Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 52

Ymgysegru yn Gristion

Dewis Recordiad Sain
Ymgysegru yn Gristion
GWELD

(Hebreaid 10:7, 9)

  1. 1. Mawr Dduw Jehofa a greodd

    Ysblander gloyw’r nef;

    Yr haul, y lloer, a’r sêr uwchben

    Yw gwaith ei fysedd ef.

    I ddyn rhoes anadl bywyd,

    A’r ddae’r yn gartre’ gwiw.

    Ei enw sy’n fawr drwy’r byd i gyd,

    Llawn deilwng o’n mawl yw Duw.

  2. 2. Cael bedydd dŵr a wnaeth Iesu—

    Cyfiawnder oedd ar waith;

    “I wneud d’ewyllys, dyma fi,

    O Dduw,” gweddïo wnaeth.

    O’r ddofn Iorddonen fe gododd

    Yn Fab eneiniog Duw.

    Ar lwyr ymostyngiad rhoes ei fryd,

    Yn was daeth i’r ddynol ryw.

  3. 3. Ger bron dy orsedd, Jehofa,

    Pob clod i’th enw rhown.

    I lwyr gysegru’n bywyd nawr

    Yn wylaidd atat down.

    Angerddol aberth d’anwylyd

    Yw sail ein gobaith ni.

    Ai byw gawn, ai marw, d’eiddo ŷm.

    Iôr, safwn yn driw i ti.