Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 113

Ein Heddwch

Dewis Recordiad Sain
Ein Heddwch
GWELD

(Ioan 14:27)

  1. 1. Canwch i Jehofa fawl,

    Duw tangnefedd yw.

    Rhyfel ddaw i ben drwy law

    Ein heddychlon Dduw.

    Buddugoliaeth gaiff ei Fab,

    Tirion Lyw a gawn.

    Gan ‘Dywysog Heddwch,’ Crist,

    Hedd hyd byth fwynhawn.

  2. 2. Curon ni ein gwaywffyn

    A’n rhyfelgar gledd

    Yn faddeugar eiriau’n llawn

    Tangnefeddus hedd.

    Er mwyn cadw’r heddwch hwn,

    Hybu heddwch rhaid.

    Gyda phraidd Crist Iesu gwnawn

    Ddilyn ôl ei draed.

  3. 3. Rhown yr heddwch hwn ar waith,

    Heuwn hadau hedd.

    Y mae’r heddwch hwn i’w weld

    Ar ein pryd a’n gwedd.

    Tangnefeddus fyddwn ni

    Wrth ddyrchafu’r Gwir,

    A chyn hir, tawelwch gawn—

    Byd llawn heddwch pur.