Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 90

Annog Ein Gilydd

Dewis Recordiad Sain
Annog Ein Gilydd
GWELD

(Hebreaid 10:24, 25)

  1. 1. Wrth ddangos cariad at ein brodyr

    Er mwyn eu hannog a’u cryfhau,

    Teimladau cynnes a fydd rhyngom,

    A heddwch undod cawn fwynhau.

    Cariadus bobl sydd o’n cwmpas,

    Y gynulleidfa, hafan yw.

    Mae’r gofal gawn yn amhrisiadwy,

    Diogel teimlwn wrth gyd-fyw.

  2. 2. Fel gem yw gair o lân ganmoliaeth—

    Cysuro, rhoi anogaeth wna.

    Mawr gysur gawn gan frodyr ffyddlon

    A ddaeth i ni’n gymdeithion da.

    Cydweithio wnawn ar bob un cyfle,

    ’R un nod a gobaith gennym sydd.

    Â geiriau mwyn cawn godi calon,

    Help rown i gario pwysau’r dydd.

  3. 3. Mor agos yw dydd mawr Jehofa;

    I lygaid ffydd mae’n amlwg iawn,

    Ac felly’n fwyfwy yw ein hangen,

    I’r cyfarfodydd brysio wnawn.

    Yn unfryd gyda’r gynulleidfa,

    Yn frodyr ac yn ffrindiau cu.

    Â chariad, annog wnawn ein gilydd,

    I’r diwedd, ffyddlon byddwn ni.