Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 6

Mae’r Nefoedd yn Adrodd Gogoniant Duw

Dewis Recordiad Sain
Mae’r Nefoedd yn Adrodd Gogoniant Duw
GWELD

(Salm 19)

  1. 1. Adrodda’r nen ysblander gwych Jehofa.

    Heb eiriau, y mae’r sêr

    yn traethu’i grefftwaith ef.

    Llefara’r haul ogoniannau i’w nerth.

    Godidog yw gweithredoedd Duw!

    Ei ganmol mae y nef.

  2. 2. Mae cyfraith Duw yn berffaith, mae’n adfywio.

    Ei Air ef sydd yn lân.

    Goleuo’r llygaid mae.

    Ei reol ef sydd yn gyfiawn a theg.

    Gwnaiff barnau gwir a chyngor pur

    I’r galon lawenhau.

  3. 3. Mae ofn Jehofa yn parhau’n dragywydd.

    Mwy gwerthfawr yw nag aur.

    Fel mêl, mor felys yw.

    Mor deilwng ydyw o’n parch, bri, a’n clod.

    Moliannwn ef, Benarglwydd nef,

    Ein gogoneddus Dduw!