Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 15

Molwch Gyntaf-anedig Jehofa!

Dewis Recordiad Sain
Molwch Gyntaf-anedig Jehofa!
GWELD

(Hebreaid 1:6)

  1. 1. Molwch fab Jehofa,

    Mab cyntaf-anedig Duw!

    Mae’n sefyll dros gyfiawnder,

    Prif farchog gwirionedd yw.

    Ag urddas ac ysblander,

    A nerth, i’r gad yr aiff.

    O blaid Duw a’i sofraniaeth,

    Mawr fuddugoliaeth gaiff.

    (CYTGAN)

    Molwch fab Jehofa,

    Mab cyntaf-anedig Duw!

    Teyrnasu mae o’r nefoedd.

    Rhowch fawl iddo—Brenin yw!

  2. 2. Molwch fab Jehofa,

    Mab cyntaf-anedig Duw!

    Ei fywyd roddodd trosom

    Er mwyn i ni oll gael byw.

    Priodferch lwyr ysblennydd,

    Mewn gwisg ddisgleiraur lân,

    Sy’n disgwyl ei phriodfab.

    Dewch, molwch ef â’n cân:

    (CYTGAN)

    Molwch fab Jehofa,

    Mab cyntaf-anedig Duw!

    Teyrnasu mae o’r nefoedd.

    Rhowch fawl iddo—Brenin yw!