Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 37

Gwasanaethu Jehofa â’th Holl Enaid

Dewis Recordiad Sain
Gwasanaethu Jehofa â’th Holl Enaid
GWELD

(Mathew 22:37)

  1. 1. O Jehofa, Frenin, Arglwydd,

    Rwyf yn dy garu. Ti yw fy Nuw.

    Ti sy’n deilwng o’m hymroddiad.

    Talaf f’adduned. Byddaf yn driw.

    Â’m holl galon caraf dy gyfraith,

    Â’m holl enaid canaf dy fawl.

    (CYTGAN)

    O Jehofa, ti sy’n deilwng;

    I ti ymrof yn llwyr ac yn llawn.

  2. 2. Mae’th weithredoedd yn dy ganmol,

    Canu dy glod mae’r sêr, lloer, a’r haul.

    Boed i minnau fod mor gyson,

    Boed i’m ffyddlondeb bara’n ddi-drai.

    Â’m holl nerth moliannaf dy enw,

    Â’m holl â feddwl gwnaf beth sy’n iawn.

    (CYTGAN)

    O Jehofa, ti sy’n deilwng;

    I ti ymrof yn llwyr ac yn llawn.