Tystion Jehofah—Pwy Ydyn Ni?
Er inni ddod o wahanol gefndiroedd o ran cenedl ac iaith, rydyn ni wedi ein huno gan amcanion cyffredin. Yn bwysicaf oll, rydyn ni eisiau anrhydeddu Jehofah, Duw’r Beibl a Chreawdwr pob peth. Rydyn ni’n gwneud ein gorau i efelychu Iesu Grist ac rydyn ni’n falch o gael ein galw’n Gristnogion. Mae pob un ohonon ni wrthi’n gyson yn helpu pobl i ddysgu am y Beibl ac am Deyrnas Dduw. Gan ein bod yn tystiolaethu, neu’n siarad, am Jehofah Dduw a’i Deyrnas, rydyn ni’n cael ein hadnabod fel Tystion Jehofah.
Ewch ati i chwilota’n gwefan. Darllenwch y Beibl ar-lein. Dysgwch fwy amdanon ni a’n daliadau.


