Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 137

Gwragedd Ffyddlon, Chwiorydd Cristnogol

Dewis Recordiad Sain
Gwragedd Ffyddlon, Chwiorydd Cristnogol
GWELD

(Rhufeiniaid 16:2)

  1. 1. Sara ac Esther, Mair a Ruth ac eraill—

    Ffyddlon, hyderus, a medrus oedd y rhain.

    Duw a’i ewyllys a roesant ar y blaen.

    Medrwn ddarllen am eu hanes—cofnod sydd.

    Eraill hefyd gafodd ffafr Jehofa,

    Wyddom ni mo’u henwau, ond amlwg oedd eu ffydd.

  2. 2. Dewrder, teyrngarwch, cariad, a daioni—

    Dyma rinweddau dymunol, buddiol, gwiw.

    Dangos y rhain a wnaeth gwragedd ffyddlon triw.

    Arnynt mae ein merched glân yn rhoi eu bryd.

    Gwerthfawrogwn ein chwiorydd annwyl.

    Carwn eu ffyddlondeb. O bydded gwyn eu byd.

  3. 3. Famau, chwiorydd, ferched, a chi weddwon

    Sydd yn llafurio yn llawen yng ngwaith Duw,

    Peidiwch ag ofni, eich gwobr, agos yw.

    Eich addfwynder a’ch gwyleidd-dra, Duw a’u gwêl.

    Mae Jehofa’n cadw llygad arnoch,

    Gwerthfawr ydych iddo. Gwobrwyo wna eich sêl.