GWELD
Testun
Delwedd

(Mathew 5:12)

  1. 1. Dwyn ffrwyth mae ein sanctaidd wasanaeth—

    Ar drysor ysbrydol mae’n bryd—

    Mae pobl ar wasgar drwy’r ddaear

    Yn dewis dod allan o’r byd.

    Mae Duw am fendithio ein gwaith ni,

    Wrth ddathlu fe floeddiwn mewn cân;

    Ymuno a wna’r greadigaeth,

    A’r pethau sy’n fawr ac yn fân.

    Os daw, siawns, i’n rhan erledigaeth,

    Fe gadwn ein calon yn llon;

    Mwynhau wnawn, er gwaethaf y cwbl,

    Bydd cariad at Dduw yn ein bron.

    (CYTGAN)

    O’n calon moliannwn ein Duw,

    Mae’r cread yn hynod glodwiw.

    Rhyfeddod ei Air, ei allu a’i rym,

    Cyffroi maent ei glodydd, a’n byw.

  2. 2. Holl sêr gogoneddus y nefoedd,

    Ysblander y ddaear a’r môr;

    Ystyriwn ei rymus weithredoedd,

    Clodforwn ddoethineb ein Iôr.

    Cyhoeddi a wnawn nefol Deyrnas,

    Bendithion a ddaw yn ddi-ri.

    Rhown sglein ar ein sanct genadwri,

    Yn llawen y byddwn a hy.

    Fe ddown wirioneddol yn hapus

    Pan gyrraedd wna byd newydd Duw;

    Wrth ddathlu o flaen Jah Jehofa,

    Gorfoledd a lenwa ein byw.

    (CYTGAN)

    O’n calon moliannwn ein Duw,

    Mae’r cread yn hynod glodwiw.

    Rhyfeddod ei Air, ei allu a’i rym,

    Cyffroi maent ei glodydd, a’n byw.