Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Canwn yn Llawen i Jehofa

 CÂN 107

Patrwm Dwyfol Gariad

Dewis Recordiad Sain
Patrwm Dwyfol Gariad
GWELD
Testun
Delwedd

(1 Ioan 4:19)

  1. 1. Jehofa sy’n dangos inni gwir gariad,

    Cariad Duw, patrwm yw.

    Ein hannog y mae i fod iddo’n debyg,

    Byddwn yn driw, cyson wrth fyw.

    Fe roddodd ei Fab, ei unig Anwylyd;

    Maddeuodd yn rhad bechodau oedd enbyd;

    Llawn angerdd y mae i adfer ein bywyd!

    Sail ein cyd-fyw yw cariad ein Duw.

  2. 2. Ei ddilyn a wnawn; ar waith rhown ein cariad,

    Nos a dydd gwresog fydd.

    Gofalwn dros ffrind, a’r un nad yw’n perthyn,

    Cymorth o fudd, mawr angen sydd.

    I garu ein Duw rhaid caru ein brodyr,

    Gwêl eraill fod gennym gariad ag ystyr;

    Gweithredwn i fod yn wir dangnefeddwyr.

    Cynnes a fydd ein cariad bob dydd.

  3. 3. Fe welwn yn undod teulu fawr gariad,

    Closio mae, ni wêl fai.

    Ymateb a wnawn i’n Tad a’i wahoddiad:

    ‘Undod diau llesol y mae.’

    Llawenydd a chariad ffynnant o’n cwmpas,

    Glân ysbryd a’r Gair gryfhânt ein cymdeithas.

    Cyfeillion a brodyr annwyl rônt ragflas—

    Yma y mae gwir undod diau.

(Gweler hefyd Rhuf. 12:10; Eff. 4:3; 2 Pedr 1:7.)