Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 128

Sefyll yn Gadarn i’r Diwedd

Dewis Recordiad Sain
Sefyll yn Gadarn i’r Diwedd
GWELD

(Mathew 24:13)

  1. 1. Mewn byd heb obaith, glynu wnawn

    Wrth addewidion Duw.

    Fel angor i’n bywydau maent—

    Sail cwbl gadarn i’n byw.

    Mewn ffydd edrychwn ’mlaen yn frwd

    At fawr ddiwrnod Duw—mae’n dod!

    Os daw treialon, ’n gryfach down,

    Dal ati bob dydd yw’n nod.

  2. 2. Ein cariad cynnar cadw rhaid

    Yn wresog a’n ddi-drai.

    Yn weithgar yn y ffydd parhawn

    Er gwaethaf drwg yn dwysáu.

    Beth bynnag ddaw i’n rhan fel prawf,

    Yn y gwir y safwn ni.

    Heb amau dim, dod trwodd wnawn,

    Ffyddloniaid o’n cwmpas sy’.

  3. 3. Ein hachub gawn os sefyll wnawn

    Yn gadarn yn y ffydd;

    Ac yna, yn sgrôl bywyd Duw

    Ein henw yno a fydd.

    Y prawf, cyflawni wna ei waith;

    Gwnawn ein gorau, ’mlaen yr awn.

    Fe wêl Jehofa’n hymdrech ddewr,

    A chanddo ein canmol gawn.