Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 95

Ar Gynnydd Mae’r Llewyrch

Dewis Recordiad Sain
Ar Gynnydd Mae’r Llewyrch
GWELD

(Diarhebion 4:18)

  1. 1. Flynyddoedd yn ôl fe ddatguddiwyd gan Dduw

    Fod nerthol Waredwr yn dŵad.

    Ei ysbryd ddatgelodd ddyfodiad y Crist

    A’r rhyddid a roddai i’r Cread.

    Meseia a ddaeth, Brenin nerthol nawr yw,

    Arwyddion o hyn leinw’r byd.

    Angylion y nef sydd yn ysu, fel ni,

    Am gael deall yn well hyn i gyd.

    (CYTGAN)

    Ar gynnydd mae llewyrch ein llwybr,

    Y wawrddydd i’w hanterth a ddaeth.

    Cawn gerdded ar lwybr goleuni,

    Ein harwain mae Duw ar y daith.

  2. 2. Penododd ein Harglwydd was ffyddlon a chall

    I roi bwyd yn gyson i’w weision.

    Yn raddol, cynyddodd goleuni y gwir,

    Yn llachar a chlir mae’n disgleirio.

    Yn sicr ein cam, goleuedig ein trem,

    Fe gerddwn yng ngolau y dydd.

    Rhoi diolch a wnawn i Ffynhonnell y gwir—

    Duw Jehofa ei lewyrch a rydd.

    (CYTGAN)

    Ar gynnydd mae llewyrch ein llwybr,

    Y wawrddydd i’w hanterth a ddaeth.

    Cawn gerdded ar lwybr goleuni,

    Ein harwain mae Duw ar y daith.