Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 7

Jehofa, Ein Nerth

Dewis Recordiad Sain
Jehofa, Ein Nerth
GWELD

(Eseia 12:2)

  1. 1. Dduw Jah Jehofa, ein cryfder wyt ti.

    Ti yw ein Tŵr, rwyt yn guddfan i ni.

    Ti yw ein Craig, ein cadernid a’n Llyw,

    Ni yw dy Dystion a thi yw ein Duw.

    (CYTGAN)

    Jehofa, ein nerth, ein noddfa a’n cân,

    Seiniwn ein moliant i’th enw glân.

    Ti yw’r godidog Iachawdwr o fri.

    Ti yw ein tarian—gwir hafan wyt ti.

  2. 2. Yn dy oleuni, fe welwn yn glir

    Beth yw anwiredd a beth ydyw’r gwir.

    Chwilio d’ysgrifau a wnawn nos a dydd

    Fel y cawn sefyll yn ddewr dros ein ffydd.

    (CYTGAN)

    Jehofa, ein nerth, ein noddfa a’n cân,

    Seiniwn ein moliant i’th enw glân.

    Ti yw’r godidog Iachawdwr o fri.

    Ti yw ein tarian—gwir hafan wyt ti.

  3. 3. Er gwaethaf Satan a’i watwar a’i dwyll,

    Heb ddychryn, cariwn ymlaen gyda phwyll.

    Pan ddaw i’n rhan erledigaeth, plîs rho

    Inni deyrngarwch, a’th Air dwg i’n cof.

    (CYTGAN)

    Jehofa, ein nerth, ein noddfa a’n cân,

    Seiniwn ein moliant i’th enw glân.

    Ti yw’r godidog Iachawdwr o fri.

    Ti yw ein tarian—gwir hafan wyt ti.