Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 29

Mae Dy Enw Arnom

Dewis Recordiad Sain
Mae Dy Enw Arnom
GWELD

(Eseia 43:10-12)

  1. 1. Arglwydd Jehofa, mawr Dduw hollalluog,

    Gymaint dy gariad, rhoist arnom dy fryd.

    Awdur goleuni, gwirionedd, doethineb—

    Ti sy’n rheoli y cread i gyd.

    Braint fendigedig yw cael dy was’naethu,

    Dwedwn wrth bawb am dy Deyrnas, O Dduw.

    (CYTGAN)

    Ni yw dy Dystion, mae arnom dy enw,

    Ffyddlon a fyddwn i’n Harglwydd clodwiw!

  2. 2. Cadw ni’n brysur mae’r gwaith cysegredig—

    Creu mae frawdoliaeth sy’n gynnes, gytûn.

    Dysgu a wnawn dy wirionedd i eraill,

    I ben draw’r byd awn, dros fynydd a ffin.

    Teyrnas sy’n goron i’th lân Benarglwyddiaeth—

    Dyna gyhoeddwn, myrddiynau a glyw.

    (CYTGAN)

    Ni yw dy Dystion, mae arnom dy enw,

    Ffyddlon a fyddwn i’n Harglwydd clodwiw!