Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 133

Addoli Jehofa Chi Bobl Ifanc

Dewis Recordiad Sain
Addoli Jehofa Chi Bobl Ifanc
GWELD

(Pregethwr 12:1)

  1. 1. Ni sydd yn ifanc, a ffyddlon i Dduw,

    Nerth ein hieuenctid, o werth iddo yw.

    Sylw cariadus Jehofa a gawn,

    Mae e’n bendithio pob ymdrech a wnawn.

  2. 2. At ein rhieni, ein parch dangos wnawn,

    Plesiwn Jehofa ac ato nesawn.

    Ffrind i ni bydd ef bob dydd byddwn byw,

    Da yw ymdrechu i ennill ffafr Duw.

  3. 3. Ein Mawr Greawdwr a gofiwn bob dydd,

    Tyfu mae’n cariad, cynyddu mae’n ffydd.

    Wrth wneud ein gorau, ein bywyd fwynhawn,

    Calon Jehofa yn hapus a wnawn.