Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 114

Byddwch yn Amyneddgar

Dewis Recordiad Sain
Byddwch yn Amyneddgar
GWELD

(Iago 5:8)

  1. 1. Dymuna Dduw Jehofa

    I bawb roi parch i’w enw glân.

    Ei feio mae’r cenhedloedd

    Am lwyth o bethau, mawr a mân.

    Dros filoedd o flynyddoedd,

    Ac yn wyneb cabledd hy,

    Heb flino, a heb ballu,

    Mor amyneddgar bu.

    A’r rheswm yw ei gariad

    A’i garedigrwydd at y byd—

    Fel caiff pob math o bobl

    Eu hachub drwy ddod mewn i’r gwir.

  2. 2. Wrth gerdded llwybrau dwyfol,

    Amynedd tebyg fydd o fudd.

    Tawelu wna ein calon,

    A’n gwarchod drwy ostegu’n llid.

    Wrth fod yn amyneddgar,

    Doniau eraill canmol wnawn,

    Fe’n cadwa ni yn gytbwys

    Mewn trallod, a dan brawf.

    Datblygu wnawn rinweddau,

    A dangos ffrwyth yr ysbryd glân,

    Â’n cariad amyneddgar

    Gwnawn efelychu’n nefol Dad.