Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 8

Jehofa Yw Ein Noddfa

Dewis Recordiad Sain
Jehofa Yw Ein Noddfa
GWELD

(Salm 91)

  1. 1. Jehofa yw ein noddfa,

    Ein hamddiffynfa gref.

    Yng nghysgod Duw cawn loches,

    Lle hollol saff yw Ef.

    Yn bendant, ein hamddiffyn gawn,

    Ymddiried ynddo’n llwyr a wnawn.

    Caer gadarn yw Jehofa,

    Ef sy’n ffyddlon, cyfiawn a theg.

  2. 2. Mae miloedd wedi syrthio

    I’r dde, ac ar y chwith.

    Ond hafan yw Jehofa,

    Ei adain drosom sydd.

    I’r ffyddlon, man diogel yw

    Dirgelfa’r Hollalluog Dduw.

    Dan darian Ei ffyddlondeb,

    Heb ofn niwed y trigwn ni.

  3. 3. Ein gwarchod mae Jehofa—

    Goleua’r maglau cudd,

    Fe’n ceidw rhag ofn dychryn

    Y nos, a saethau’r dydd.

    Drwy bob argyfwng, haint, a storm,

    Gwnawn droedio ’mlaen yn ddewr, heb ofn.

    Jehofa yw ein noddfa,

    Amddiffynfa gaerog ein ffydd.