Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r isddewislen

Neidio i'r cynnwys

Tystion Jehofa

Cymraeg

Canwch i Jehofa—Caneuon Newydd

 Cân 138

Jehofa Yw Dy Enw

Jehofa Yw Dy Enw

Lawrlwytho:

(Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân)

  1. Dragwyddol ffyddlon Dduw,

    Gwir Dduw’r holl greadigaeth,

    Duw wyt i bob cenhedlaeth—

    Jehofa ydwyt ti.

    Mae’n fraint i ddod ynghyd

    Yn unfryd gynulleidfa—

    Drwy’r byd i’r cyrion eitha’

    Clodforwn d’enw di.

    (CYTGAN)

    Jehofa, Jehofa,

    Does dim Duw fel tydi.

    Does neb tebyg ar y ddaear

    Na’th debyg oddi fry.

    Ti yw’n Duw, yr Hollalluog;

    Moliannwn d’enw di.

    Jehofa, Jehofa,

    Ein gwir a’n hunig Dduw wyt ti.

  2. Ein peri rwyt i fod

    Beth bynnag a ddymuni—

    D’ewyllys i’w gyflawni—

    Jehofa Dduw wyt ti.

    Caredig ydyw’r rhodd

    O’th enw gogoneddus;

    Braint hynod anrhydeddus

    Yw dwyn dy enw di.

    (CYTGAN)

    Jehofa, Jehofa,

    Does dim Duw fel tydi.

    Does neb tebyg ar y ddaear

    Na’th debyg oddi fry.

    Ti yw’n Duw, yr Hollalluog;

    Moliannwn d’enw di.

    Jehofa, Jehofa,

    Ein gwir a’n hunig Dduw wyt ti.

(Gweler hefyd 2 Cron. 6:14; Salm 72:19; Esei. 42:8.)