Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Dewis iaith Cymraeg

 CÂN 110

Llawenydd Jehofa

Dewis Recordiad Sain
Llawenydd Jehofa
GWELD

(Nehemeia 8:10)

  1. 1. Pwyntio y mae pob arwydd yn ein cyfnod

    At bresenoldeb Teyrnas Dduw.

    Codwch eich pennau, nawr cewch iachawdwriaeth,

    Amser eich gwaredigaeth yw!

    (CYTGAN)

    Llawenydd Jehofa yw’n cadernid.

    Yn llawen, canwch nerth eich pen

    Er mwyn gorfoleddu yn y gobaith gwych,

    A rhoi teilwng glod i Dduw y nen.

    Llawenydd Jehofa yw’n cadernid.

    Bydd pawb yn gweld ei fawredd ef.

    Hyd byth, a’n calonnau’n llon, cawn lawenhau

    Wrth was’naethu’n Harglwydd, Brenin nef.

  2. 2. Chi sydd yn caru Duw, trowch at Jehofa.

    Peidiwch ag ofni—grymus yw.

    Sefwch yn syth, taranwch nerth eich lleisiau,

    Canwch eich llawen gân i Dduw!

    (CYTGAN)

    Llawenydd Jehofa yw’n cadernid.

    Yn llawen, canwch nerth eich pen

    Er mwyn gorfoleddu yn y gobaith gwych,

    A rhoi teilwng glod i Dduw y nen.

    Llawenydd Jehofa yw’n cadernid.

    Bydd pawb yn gweld ei fawredd ef.

    Hyd byth, a’n calonnau’n llon, cawn lawenhau

    Wrth was’naethu’n Harglwydd, Brenin nef.