Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Canwn yn Llawen i Jehofa

 CÂN 115

Diolch am Amynedd Dwyfol

Dewis Recordiad Sain
Diolch am Amynedd Dwyfol
GWELD
Testun
Delwedd

(2 Pedr 3:15)

  1. 1. Mawr Dduw, Jehofa, nerthol wyt ti,

    Bwa cyfiawnder drosot sy’.

    Gwrthod mae dyn dy gyfiawn ffyrdd;

    Poen ddaw o hyn i’th ffyddlon fyrdd.

    Ond amyneddgar ydwyt ein Duw,

    Dy fwriad yw i’th Air ddod i’w clyw.

    (CYTGAN)

    Cryf yw ein gobaith; ’mlaen yr awn.

    Rhoi clod i’th enw dros ddaear wnawn.

  2. 2. Mil o flynyddoedd, heibio yr ânt;

    Mor fyr yw’n dyddiau ni a’n plant!

    Reit ar ei amser daw dy ddydd,

    Ni fyddi’n oedi, sicrwydd sydd.

    Gwelwn edifar lu, addfwyn rai’n

    Gwrando ar Jah o weld moes ar drai.

    (CYTGAN)

    Cryf yw ein gobaith; ’mlaen yr awn.

    Rhoi clod i’th enw dros ddaear wnawn.

(Gweler hefyd Neh. 9:30; Luc 15:7; 2 Pedr 3:8, 9.)