Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 68

Hau Had y Deyrnas

Dewis Recordiad Sain
Hau Had y Deyrnas
GWELD

(Mathew 13:4-8)

  1. 1. Tyrd, dere, ymuna â’r gweithwyr,

    Ateba’r gwahoddiad yn glou.

    Mae’r Meistr yn barod i’n helpu

    I wneud yr holl waith mae e’n moyn.

    Gall un hadyn bach sy’n dod o dy law

    Egino ar bridd sydd yn dda.

    Parha i hau had y gwirionedd yn hael,

    Ac yng nghalon sy’n fwyn, tyfu wna.

  2. 2. Er mwyn i had lwyddo a ffynnu,

    Rhaid troi, trin, a dyfrio y tir.

    Rhaid inni addasu ein dulliau

    I’w dysgu i garu y gwir.

    Amheuon a gwyd, a phwysau a ddaw,

    Ond rhoi cymorth cyson a wnawn.

    Wrth weld had y Deyrnas yn tyfu yn fwy

    Yn eu calon bob dydd, llawenhawn.

(Gweler hefyd Math. 13:19-23; 22:37.)