maen nhw’n gwasanaethu fel arloeswyr arbennig. Mae Amy ac Eric yn rhan o gynulleidfa iaith arwyddion sy’n helpu rhai o’r 300 a mwy o gyhoeddwyr a phobl fyddar yn y wlad sydd â diddordeb. Wrth wasanaethu yn Ghana, profodd George ac Adria drostyn nhw eu hunain yr hyn sy’n angenrheidiol er mwyn bod yn genhadon. Felly, mor hapus yr oedden nhw i dderbyn gwahoddiad i ddosbarth 126 Ysgol Gilead! Heddiw, maen nhw’n gwasanaethu fel cenhadon yn Mosambîc.

CARIAD SY’N EU CYMELL

Calonogol yw gweld cynifer o bobl o wahanol wledydd yn gweithio’n galed ochr yn ochr â’r brodyr a’r chwiorydd lleol er mwyn casglu’r cynhaeaf. (Ioan 4:35) Ar gyfartaledd, mae 120 o bobl yn cael eu bedyddio yn Ghana bob wythnos. Fel sy’n wir yn achos yr 17 unigolyn sydd wedi symud i helpu yn Ghana, mae miloedd o gyhoeddwyr ar draws y byd wedi cael eu cymell gan gariad tuag at Jehofa i wasanaethu o’u gwirfodd. Maen nhw’n gwasanaethu mewn ardaloedd lle mae angen mwy o gyhoeddwyr y Deyrnas. Yn sicr, mae’r gweithwyr parod hynny yn gwneud i galon Jehofa lawenhau!—Salm 110:3, beibl.net; Diar. 27:11.

^ Par. 9 Gweler, er enghraifft, yr erthyglau “Can You Serve Where the Need for Kingdom Publishers Is Greater?” a “Can You Step Over Into Macedonia?”—Y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Ebrill a 15 Rhagfyr 2009.