Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 30

Fy Nhad, Fy Nuw a’m Ffrind

Dewis Recordiad Sain
Fy Nhad, Fy Nuw a’m Ffrind
GWELD
Testun
Delwedd

(Hebreaid 6:10)

  1. 1. Byr, brwnt a brau yw ein hoes,

    Tristwch a all am yn hir barhau,

    Ond er y dagrau a’r boen,

    Caf eto lawenhau.

    (CYTGAN)

    Fy Nuw nid yw’n anghyfiawn,

    Nid yw’n anghofio fy ngwaith o ffydd,

    Mae’n cofio ’nghariad ato,

    A’m ffyddlondeb o ddydd i ddydd.

    F’amddiffyn mae Jehofa,

    Mae’n gyfaill annwyl, mae’n gyfaill triw,

    Ffrind cariadus yw Jehofa,

    Fy Nhad a’m Duw.

  2. 2. Dyddiau fy nerth sydd ar drai,

    Ond ar benllanw y mae fy ffydd,

    Er bod fy nghorff yn gwanhau,

    Tu mewn, parhaf yn gryf.

    (CYTGAN)

    Fy Nuw nid yw’n anghyfiawn,

    Nid yw’n anghofio fy ngwaith o ffydd,

    Mae’n cofio ’nghariad ato,

    A’m ffyddlondeb o ddydd i ddydd.

    F’amddiffyn mae Jehofa,

    Mae’n gyfaill annwyl, mae’n gyfaill triw,

    Ffrind cariadus yw Jehofa,

    Fy Nhad a’m Duw.

(Gweler hefyd Salm 71:17, 18.)