Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Canwn yn Llawen i Jehofa

 CÂN 54

“Dyma’r Ffordd”

Dewis Recordiad Sain
“Dyma’r Ffordd”
GWELD
Testun
Delwedd

(Eseia 30:20, 21)

  1. 1. Mae ffordd o heddwch

    sy’n gyfarwydd iawn i chi,

    Fe ddysgodd Iesu gynt

    yr heddwch hwn i ni.

    Ei loyw genadwri

    eich cyffroi a wnaeth—

    Ffordd dangnefeddus Gair

    Jehofa yw, ar waith.

    (CYTGAN)

    ‘O, dyma’r ffordd i’r bywyd,’ medd llais Duw.

    ‘Paid troi i’r dde na’r chwith; jest cadw’n driw!

    Syth yn dy flaen—dyma’r ffordd,’ medd Duw;

    ‘Paid edrych ’n ôl, yr hen, hen lwybr yw.’

  2. 2. Duw sy’n ein galw,

    dangos ffordd o gariad mae.

    Rhaid peidio crwydro nawr

    ond mynd yn syth ymlaen.

    Ei gariad mwyn mae’n

    estyn atom yn ddi-drai;

    Ymateb wnawn. Mae’n

    galw ar ei annwyl rai:

    (CYTGAN)

    ‘O, dyma’r ffordd i’r bywyd,’ medd llais Duw.

    ‘Paid troi i’r dde na’r chwith; jest cadw’n driw!

    Syth yn dy flaen—dyma’r ffordd,’ medd Duw;

    ‘Paid edrych ’n ôl, yr hen, hen lwybr yw.’

  3. 3. Mae Duw yn dangos inni’r

    ffordd i’r bywyd iawn.

    Nid oes ffordd well,

    Wrth gerdded arni, hedd a gawn.

    Wrth rodio arni, daw

    bendithion mawr i ni.

    Mae Duw yn cynnig

    bywyd nawr i chi a fi.

    (CYTGAN)

    ‘O, dyma’r ffordd i’r bywyd,’ medd llais Duw.

    ‘Paid troi i’r dde na’r chwith; jest cadw’n driw!

    Syth yn dy flaen—dyma’r ffordd,’ medd Duw;

    ‘Paid edrych ’n ôl, yr hen, hen lwybr yw.’