Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 17

Gad Imi Dy Helpu

Dewis Recordiad Sain
Gad Imi Dy Helpu
GWELD

(Luc 5:13)

  1. 1. Gwelson gariad grymus ar waith

    Ym mywyd y Crist, i’n byd daeth.

    Cyfnod gore ei oes

    O’i wirfodd fe roes;

    At bobl mewn angen yr aeth.

    Rhoddodd iddynt gariad, iachâd,

    I’w bywyd daeth eto fwynhad—

    “Fy aseiniad oedd dod i was’naethu—

    Tyrd yma, gad im dy helpu.”

  2. 2. Dilyn ffordd yr Iesu a wnawn,

    At ffrind a chymydog nesawn.

    Boed i’n hysbryd a’n gair

    Bob dydd brofi’n daer;

    I’w hannog, a’u dysgu yr awn.

    At y rhai mewn angen y trown,

    Â chymorth, eu calon cyffrown;

    I’w cysuro fe frysiwn heb oedi—

    ‘Gadewch imi plîs eich helpu.’